主播大秀

Rhyddhau Magrahi

David Cameron

gan R Alun Evans
Bore Iau, Gorffennaf 22 2010

C芒n aderyn gl芒n

Mae'r Sioe yn tynnu tua'i therfyn. Da iawn y Cardis. Sioe y Cardis oedd hon.

Fe glywais i lawer am y cobiau a'r cneifio, y moch a'r moch daear, y gwartheg a'r gwobrau ... ond chydig o s么n glywes i am y dofednod.

Diddordeb yn y dywediad ei bod hi'n cymryd 'deryn gl芒n i ganu' sy gen i.

Meddai'r Arlywydd Obama - "David, dwi isho ymchwiliad trylwyr i'r cefndir o ollwng yr Al Magrahi 'na o garchar".

Ers y dydd y daeth Magrahi o'r carchar mae'r Americaniaid wedi gweld hynny yn destun dirmyg ar gyfiawnder.

"Barak bach, nid y ni ddaru, ond yr Albanwyr."

Beth oedd y dewis? Mentro gadael iddo farw yn y carchar a derbyn canlyniadau hynny? Onid oes cymal yn neddfau'r Alban sy'n caniat谩u trugaredd [compassion]?

Onid oedd deddfau Hywel Dda hefyd yn pwysleisio synnwyr cyffredin ac yn caniat谩u trugaredd yn hytrach na chosb?

Gwadu mewn llythyr

Yn ei lythyr a anfonwyd ddoe at seneddwyr America mae Alex Salmond yn gwadu mai gwystl mewn g锚m o wyddbwyll oedd Magrahi, g锚m o gytundeb rhyngwladol gwerth miliynau o bunnau oedd yn effeithio ar gannoedd o swyddi ym Mhrydain.

"Dyn sy'n marw o gancr yw Magrahi," medd Salmond, "ac fe ddangoson ni drugaredd tuag ato."

Tosturi hwyrach. Nid trugaredd. Rhodd gan Dduw yw trugaredd i waredu Dyn oddi wrth ei bechod. A dyna rywbeth na all Dyn na llywodraeth ei gyflawni.

Pennaeth MI5 yn dweud wrth Ymchwiliad Chilcot mai effaith rhyfel Irac oedd cynyddu y perygl i'r gwledydd gorllewinol o du'r Mwslemiaid. Oedd y deryn brith yn dadlau hynny ar y pryd, pan oedd hi mewn awdurdod?

Negeseuon cymysglyd

A nawr mae negeseuon cymysglyd rhwng y Glymblaid am ddyddiad tynnu'r milwyr allan o Afghanistan. Clegg yn dweud un peth yn y senedd. "David" yn dweud rhywbeth gwahanol yn yr US of A.

Obama neu Osama sydd hapusa?

Ydi, mae hi'n cymryd deryn gl芒n i ganu. Felly, tewi sydd orau i minnau.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.