主播大秀

Yr Hen a 糯yr

gan Si么n Meredith

07 Mawrth 2011

Dathlodd aelod o'n heglwys ni ei ben-blwydd yn gant oed ar Ddydd G诺yl Dewi. Pen-blwydd hapus iawn i'r Athro Dafydd Jenkins a fu'n dathlu'r achlysur gyda'i gyfeillion yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Wn i ddim faint ohonon ni fydd yn cyrraedd ein cant ond mae'n debyg y bydd mwy a mwy yn cyrraedd y garreg filltir honno yn y dyfodol.

Pedwar ugain oed ydy oed yr addewid i ni'r Cymry erbyn hyn ac mi all llawer mwy ohonon ni edrych ymlaen at fyw bywyd hir a llawn wedi i ni ymddeol.

Pendroni o ddifri

Gorwel pell ydy hwnnw i mi ar hyn o bryd cofiwch ond mae o'n dod fymryn yn nes bob blwyddyn ac felly mae'n debyg y dylwn innau fod yn meddwl o ddifri am drefniadau pensiwn a ballu.

Yn wir, mae'n hirhoedledd ni yn peri i'r Llywodraeth bendroni o ddifri yngl欧n 芒'r gost i gymdeithas yn y dyfodol. Bydd yn rhaid gwario cymaint mwy ar bensiynau a gofal i'r henoed. Bydd disgwyl i'r rhai sydd mewn gwaith gyfrannu llawer mwy at y rhai sydd wedi ymddeol.

Ond ai fel baich y dylen ni edrych ar yr henoed a heneiddio? Wedi'r cyfan mi ydym ni hefyd yn dibynnu llawer ar bobl h欧n.

Pwy warchodai blant ped 芒i llu o neiniau a theidiau ar streic?

Be fydde'n digwydd i lawer o'r gwasanaethau gwirfoddol y mae gwirfoddolwyr brith yn rhoi cymaint o amser i'w cynnal?

Dros ei bedwar ugain

Yn 么l y Beibl, roedd Joshua ymhell dros ei bedwar ugain oed pan roddodd Duw dasg bwysig iawn iddo fo. Y fo, yn ei henaint, a gafodd y job yn o rannu gwlad yr addewid rhwng llwythi Israel.

Mae tuedd yn ein diwylliant ni i ogoneddu ieuenctid a rhoi'r henoed o'r neilltu. Oni ddylen ni roi ychydig mwy o werth ar ddoethineb yr henoed, a chydnabod bod eu cyfraniad nhw at gymdeithas a byd cyn bwysiced ag erioed?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.