主播大秀

Paris a chroesi'r Almaen

Teithio'n gyfeillgar tua Copenhagen

Gadael glaw a thywyllwch Llundain am y Cyfandir bore ddoe. Dyma fy nhaith gyntaf ar yr Eurostar a thaith braf a didrafferth fu hi.

Llawer brafiach imi na hedfan, gan mod i'n ofnus o awyrennau, ac yn cas谩u'r profiad o hedfan.

Cyrraedd canol Paris mewn dwyawr a chwarter a hynny mewn modd carbon niwtral, yn 么l y cwmni tr锚n.

Papurau Paris

Egwyl ym Mharis a thudalennau blaen papurau Ffrainc i gyd yn s么n am gynhadledd Copenhagen. Y penawdau'n pwysleisio pa mor allweddol fydd y trafodaethau. Roedd eu gweld yn rhyw fath o ysgogiad imi.

Weithiau mae ymgyrchu yn gallu bod yn brofiad ynysig, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, ar fater sy'n gallu ymddangos yn gymhleth ac amhoblogaidd. Felly yr oedd hi ar y pwnc hwn hefyd.

Erbyn hyn mi gredaf bod consensws am effaith newid hinsawdd ar ein byd. A da bellach yw gweld newyddiadurwyr hefyd yn herio arweinyddion ein byd.

Posteri o gwmpas prifysgol y Sorbonne yn annog myfyrwyr a ieuenctid Paris i fynd ar fysiau i Copenhagen ar gyfer gorymdaith fawr sydd i'w chynnal yno ar Ragfyr 12.

Bydd miloedd o bobl yn cyrraedd Denmarc dros y dyddiau nesaf ac roedd gweld y posteri hyn a phapurau Sul Ewropeaidd yn codi fy ngobeithion.

Drwy'r Almaen

Rwy'n teithio drwy'r Almaen erbyn hyn a'r tr锚n yn gwibio heibio tiroedd ffrwythlon ffermydd Ewrop. Mae 'na gyffro ynof, ac rwy'n edrych ymlaen at gyrraedd.

Ydi, mae'r daith yn hir, a Chopenhagen yn teimlo'n bell iawn o Gaerdydd.

Weithiau rydym ni'n "rhy brysur" a does "dim amser" gennym i deithio yn y ffyrdd mwyaf caredig i'r amgylchedd.

Ond efallai bod yr amser wedi dod inni newid ein blaenoriaethau wrth inni ddewis dulliau teithio - rhaid "cyfri'r gost" mewn mwy nag un ffordd.

Cyfraniadau eraill Jeff Williams

Gwefan Cymru Werdd 主播大秀 Radio Cymru


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.