主播大秀

Y Grawys

y dair croes yn Calfari

10 Mawrth 2011

gan Aled Lewis Evans

Yr Anialwch

Mae cyfnod y Grawys yn wastad yn gwneud i mi feddwl am yr anialwch.

Dwi'n cofio cael y fraint o fynd i Israel i ddilyn camau Iesu a phatrwm mwy nag un diwrnod oedd, taith yn dechrau yn y ddinas, yna treulio amser yn yr anialwch a dychwelyd i'r ddinas wedyn.

Roedden ni'n cael ein rhybuddio i beidio 芒 mynd 芒 gormod gyda ni wrth fynd i'r anialwch ac, yn wir, roedd yn lle i ddod wyneb yn wyneb 芒 ni ein hunain.

Yn ein bywydau rydym oll yn cael blasu y profiadau mawr ar ben y mynydd ond hefyd yn wynebu anialwch bywyd ambell dro.Fel y diodydd melys a chwerw a gawsom gan y Bedouin crwydrol.

Mae profiad Iesu yn yr anialwch yn dangos ei ddibyniaeth ar Dduw, ei ymddiried yn Nuw a'i ufudd-dod i Dduw - pethau a wynebwn ein hunain adeg y Grawys.

Anialwch y byd

Mae yna anialwch cyfoes yn ein byd modern y gwyddon ni i gyd amdano - ac y down i gyd i gysylltiad ag ef - digartrefedd a phroblemau cymdeithasol, troseddu, cyffuriau, creulondeb, rhyfel, camddefnyddio adnoddau'r ddaear.

Mae'r llinell yn denau iawn rhwng gwareiddiad a barbariaeth, llinell denau iawn sydd rhwng trefn ac anhrefn, rhwng diogelwch a dinistrio, rhwng gwareiddiad ac anialwch.

Yn allweddol fe bwysleisiodd TS Eliot fod yr anialwch oddi mewn i ni hefyd, yn eistedd nesa atom ar y tr锚n tanddaear, yng nghalon ein cymydog ac yn y gwacter all fodoli oddi mewn i ni.

Gwneud inni ystyried

Mae'r Grawys yn gwneud i mi ystyried y pethau hyn. Mewn unrhyw gyfnod pan wynebwn ddisgyblaeth rydym hefyd yn paratoi ein hunain ar gyfer y nod - yn y cyswllt hwn, at ddirgelwch mawr y Pasg.

Mae 'na lwybr drwy'r anialwch at ddinas a bryn a bedd gwag.

Fel dychwelyd o'r anialwch yn 么l i'r ddinas drachefn, felly ein profiad ninnau hefyd yn dod o anialwch rhyw brofiad i ganol rhuthr bywyd drachefn.

Peth tebyg yw'r Grawys. Wedi ein hail galonogi, byddwn yn llawn egni i fedru cyfrannu eto, ac yn medru gweld y ddinas mewn goleuni gwahanol.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.