主播大秀

Hanes dau blismon

Arthur Rowlands

gan Harri Parri
Bore Gwener, Gorffennaf 16 2010

Ar Bont-ar-Ddyfi, ddechrau Awst 1961, y saethwyd y Cwnstabl Arthur Rowlands. Mae o, bellach, yn wyth a phedwar ugain ac, o bosibl, yn gwrando'r eiliadau yma.

"Dw i am dy ladd di," meddai'r llais o'r tywyllwch - ac mi roedd Boyden, y g诺r a saethodd Arthur, fel Raoul Moat, yn orffwyll. Yna, yr ergyd gwn ddaru ddiffodd ei ddau lygaid o am byth.

Echnos, wedi gwylio'r cyfweliad teledu fedrwn i, am funud, ddim symud cam o 'nghadair. Ydi hanes yn medru ailadrodd ei hun mor gys谩ct?

Pwy o'n i'n glywed yn siarad? Arthur yn Awst 1961 ynteu'r Cwnstabl David Rathband yng Ngorffennaf 2010?

Meddai Arthur am ei brofiad o, "Roedd yna s诺n rhuo yn fy nghlustie i ac eto ro'n i'n clywed s诺n fel tap yn diferu - drip, drip, drip . . . a dw i'n cofio meddwl, 'Dyma'r diwedd'."

Ac mi ddeudodd David Rathband eiriau a oedd yn frawychus o debyg. Y ddau ohonyn nhw'n briod, hefo dau o blant a'r un math o dduwch yn eu hwynebu nhw.

Be ddaw o Rathband, wn i ddim. Wedi dros ddeng mlynedd ar hugain o gyfeillgarwch a chydweithio, mi wn i'n dda iawn be ddaeth o Arthur Rowlands - a'i deulu.

Diolchgarwch a'r gallu prin hwnnw i fedru maddau. Clywis i o'n deud sawl tro, "Tawn i'n ei weld o r诺an," - ac mi ddefnyddith y gair gweld, reit aml - "mi sgydwn i law hefo fo. Dyn allan o'i bwyll oedd o."

Ac mi ddeudodd y Cwnstabl Rathband drwy'i gur i gyd, "Dw i'n dal dim malais."
Tybed?

Mae'r gyfrol sgwennodd Enid Baines, Mae'r Dall yn Gweld, yn diweddu fel hyn:

"Mae ceisio cael gafael ar gyfrinach mawredd Arthur fel ceisio dal yr enfys. Allwn ni ond edrych a rhyfeddu a dweud, fel y dywedwyd am Moses gynt: 'Efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig'."

Sgin i ond gwedd茂o y caiff y Cwnstabl Rathband weledigaeth debyg.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.