主播大秀

Heddwch a heddychiaeth

Milwr

gan Aled Edwards
Bore Llun, Mehefin 28 2010

Rhywbeth o eiddo ymgnawdoliad ydi cyffwrdd ag ysgwydd. Fe deimlais i hynny ddydd Sadwrn diwethaf o gwmpas y degau o filoedd a ddaeth i lawr i Fae Caerdydd ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Drwy'r dydd, fe ddaeth lluniau o sawl cyffyrddiad yn 么l i'r cof.

Wrth fedd Hedd Wyn

Yr atgof cyntaf oedd y funud gysegredig honno gydag aelodau o'r Cylch Catholig a chyfeillion o Drawsfynydd wrth fedd Hedd Wyn ychydig wythnosau'n 么l - cyffyrddiad llythrennol yn Fflandrys!

Gan nad oedd carreg na bryn na choeden i'w gweld yn unman ar faes y gad - lladdfa oedd y cyfan i'r bechgyn.

Erys cyfrifoldeb hyd heddiw ar y rhai a aeth i ryfel yn gwbl ddiangen ar dro'r ganrif ddiwethaf ac ar y rhai a greodd y bwrlwm recriwtio a gafwyd yng Nghymru a laddodd cymaint.

Prin, mae'n debyg, bryd hynny, oedd y lleisiau a feiddiodd ddweud wrth fechgyn dewr ond diniwed cefn gwlad Cymru - hyd yn oed mewn capeli:

"Paid a mynd...maen nhw am dy ladd di."

Wrth fedd Hedd Wyn y mae heddychiaeth yn ddeniadol a dwi'n edmygu heddychwyr.

Heddychlon

Eto i gyd, ar 么l yr holl flynyddoedd o feddwl a gwedd茂o am y peth, fe garwn i feddwl fy mod i'n heddychlon, ond dwi'n methu bod yn heddychwr.

Cymaint oedd fy nheimlad i o dwyll moesol a gwleidyddol yn achos rhyfel Irac, fe es i gerdded ar strydoedd Llundain i fynegi hynny ond, fe fyddwn i'n fodlon defnyddio grym mewn llefydd fel Kosovo, Bosnia a thiriogaethau'r Cwrdiaid yng Ngogledd Irac.

Dwi'n cofio'r lluniau o'r Cwrdiaid yn rhewi ac yn marw yn eu miloedd wrth osgoi lluoedd cwbl ddieflig Saddam Hussein.

Daeth llun arall yn 么l i'r cof ddydd Sadwrn. Rai blynyddoedd yn 么l, gofynnwyd i mi helpu ysgrifennu gwasanaeth i gysegru cofeb ym Mharc Cathays, Caerdydd i gofio'r milwyr a gallodd eu bywydau yn ymgyrchoedd Ynysoedd y Falklands.

Fel eglwyswr, dwi wedi hen arfer gwneud pethau felly. Wedi bwrlwm a holl rwysg y dydd, dwi'n cofio mynd i chwilio am y cyn filwyr a gafodd y syniad i godi'r gofeb yn y lle cyntaf.

Llaw fugeiliol

Fe gerddais yn 么l o Neuadd y Ddinas i gyfeiriad y gofeb a'u gweld nhw yno - yn griw bychan o Gymry wedi heneiddio - yn wylo gyda'i gilydd ac yn megis cyffwrdd ddarllen ar garreg enwau hen gyfeillion a gollwyd fel pe byddan nhw'n defnyddio Braille.

Wedi oedi ychydig. Fe es drosodd i osod llaw fugeiliol ar ambell ysgwydd. Dwi'n fodlon - yn y pethau yma - i osod llaw ar ysgwyddau, ond da chi, peidiwch 芒 gofyn imi wthio neb i funudau o'r fath. Nid ymgnawdoliad fyddai hynny.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.