主播大秀

Cynllunio mlaen

gan Marcus Robinson
Bore Gwener Tachwedd 12 2010

Colli'r ffordd

Ydych i erioed wedi golli'ch ffordd?
Cofiaf am hanes rhywun yn gofyn pan yn Iwerddon am gyfarwyddiadau sut i fynd i rywle a chael yr ateb rhyfeddol;

"Pe byddwn i'n mynd yno, fuaswn i ddim yn cychwyn o fama!"

Efallai bod un o swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn teimlo felly ar 么l cydnabod eu bod am wneud pob ymdrech i gywiro unrhyw wallau mewn pamffledi yn ymwneud 芒 chynllunio ffordd osgoi'r Bontnewydd yng Ngwynedd.

Dywed John Evans, perchennog atyniad twristiaid Parc Coed Sipsi fod y pamffledyn yn dweud y bydd un o'r ffyrdd osgoi arfaethedig yn mynd "yn agos" i'r parc.

Ond pan ymchwiliodd yn fwy manwl, gwelodd y bydd y ffordd yn rhedeg drwy ganol yr ardal natur.

Hyd yn oed yn y sesiynau ymgynghori gyda'r cyhoedd, meddai, doedd hi ddim yn amlwg 芒 fyddai'r ffordd yn mynd drwy ei dir a dim ond pan gyhoeddwyd map manwl mawr o'r llwybr y daeth y gwir yn amlwg.

"Mae'n gamarweiniol oherwydd mae pobl yn credu nad yw llwybr y ffordd yn effeithio ar unrhyw un wrth edrych ar y cynllun," meddai.

Budd-daliadau

Wrth glywed am syniadau newydd ein Llywodraeth o San Steffan i geisio ffurfio un budd-daliad a pheidio 芒 thalu i'r rhai sydd yn gwrthod cynnig o waith deirgwaith, rhaid gobeithio y bydd rhywun yn edrych yn fanwl ar y map mawr.

Mae'n si诺r bod ambell i wleidydd yn gobeithio y bydd y cynlluniau yn dwyn rhai yn agosach at eu lle ac yn ffordd o osgoi cost enfawr budd-daliadau ar y wladwriaeth.

Neb yn colli'r ffordd

Ond fel y darganfu John Evans mae'n bosibl iddynt fynd yn groes i'r bwriad ac effeithio'n uniongyrchol ar fywydau lawer sydd yn ddi-waith yng Nghymru.

Yng nghanol y dirwasgiad presennol efallai mai peth doeth i bawb ohonom fyddai cynllunio'r ffordd ymlaen yn fanwl ac yn gywir gan obeithio na fydd neb yn colli eu ffordd yn y diwedd!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.