主播大秀

Galwadau distaw

Y ffon yn galw ond neb yn siarad

04 Chwefror 2011

gan John Owain Jones

Tawelwch yn galw

Mi ddigwyddodd i mi, ddoe. Atebais w欧s ddiamynedd y teliffon - a 'doedd neb yno!

Mae 'galwadau distaw' fel hyn yn peri syrffed, dicter, anesmwythyd, a hyd yn oed ofn i rai.

Peirianwaith electronig sy'n deialu dwsinau o rifau ff么n, heb ddigon o staff wrth law i ateb pawb sy'n pigo i fyny. Y cyfan glywch chi wrth ateb ydi - distawrwydd.

Daeth newyddion yr wythnos yma gan Ofcom, rheolwr y diwydiant telathrebu, y gellid dirwyo cwmn茂au hyd at ddwy filiwn o bunnau os bydd pobl yn derbyn y galwadau distaw hyn yn gyson.

Adklewyrchiad o'n gwareiddiad

Mae galwadau distaw yn adlewyrchiad diddorol o'n gwareiddiad cyfoes a hwythau'n hawlio'n sylw ond wedyn yn anabl i'w ddefnyddio, wedi gwneud hynny.

"Dyma fi! Talwch sylw imi! Ond 'does gen i ddim byd i'w ddweud, ychwaith..."

Peth endemig ydi hawlio sylw, heb syniad sut i'w ddefnyddio.

  • Pobl sydd eisiau "bod yn s锚r pop", yn hytrach na dymuno ysgrifennu miwsig, a dweud rhywbeth drwyddo.
  • Gwleidyddion sy'n credu fod unrhyw sylw gan y cyfryngau yn well na dim.
  • Hysbysebion teledu sy'n llawn clyfrwch hunan ymwybodol ond sy'n dweud dim am y pethau mae 'nhw'n eu gwerthu.

Ac mae'n cyffwrdd 芒 phawb ohonom.

Meddylfryd o ofn

Mae fel petaem ni i gyd wedi llithro i feddylfryd o ofn - ofn pe na baem ni'n tynnu sylw atom ein hunain yn barhaus, pe na baem ni'n gyrru allan arwyddion cyson o'n presenoldeb yn y byd - y byddwm ni rywsut yn peidio a bod.

Hawdd llithro i ryw ffordd o gyfathrebu nad ydi o'n dweud dim. Dim ond yn atgoffa'r byd o'n cwmpas ein bod ni'n dal yma.

Peth herfeiddiol ydi distawrwydd, yn enwedig yn ein diwylliant swnllyd ni. Ond elfen ganolog o ffydd ydi'r argyhoeddiad nad oes raid tynnu sylw cyson atom ni'n hunain i hawlio'n lle yn y bydysawd.

Nid peth hawdd

"Ymlonyddwch, a dysgwch mai myfi sydd Dduw..." medd y Salmydd.

Nid peth hawdd - ond gwerth yr ymgais!

Efallai y tro nesaf y daw 'galwad ddistaw', yn hytrach na gwylltio a chlepian y ff么n i lawr mi 'steddaf a gwrando am ysbaid ar y distawrwydd. Wedi'r cyfan -nhw sy'n talu!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.