主播大秀

Tu 么l i'r llenni duon

Nigel Owens

gan Bethan Mair
Bore Iau, Medi 9 2010

Y Samariaid trugarog

Ro'n i'n gweld yn y newyddion y bore 'ma fod Nigel Owens yn mynd i roi help i'r Samariaid geisio lleihau'r nifer o ddynion sy'n lladd eu hunain.

Maen nhw'n llawer mwy tebygol o fynd i'r pen cyn troi at rywun arall i rannu baich ac, o ganlyniad, mae 220 o ddynion yn rhoi diwedd arnyn nhw'u hunain bob blwyddyn.

Y rheswm y mae Nigel, dyfarnwr rygbi rhyngwladol, diddanwr a chymeriad teledu poblogaidd, yn uniaethu'i hun ag ymgyrch y Samariaid yw ei fod e wedi profi'r fath uffern ddofn ei hun.

Mor ddiobaith

Cynyddodd ei deimladau e o fod yn ddi-werth ac yn atgas iddo fe'i hunan i'r fath raddau dair blynedd ar ddeg yn 么l, nes ei fod e ddim yn gweld pwynt byw rhagor.

Mae'n anodd dychmygu y byddai rhywun mor ymddangosiadol lwyddiannus 芒 Nigel Owens yn teimlo mor ddiobaith 芒 hynny.

Ond mae 'na ddywediad yn yr ardal hon; "Gweld ein gilydd y'n ni."

Hynny yw, dim ond gweld yr arwynebol, y peth sydd ar y tu fas, y mae pobl, nid y galon a'r enaid sy'n llechu o dano.

Dyw hi ddim wastad yn hawdd siarad gyda theulu a ffrindiau am y pethau sy'n eich llethu chi ac weithau mae'n teimlo fel tase 'na neb i droi ato, i agor y llenni trwm yna sy'n cuddio'r meddyliau duon.

Neb y mae rhywun yn teimlo fyddai'n barod i wrando heb farnu. A wyddoch chi'r gwir? Dychmygu beirniadaeth pobl eraill ac ofn siomi sydd wrth wraidd llawer o iselder ac mae'r angen yna i ddal ati i ymddangos fel 'se dim byd yn bod yn gallu gwasgu rhywun i'r ddaear yn llwyr.

Dim ond eisiau dweud

Weithiau, dim ond eisiau dweud eich poen sydd; er mwyn gwneud iddo fe beidio 芒 bod yn gymaint o fygythiad. Yn llythrennol, rhannu baich yw ei wneud e'n llai arnoch chi.

Diolch byth, gwella fu hanes Nigel Owens, a gweld ei fod e yn berchen ar fywyd gwerth ei fyw.

Llongyfarchiadau iddo am ei ddewrder ac am ei awydd nawr i roi 'n么l i gymdeithas. Ond diolch, diolch i wirfoddolwyr Samariaid am wrando heb farnu ac am fod yn gymorth hawdd eu cael mewn cyfyngder.

Ie, gweld ein gilydd y'n ni. Er mor fore yw hi, cofiwch chi ei bod hi'n bwysig i ni hefyd roi help i rai sy'n ei chael hi'n anodd agor y llenni trymion yna...


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.