主播大秀

Rhannu

gan Harri Owain Jones
Bore Mawrth Mai 18 2010

Yn blentyn reit ifanc mynnodd fy rhieni bod pob plentyn oedd yn ymweld a'n t欧 ni yn cael chwarae gyda'r car pedalau oedd gennyf.

Amharod a blin iawn oeddwn i, i rannu fy hoff degan gyda neb, a mawr yw'r cywilydd heddiw o gofio'r fath gamymddwyn. Gair cryf iawn yw rhannu.

Dwy blaid yn rhannu

Erbyn hyn mae dwy blaid yn rhannu grym fel clymblaid yn San Steffan

Tybed a fydd llai o frwydro a mwy o wasanaethu?

Mae'r profiad o rannu grym yn dderbyniol gennym yng Nghymru gan mai dyna yw Llywodraeth ein Cynulliad.

"Rhanna dy bethau gorau," meddai'r ymadrodd. Mae bywyd yn hyfryd a chyfoethog iawn pan ydym yn rhannu gydag eraill gariad, gwasanaeth, cyfeillgarwch a pharch.

Dywedir bod angen arnom fwyta'n iach os am fyw bywyd o iechyd ond beth am slogan arall "Byw yn iach" trwy rannu pethau gorau bywyd - cariad a gwasanaeth.

Y cyfoethog yn rhannu gyda'r tlawd. Mae'n brofiad braf a hapus pan fo rhannu fel hyn mewn bywyd. Mae'n iechyd - ac o ganlyniad mae bywyd yn werth i'w fyw.

Rhannu casineb

Mae 'na bobl sy'n mynnu rhannu casineb ac amheuon a drwgdeimlad gan achosi llanast a phoen a thristwch gan wneud bywyd yn ddiflas.

Yn wir, mae rhai yn awgrymu bod y rhannu grym newydd yn cael ei fygwth oherwydd teimladau felly.

Y mae Paul yn dweud bod tri pheth yn aros, ffydd, gobaith, cariad, ond mai'r mwyaf o'r rhain yw cariad.

Rhannu go iawn

Mae gan Waldo Williams weledigaeth gwerth i'w rhannu,

"Mae rhwydwaith dirgel Duw
Yn cydio pob dyn byw."

Mae'n bwysig bwyta'n iach er lles ein hiechyd, ydi, ond mae yr un mor bwysig 'byw'n iach' - mae pawb ar eu mantais.

Dyna yw rhannu 'go iawn' - beth amdani?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.