主播大秀

Cenhadu

Croeso Eisteddfod yr Urdd

gan Bethan Mair
Bore Iau Mai 27 2010

O'r Neuadd-lwyd i Fadagasgar

Pos bach. Beth sy'n cysylltu'r gyflwynwraig Eleri Sion 芒 Madagascar a Th欧 John Penry?

Na dw i ddim yn meddwl am y ffilm gart诺n honno gyda'r anifeiliaid sy'n siarad ond am yr ynys go iawn oddi ar arfordir Affrica!

Wrth i Eisteddfod yr Urdd ymweld 芒 Llanerchaeron, mae hi'n gyfle i ni gofio am gyfraniad pwysig yr ardal honno i genhadaeth Gristnogol fydeang.

Beth yw'r cysylltiad felly? Wel, Neuadd-lwyd, cartre'r cyflwynydd boreol sy'n hoff o rygbi, a lleoliad academi ddylanwadol i hyfforddi cenhadon, a sefydlwyd yn Neuadd-lwyd ddau can mlynedd yn 么l i eleni gan yr Annibynwyr.

Yn genhadwr

O'r fan honno yr aeth y Parchedig David Jones yn genhadwr i Fadagascar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dioddef amodau eithriadol o anodd wrth geisio cyflwyno'r efengyl i frodorion yr ynys.

Y gwaith mwyaf gafodd e oedd cyfieithu'r Beibl i'r iaith Malagasy, nad oedd hi hyd yn oed yn iaith ysgrifenedig ar y pryd.

Cymaint fu ei ymroddiad i'r gwaith fel y caiff y dyn hwn o gefn gwlad Cymru ei ystyried yn un o sylfaenwyr gwladwriaeth Madagasgar hyd heddiw, ac yn un o dadau'r genedl honno.

Mae Capel Neuadd-lwyd o fewn tafliad carreg i faes yr Urdd eleni. Adfail yw'r academi bellach ond tu fas i'r capel, wrth ochr yr hewl fach sy'n rhedeg heibio i dalcen yr addoldy, mae cofeb i'r cenhadon cynnar hynny a fentrodd gymaint - bron 芒 mentro'u bywydau a dweud y gwir - i ledu'r Gair ym Madagascar.

Enwi stafell

I gofio am gyfraniad David Jones, ynghyd 芒 David Griffiths Gwynfe, a chenedlaethau o genhadon Cymreig a aeth i Fadagascar, aeth Undeb yr Annibynwyr ati i enwi un o ystafelloedd eu pencadlys, T欧 John Penri yn Abertawe, yn Ystafell Madagascar. A dyna i chi'r cysylltiadau yn grwn.

Yr wythnos nesaf, cenhadu o fath gwahanol fydd ar feddyliau pobl Dyffryn Aeron, cenhadu dros y Gymraeg ar garreg y drws. Ond wrth i genhedlaeth newydd o blant fynd ati i gofio am Gymru. Cyd-ddyn a Christ, falle y gall ambell un droi ei olygon at Neuadd-lwyd a chofio am genhedlaeth a aeth oddi yno 芒 neges ewyllys da o fath gwahanol, neges sy'n dal i gael dylanwad ddau can mlynedd yn ddiweddarach.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.