主播大秀

Geni'r Iesu

gan Huw Tegid
Bore iau Tachwedd 25 2010

A hithau heddiw'r pumed ar hugain o Dachwedd go brin y bydd yn rhaid imi ddweud wrthych chi beth fydd yn digwydd fis i heddiw!

A chyda s么n y gwelwn ni gawodydd eira dros y Sul mi fydd hi'n teimlo'n Nadoligaidd yn fuan - fel y clywn ni sawl un yn ei ddweud dros y dyddiau nesaf.

Heb wneud gormod

Mae rhywun yn teimlo fod hyd yn oed y masnachwyr mwyaf ariangar wedi cadw at ryw g么d anysgrifenedig na ddylen ni wneud gormod o'r Nadolig eleni ac at ei gilydd digon prin fu hysbysebion siopau'r stryd fawr ar ein sgriniau teledu ni.

Am unwaith, mae'n ymddangos fod y Cristnogion wedi hawlio G诺yl y Gaeaf yn 么l oherwydd un o'r hysbysebion mwyaf trawiadol i mi ei gweld eleni ydi hwnno gan yr elusen eciwmenaidd Church ads . net

Dan y pennawd, "Mae o ar ei ffordd," ceir llun sgan o faban cyn ei eni yn yr hysbyseb, gydag eurgylch uwch ei ben.

Mae'r elusen yn ymateb i'r honiad mai dim ond deuddeg y cant o bobl Prydain sy'n gyfarwydd ag union fanylion stori'r geni gwyrthiol.

Gan hynny, maen nhw wedi dewis delwedd fodern rymus o sgan baban cyn ei eni i dynnu sylw at yr hyn ddigwyddodd ddwy fil o flynyddoedd yn 么l.

Mae is-bennawd y poster yn cadarnhau safbwynt yr elusen bod "y Nadolig yn dechrau gyda Christ".

Addo popeth

Mae'n debyg y clywn ni ac y gwelwn ni bob math o hysbysebion eraill dros y mis nesaf, gydag ambell un yn si诺r o honni fod ganddyn nhw bopeth y byddwch chi ei angen ar gyfer y Nadolig.

Beth amdanoch chi - beth fyddwch chi ei angen y Nadolig hwn, 'sgwn i?

Maen nhw'n dweud mai'r cyfan y mae'r corff dynol ei angen i oroesi am rai dyddiau ydi d诺r, ond mae 'na ben draw ar hynny, hyd yn oed.

Tybed a glywsoch chi am y ddynes honno yn Ffrainc a fu'n sownd yn ei hystafell ymolchi am ugain niwrnod yn ddiweddar? Goroesodd drwy yfed d诺r o dap y sinc ond yr hyn a'i hachubodd hi mewn gwirionedd oedd y ffaith i'w chymdogion benderfynu gweithredu ar 么l clywed rhywun yn taro'r peipiau d诺r noson ar 么l noson.

O ddechrau siarad gyda'i gilydd, sawl un am y tro cyntaf, fe sylweddolon nhw nad oedden nhw wedi gweld y ddynes oedrannus ers dyddiau ac mi ddaethon nhw o hyd iddi mewn cyflwr digon truenus ond yn fyw.

Beth fydd ei angen?

Wrth inni ddechrau paratoi ar gyfer y Nadolig, beth fyddwch chi ei angen i'ch cynnal chi dros y mis nesaf?

Digon o fwyd a diod? Cwmni ac ewyllys da teulu, cyfeillion a chymdogion - rhai ohonyn nhw na welsoch chi ers wythnosau?

A beth am y baban a ddaeth i'n byd yn hyn i gyd? Ai dim ond deuddeg y cant ohonom ni sy'n credu fod "y Nadolig yn dechrau gyda Christ"?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.