主播大秀

Fel ein gilydd

John Gwilym Jones

gan John Gwilym Jones
Bore Mercher Mai 19 2010

Bai rhy debyg!

Yn ei nofel, Dewines Fflorens, mae un o gymeriadau Salman Rushdie yn dweud rhywbeth fel hyn:

"Melltith y ddynoliaeth yw, nid ein bod ni mor wahanol i'n gilydd, ond ein bod ni i gyd mor debyg i'n gilydd."

Yr un gwendidau, yr un beiau, a'r un rhinweddau.

Os down ni i nabod bywyd yn Mwmbai, fe ddown ni i'w nabod ym Myddfai.

Ond cyn y gallwn ni gael rhyfel mae'n rhaid inni feddwl ein bod ni'n wahanol i'n gilydd, a gweld rhyw elyn sy'n hollol annhebyg i ni ac fe laddwn ni fe.

Yn ein golwg ni bydd y gelynion yn gas, tra byddwn ni'n garedig; byddan nhw'n ddieflig tra byddwn ninnau'n drugarog.

Ac eto, brodyr 欧m ni. Mae holl ryfeloedd hanes fel cwerylon mewn teulu ac mae'r rheini'n medru bod yn ddifrifol o greulon. Ac eto un teulu 欧m ni, ac yn eithriadol o debyg i'n gilydd.

Pam gresynu?!

Pam ar wyneb y ddaear y clywaf i bobol yn gresynu nawr fod dwy blaid yn medru cydweithio 芒'i gilydd. Pam y bydd pawb fel petai'n dal ei anadl gan ddisgwyl rhyw ffrwydrad o anghytundeb ddod i rwygo'r cwbwl?

Parhaed brawdgarwch ddweda i; bydd hynny'n well na'r bugunad anifeilaidd y byddem yn arfer ei glywed rhyngddyn nhw gynt.

Pam na all dau frawd gystadlu'n gwrtais 芒'i gilydd am fod yn arweinydd eu plaid, heb gael rhyw bryfocwyr casineb yn gwthio'u gwenwyn rhwng y ddau?

Yng ngeiriau Martin Luther Kimg, Mae'n rhaid inni fyw gyda'n gilydd fel brodyr neu farw gyda'n gilydd fel ffyliaid.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.