主播大秀

Anrhegion

gan Elfyn Pritchard
Bore Gwener, Rhagfyr 10 2010

Teimlo fel sgrechian?

Tasech chi'n teimlo fel sgrechian pa air fasech chi'n i weiddi heddiw?

Addysg falle neu Dolig, neu'r ddau.

Mae addysg o'n cwmpas ym mhobman, ffioedd myfyrwyr yn hollti'r pleidie, cau ysgolion yn hollti cymunede, adroddiad gwael ar addysg Cymru yn siomi'r gweinidog.

Ac mae'r Dolig ym mhobman, ar stampie, ar y teledu, mewn siope, a'r cardie eisoes yn cyrraedd.

Ac os derbynia i un efo llun robin goch yn yr eira a finne wedi bod yn edrych ar y cyfryw dderyn mewn eira go iawn ers pythefnos, mi fydd hynny'n gwneud i mi sgrechian hefyd.

Ie, wel, cool down Pritchard ac mi wnaf.

Yn Affrica

Yn nes ymlaen heddiw mi fydda i'n mynd i Ysgol Ffridd y Llyn i gael cinio Dolig ac wrth feddwl am hynny dwi'n teimlo'n well yn barod ac am fynd 芒 chi i ysgol arall yn un o wledydd poethaf Affrica.

Yno roedd merch fach dlawd roddodd gragen yn anrheg Dolig i'w hathro. Mi wydde'r athro nad oedd cragen o'r fath i'w chael ond ar draeth chwe milltir o gartre'r ferch fach. "Sut cest ti hi?" holodd. "Mi gerddes i'w n么l" oedd yr ateb. "A cherdded adre wedyn trwy'r gwres mawr?" "Do. mae'r cerdded yn rhan o'r anrheg."

A phan glywodd yr athro hynny roedd o wedi'i gyffwrdd hyd at ddagre.

Rhoi a derbyn

A dene ddeud rhywbeth wrthon ni am roi a derbyn, dau air mawr pob Nadolig. Roedd rhoi i'r ferch fach yn golygu cerdded, yn golygu aberth, fel mae pob rhoi iawn, a maint yr aberth yn bwysicach na phris yr anrheg.

Ac roedd yr athro wrth ddangos ei deimlade yn sylweddoli maint yr aberth hwnnw ac yn cydnabod y rhoddwr.

Beth oedd arwyddoc芒d y Nadolig cyntaf? Onid Duw yn cofio amdanom ac yn rhoi ei fab yn rhodd i ni i gerdded ein daear i esmwyth谩u ein cur?

A'r cerdded hwnnw wnaeth o yn y diwedd yn arwain at yr aberth. A ninne gobeithio yn derbyn y rhodd yn yr ysbryd iawn.

"Ei ras o derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn, a throsto ef gweithiwn i gyd."

Teimlo'n well

Ydw, dwi'n teimlo'n well ac yn edrych ymlaen at fy nghinio ac wrth edrych ar blant Ffridd y Llyn a'u hathrawon yn mwynhau eu hunain ynghanol rhialtwch y Nadolig mi fydda i'n cofio am y ferch fach dlawd yn Affrica a'i hathro, dau y mae eu stori yn addysg inni i gyd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.