主播大秀

Diwrnod AIDS y Byd

Rhuban Coch

gan Branwen Niclas
Bore Mercher, Rhagfyr 1 2010

Diwrnod Nokwanda

Ym mhentref bach Dambuza yn ne Affrica bore 'ma mae 'na deulu bach yn paratoi ar gyfer diwrnod arall.

Mae Nokwanda yn 12 oed yn pacio ei bag ar gyfer mynd i'r ysgol. Bu allan tua chwech yn casglu wyau gan ei ieir; yna paratoi brecwast o fara ac wy ar ei chyfer hi, ei mam-gu a'i modryb ar stof nwy ynghanol eu cartref un ystafell.

Toc bydd Nokwanda yn casglu ei ffrind a byddant yn cerdded fel pob bore arall i'r ysgol gan chwerthin a phrynu losin ar y ffordd.

Bu farw ei mam pan oedd Nokwanda yn bump oed sy'n ei gwneud yn un o filoedd o blant sy'n cael ei magu gan y genhedlaeth h欧n o neiniau a theidiau yn ne Affrica.

Mewn sawl gwlad

Yr un yw'r patrwm mewn sawl gwlad lle mae canran uchel o rieni wedi marw o ganlyniad i salwch yn ymwneud 芒 HIV ac AIDS.

Gogo Majozi yw enw mam-gu Nokwanda. Gogo yw term de Affrica am fam-gu ac ynghanol ei thlodi a'i hiraeth hithau, mae'n gweithio'n galed i fagu ei hwyres.

Mae'n garddio bob dydd er mwyn cael llysiau ffres ac wrthi'n llythrennol, yn gwneud brics mwd ei hun er mwyn adeiladu estyniad bychan un ystafell er mwyn i Nokwanda gael stafell wely ei hun.

Er nad yw hi'n gallu darllen nac ysgrifennu, mae Gogo Majozi'n gwrando bob prynhawn ar yr hyn wnaeth ei hwyres yn yr ysgol.

Hoff bynciau Nokwanda yw Mathemateg a Saesneg.

"Dwi'n caru fy mam-gu", meddai Nokwanda wrthai.

"Dwi wedi dysgu cymaint oddi wrthi - sgiliau pwysig fel garddio a choginio. Bu fy mam yn wael iawn, bu farw, a mi oni mor drist. Ond ces ddod at fy mam-gu i fyw a helpodd hi fi.

"A rhyw ddydd rwy'n gobeithio bod yn feddyg, er mwyn gallu helpu eraill."

Diwrnod rhuban coch

Bydd heddiw'n wahanol i Nokwanda a'i ffrindiau. Mae hi'n Rhagfyr 1 - Dydd AIDS y Byd - ac mae hi, fel miloedd o bobol eraill ar draws y byd yn gwisgo rhuban coch.

Bydd er cof am y rhai a gollwyd oherwydd HIV, ac fel symbol o unoliaeth gyda'r 36 miliwn o bobl sy'n byw gyda'r firws, yn gwlwm o gariad a gobaith.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.