主播大秀

Gweld yn glir

Sbvectol

gan Cen Llwyd
Bore Llun, Tachwedd 15 2010

Y rhai sydd a sbectol i weled

O'n i yn y dre' 'ma fore Sadwrn yn casglu p芒r newydd o sbectol. Dangosodd prawf llygaid fod cyflwr y llygaid yn newid - rhywbeth sy'n ddisgwyliedig wrth i berson heneiddio.

"Henaint ni ddaw ei hunan," meddai'r dywediad ond mae'n dod a phethau gydag e.

Roedd angen newid y lensys. Er gwaetha'r straen ar y boced o dalu am y p芒r newydd eto o'u gwisgo y gobaith yw byddant yn llai o straen ar y llygaid - cawn weld!

Bu'r p芒r newydd yn gymorth i edrych ar y g锚m ddydd Sadwrn. G锚m dipyn gwell na'r hyn a welais wythnos yn 么l drwy'r hen bar. Wedyn doedd hynny ddim byd o gwbl i'w wneud 芒'r sbectol nag oedd?

Cerdd Dant

Nos Sadwrn gwelais wledd ar y teledu - na nid yr X Factor na chwaith Strictly ond yr 糯yl Gerdd Dant.

Ddydd Gwener ar Taro'r Post cafwyd trafodaeth am y ddwy gyntaf wrth i bobl edrych ar raglenni drwy sbectols gwahanol.

Ym myd cerdd dant chi'n cofio'r halibal诺 flynyddoedd yn 么l? Tir newydd yn cael ei dorri gan G么r Pantycelyn o dan arweiniad y diweddar anhygoel Gareth Mitford - un y cefais y fraint o gydweithio gydag ef am gyfnod.

Bu helynt wrth i bobl wrthwynebu ei osodiadau newydd.

Ar y cyfan rydym ni'n teimlo yn eithaf saff a diogel o gael ein harwain a'n cyfeirio o fewn rhigolau cyfyng gan ofni'r newidiadau. Mae'r anghyfarwydd yn achosi dychryn a chadw lled braich os nad ymhellach bant.

Mentro ambell waith

Beth am wisgo p芒r gwahanol o sbectols a mentro ambell waith i gael golwg wahanol ar bethau? Nid hen bar cyfarwydd ond un newydd. Anturio i gynefin anadnabyddus.

Tybed drwy ba sbectol y gwnaethoch chi edrych ar ddigwyddiadau Sul y Cofio ddoe - sbectol y Pabi Coch, y Pabi Gwyn neu ddim Pabi o gwbl?

Sbectol y sawl a glodforai ryfel a mawrygu symbolaeth yr Ymerodraeth ynteu y rhai fu'n cofio'n dawel am ddioddefaint, gwewyr a poen, y trallod a'r gofid o wastraffu adnoddau ac, yn bwysicach, fywydau.

Buddugoliaeth

Ddoe bu pobl yn Burma yn dathlu rhyddhau y wraig o arweinydd sy'n cael ei ystyried fel y 'Bwda Byw'.

Buddugoliaeth i'r dull di-drais, meddent, yw ei rhyddhau. Dyna'r sbectol maen nhw'n edrych drwyddio.

Byddwn yn dyheu am newidiadau, am gael golwg newydd, ond yn ofni gwneud hynny. Mae'n golygu deall safbwyntiau eraill a pharchu agweddau eraill - rhywbeth sy'n fwy sylfaenol na'r arwynebol o wisgo p芒r arall gwahanol o sbectol. O'i gwisgo, byddwn yn edrych yn wahanol!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.