主播大秀

Cwpan Ryder 2010

Cwpan Ryder

gan Glyn Tudal Jones
Bore Gwener, Hydref 1 2010

Beth ddaw o hyn?

Mae'r ysgolion i gyd ar gau ffordd hyn heddiw.
Pam?

Yr ateb yw mai heddiw, ymhen rhyw chwarter awr r诺an, y bydd Cwpan Ryder yn dechrau o ddifri yng Nghasnewydd.

Dydw i ddim yn si诺r iawn beth sydd 芒 wnelo hynny 芒'r ysgolion, ond wrth gwrs ella bod yr athrawon isho gwylio'r golff!

Tybed pa wahaniaeth arall a wnaiff ymweliad y gystadleuaeth golff fwyaf yn y byd i fywyd yr ardal yma, ac i Gymru gyfan, pan fydd y syrcas i gyd wedi symud ymlaen?

Yn Delhi

Ychydig iawn, mae'n debyg. Dim mwy nag y bydd Chwaraeon y Gymanwlad yn gwneud llawer o wahaniaeth i fywydau'r miliynau hynny yn ardal Delhi sy'n byw mewn tlodi eithafol.

Wrth gwrs, roedd yn rhaid i bentre'r cystadleuwyr fod i fyny 芒'r safon, rhag siomi pobol sydd wedi arfer 芒 phethau gwell, ond para i fyw yn eu trefi sianti fydd pobol Delhi cynt ac wedyn.

Ond yn 么l at Gwpan Ryder. Mae sawl un wedi deud os bydd America'n ennill, yna fe ddaw budd mawr i Gymru am flynyddoedd i ddod, oherwydd bydd Americanwyr isho dod yma i weld y wlad lle y llwyddon nhw i gadw'r Cwpan.

Ond os byddan nhw'n colli, fyddan nhw ddim am weld na chlywed am y lle eto.

Felly, er mwyn economi Cymru, fe ddylen ni obeithio y bydd America'n ennill, oherwydd gwlad sy'n parchu ac yn dyrchafu enillwyr ydi hi.

"Land of the free and home of the brave," medd eu hanthem genedlaethol.

Sam Ryder

Cristion o argyhoeddiad oedd Sam Ryder, sylfaenydd y gystadleuaeth - anghydffurfiwr rhonc. Yn llygad y byd, cofio am un a gollodd yr ydan ni fel Cristnogion. Un a gafodd ei ddienyddio gan yr awdurdodau, ei groeshoelio.

Ond oherwydd hynny mae'n gallu uniaethu 芒 ni pan ydan ni'n wan ac yn teimlo'n bod wedi methu.

Reit: "Tee off, rwan...FOUR. . ."


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.