主播大秀

Logo 'Top of the Pops' o'r Nawdegau

07 Chwefror 2011

gan Undod diwylliannol

'Gwerthoedd Prydeinig'

Bu llawer o s么n dros y penwythnos am greu undod diwylliannol ar draws holl bobl Prydain.

Efallai nad penwythnos agoriadol y bencampwriaeth rygbi yw'r amser gorau i s么n am undod ond bu tipyn o s么n gan Mr Cameron am werthoedd Prydeinig.

Mae'n dda ein bod ni yn yr unfed ganrif ar hugain ac yn gallu twyllo'n hunain fod y gwerthoedd Prydeinig yma yn rhan o ryw DNA i bobloedd yr ynys.

Mae'n hawdd anghofio bod mamau nifer fawr sy'n gwrando y bore 'ma wedi eu hamddifadu o'r bleidlais yn syml am eu bod yn ferched, neu bod tad-cu heb gael yr hawl i bleidlais am nad oedd yn berchen digon o dir.

Wrth gwrs, gwaharddwyd y ddau rhag siarad eu hiaith Brydeinig eu hunain yn ystod eu dyddiau ysgol.

Cychwyn ymgyrch

Yn hytrach na phregethu am undod , fe hoffwn i gychwyn ymgyrch i gael Top of the Pops yn 么l ar ein sgriniau teledu. Yn y Saithdegau doedd dim byd gwell na'r rhaglen i greu undod cymdeithasol.

Ag eithrio ambell blentyn geeky iawn, roedd pob person ifanc yn gwylio'r rhaglen a dyma'r rhaglen a ddaeth 芒 grwpiau pop a dawnswyr cymysg i bob cartref - du a gwyn, merched a dynion.

Daeth Michael Jackson yn destun edmygedd i filiynau o blant du a gwyn a ch芒n y gantores ddu, Gloria Gaynor , I will survive, yn anthem i bob menyw, wen neu ddu, oedd yn wynebu ysgariad.

Undod rhannol ydoedd wrth gwrs achos ni welwyd Edward H, y Trwynau Coch na'r Cyrff ar Top of the Pops yn ystod yr un cyfnod.

Yn Ffrainc

Yn Ffrainc y bore 'ma, yn neg uchaf y siartiau mae Shakira, y Black Eyed Peas ac Adele - ond yn uwch na'r rhain i gyd fel yr artist unigol sydd wedi gwerthu fwyaf o albyms yn Ffrainc yr wythnos hon mae Nolwen Leroy.

Os gwrandewch ar ei halbwm gwych iawn o ganeuon mewn Llydaweg a Ffrangeg fe glywch chi Bro Gozh ma Zadou sef Mae Hen Wlad fy Nhadau mewn Llydaweg.

Rwy jyst yn gobeithio bod wyrion James James ac Evan James Pontypridd yn casglu'r ffioedd bras am fod llwyddiant cyfansoddiad eu hen dat-cus yn helpu Ffrainc y bore hwn i ddod i dermau 芒'u haml ddiwylliannedd arbennig hwy.

Ysgwn i, petawn i'n llwyddo i ddod n么l 芒 Top of the Pops a fyddai lle i ganeuon Cymraeg y tro nesaf?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.