主播大秀

Trychineb Japan

gan Meirion Morris

18 Mawrth 2011

Taro'n fud

Nawr mae yna bethau sy'n peri fy mod i hyd yn oed yn gwbl fud. Meddyliwch am hyn er enghraifft.

Roeddwn yn teithio n么l o'r De neithiwr, siwrne digon diffwdan nes imi droi yn Y Bala i gyfeiriad Frongoch.

Wrth adael y dre, mae'r cyfarwydd yn gwybod fod yna ddarn bach o ffordd yno, lle y medrwch oddiweddyd os yw amgylchiadau yn caniat谩u. Nawr, dyma fi yn dod rownd y gornel yn fy nghar bach ac yno, ar fy ochr i i'r ffordd, car du crand.

Roedd naill ai ar frys gwyllt neu doedd yn gwybod dim am amynedd fel ffrwyth yr Ysbryd, neu ei fod yn gwybod, a bod y ffrwyth hwnnw yn ei fywyd, wedi hen bydru! Wel! Roedd geiriau wedi methu, a d'oedd fawr i neud ond synnu'n geg agored.

Cofiwch, mae yna bobl dwi'n nabod sydd 芒 digon i'w ddweud mewn sefyllfa o'r fath, a d'oes fawr o ffrwyth yr Ysbryd am eu cyfraniad hwythau chwaith.

O Japan

Dwi wedi bod yn teimlo yn fud wyneb yn wyneb a'r adroddiadau o Japan yr wythnos yma hefyd. Rhaid cydnabod fod yna elfen o sioc wrth weld o bell y llanast wnaeth dorri ar draws bywyd y bobl, a'r wlad honno mewn ychydig funudau brynhawn Gwener diwethaf.

Tu cefn i'r ffigyrau am farwolaethau ac anafiadau, tu cefn i'r trafod ymhlith gwyddonwyr am y peryglon yn yr orsaf b诺er mae yna dorcalon a dagrau, nosweithiau digwsg a dyddiau o ofid.

Dwi'n gwybod digon am fugeilio pobl i wybod nad yw dioddefaint cannoedd yn yr un sefyllfa 芒 chi yn gwneud fawr i dynnu'r boen ingol o'ch sefyllfa bersonol.

Yn rhestr y Times o wledydd cyfoethoca'r byd, roedd Japan yn drydydd ac mewn prynhawn mae'r cyfoeth yn chwalu, gyda phobl yn dioddef o oerni, o newyn, yn marw o anallu gwladwriaeth gyfoethog i ymateb i rym naturiol annaturiol.

Geiriau Iago

Mae wedi bod yn wers go sownd i mi. Dwi angen cofio nad yw'r cestyll crandiaf dwi'n eu hadeiladu ond yn gestyll tywod. Dwi angen cofio geiriau Iago: Gwrandwch, chi sy'n dweud, "Awn i'r lle a'r lle heddiw neu fory, aros yno am flwyddyn, dechrau busnes a gwneud llwyth o arian."

Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydy'ch bywyd chi yn ddim byd ond tarth - mae'n ymddangos am ryw ychydig, ac yna'n diflannu!

Dyma beth dylech chi ddweud: "Os Duw a'i myn, cawn ni wneud hyn a'r llall
."

Dw'i hefyd angen cofio geiriau Iesu; "Dyma sut bobl ydy'r rhai sy'n gwrando arna i ac yna'n gwneud beth dwi'n ei ddweud. Maen nhw fel dyn call sy'n adeiladu ei d欧 ar graig solet."


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.