主播大秀

Dydd y cofio

Pabi Coch

gan Huw Tegid
Bore Iau Tachwedd 11 2010

Unfed dydd ar ddeg yr unfed mis ar ddeg

A hithau heddiw'r unfed diwrnod ar ddeg o'r unfed mis ar ddeg, yn 么l yr arfer bydd cyfle i gadw dau funud o ddistawrwydd am un ar ddeg o'r gloch, i gofio am y cadoediad ddaeth 芒'r Rhyfel Byd Cyntaf i ben ar y dyddiad hwn dros naw deg o flynyddoedd yn 么l.

Er bod pob un o'r milwyr a fu'n brwydro yn ystod y Rhyfel Mawr wedi marw erbyn hyn, rydan ni'n parhau i gadw dau funud o dawelwch, ac mae'r arfer hwnnw'n gyfle erbyn hyn i gofio am rai a gollwyd mewn rhyfeloedd eraill, hefyd - hynny ydi, y rhyfeloedd a ddaeth ar 么l y rhyfel hwnnw oedd i fod i roi terfyn ar bob rhyfel. .

Pabi coch

Wrth i ni ymdawelu i gofio, bydd nifer heddiw'n gwisgo'r pabi coch i gofio am y rhai a gollwyd, gyda'r arian a geir am werthu'r pabi yn mynd at y Lleng Frenhinol Brydeinig. .

Eleni, mae'r elusen wedi meddwl am ffordd arall o godi arian, sef rhyddhau sengl neu drac sain, gyda'r nod o gyrraedd brig y siartiau o flaen Take That a'u tebyg nos Sul. .

Yr hyn sy'n hynod am y trac sain hwn ydi mai dau funud o ddistawrwydd ydi o - ia, dyna chi, dim ond distawrwydd. .

O glywed hynny, mi allech chi feddwl mai talu am ddim byd fyddech chi wrth brynu'r trac sain, di-sain, hwn ond dwi'n prysuro i ychwanegu fod fideo yn cyd-fynd 芒'r sengl, sy'n dangos rhai fel David Tennant, Bryan Ferry, Andy Murray a Jack Dee yn sefyll yn dawel gan wisgo'r pabi coch. .

Tybed a fydd dau funud o ddistawrwydd yn cyrraedd brig y siartiau? Mi fyddai'n newid, yn sicr. Oni bai am achosion eithriadol fel heddiw, dwi'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn gweld dau funud o ddistawrwydd fel arwydd bod rhywbeth wedi mynd o'i le. .

Yn sicr, mewn achosion o'r fath, mae gan orsafoedd radio system wrth gefn sy'n lenwi'r tawelwch gyda cherddoriaeth. Mae'n od, yn tydi, fel mae tawelwch yn cael ei weld fel rhywbeth anghyffredin erbyn hyn, fel pe bai rhywbeth wedi mynd o'i le. .

Dwndwr a distawrwydd

Mae'n haws dygymod efo dwndwr y byd o'n cwmpas ni na distawrwydd llwyr. .

Felly, wrth i'm dau funud innau ddod i ben bore 'ma, y cwestiwn sydd gen i ydi hwn - beth ydi pris tawelwch i chi? Neu os caf i ofyn cwestiwn ychydig yn wahanol, beth ydi gwerth tawelwch i chi?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.