主播大秀

Tren China

Golygfa o'r ffilm Last Train 主播大秀

14 Chwefror 2011

gan Geraint Rees

Blwyddyn y Sgwarnog

Bore da neu, "Nihao".
Wrth inni dalu'n biliau credyd wedi'r gwyliau Nadolig, mae hi'n awr yn dymor un o wyliau arall mawr y byd - gwyliau'r flwyddyn newydd yn China ac mae eleni'n Flwyddyn y Sgwarnog.

Un o nodweddion mawr y dathliadau yw mai dyma'r unig adeg fydd gweithwyr ffatrioedd budr dinasoedd enfawr China yn cael mynd adre i gefn gwlad i weld eu teuluoedd.

Mae tua 130 miliwn o bobl yn pacio i mewn i bob bws a thren sydd ar gael i fynd am adre ac mae aml i ddinas yn dod i stop - heb fawr neb ar 么l yno i frwsio'r strydoedd neu dorri gwallt.

Ffilm i'w gwylio

Os gwyliwch chi un ffilm dramor eleni, byddwn i'n awgrymu Last Train 主播大秀 gan Lixin Fan; ffilm sy'n cofnodi'r symudiad enfawr hwn o bobl ac yn dangos y pwysau ar weithwyr dinasoedd China - yn byw oddi cartref ac yn cynilo pob ceiniog i'w hanfon n么l at eu teuluoedd - yn aml filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Gwelwn b芒r priod, Mr a Mrs Zhang, sydd wedi gadael eu plant gyda'u mam-gu ers blynyddoedd a'r ddau yn gweithio dyddiau hir ar gyflog isel yn gwnio dillad mewn ffatri fawr annynol.

tristwch yn faich

Mae'r tristwch o fethu 芒 gweld eu plant am flwyddyn ar y tro a baich eu horiau hirion yn amlwg ar wyneb y fam a'r tad.

Gwelwn eu gobeithion yn y ffilm ddogfen wrth i'r camera eu dilyn dros fil o filltiroedd i'w cartref gwledig i ddathlu'r flwyddyn newydd gyda'u teulu.

Mae Qin, eu merch, yn ei harddegau n么l adre yn ei chael hi'n anodd gwerthfawrogi aberth ei rhieni ac mewn golygfa ddirdynnol, gwelwn y ferch yn cwyno nad yw ei mam yn dangos gofal digonol drosti.

Fe adawaf i chi ddychmygu ymateb y fam sy'n byw dan amodau ffatri uffernol er mwyn talu am fwyd a dillad i'w merch.

Cymru a China

Am ddwy ganrif China'r cenhadon fel Griffith John, David Davies a Timothy Richard oedd China i Gymrum ond os ydych chi wedi paratoi brecwast y bore 'ma, mae'n debyg y byddwch chi yn barod wedi cyffwrdd ag eitem sydd wedi dod o China.

Nid yn China mae achos tristwch y teulu yn Last Train 主播大秀. Mae tristwch dwfn y ffilm ddogfen hon yn deillio o'n disgwyliadau ni am ddillad rhad.

Mae'n bosib bod y crys sydd 'da fi ar fy nghefn y bore 'ma wedi ei wnio gan Mr neu Mrs Zhang - ac yno yn y ffabrig yn rhywle bydd dagrau un o famau alltud China.

Felly, wrth gydnabod Blwyddyn y Sgwarnog, beth am inni werthfawrogi aberth dynion a merched i roi nwyddau rhad i ni wrth sylwi ar a gwerthfawrogi'r dagrau sydd rywle yn ein dillad ac i wneud yr hyn 芒 allwn yn y flwyddyn newydd hon i hyrwyddo masnachu tecach.
Nihao.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.