主播大秀

Fflangellu a chosbi'r hunan

Ioan Pawl. (AP)

01 Chwefror 2010

Mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi yn yr Eidal cadarnheir bod y Pab Ioan Pawl yr Ail yn fflangellu ei hun fel rhan o'i ddefosiwn crefyddol.

Ar Bwrw Golwg, fore Sul, Ionawr 31 2010, bu Bethan Jones Parry yn holi Tristan Owain Hughes am yr arferiad crefyddol o fflangellu a hunan boenydio.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Dywedodd ef bod yr arfer o gosbi'r corff yn bresennol mewn nifer o grefyddau ar wah芒n i Gristnogaeth ac yn dyddio'n 么l i ddyddiau cynnar hanes - yn yr Aifft a Gwlad Groeg er enghraifft.

Ychwanegodd bod rhai grwpiau mewn crefyddau eraill hyd yn oed Islam yn gwneud hynny hefyd.

O'r Hen Destament

Mewn Cristnogaeth dywedodd fod yr arfer yn tarddu o'r Hen Destament lle mae llawer o straeon am bobl yn galaru, er enghraifft, trwy wisgo sachliain ac ymprydio.

"Yn llyfr Eseia mae'r Israeliaid yn tynnu eu gwallt allan ac wedyn yn y Testament Newydd mae'r bobl sydd yn cosbi yn edrych ar lythyrau Sant Pawl - yn enwedig y llythyr at y Rhufeiniaid lle mae'n pwysleisio pwysigrwydd yr ysbryd dros y corff," meddai.

Dywedodd i'r rheswm dros frifo'r hunan yn fwriadol newid dros y blynyddoedd gyda galaru y rheswm pennaf yn yr Hen Destament a dangos i Dduw pa mor ostyngedig yw'r person.

Yn benyd

"Ond mewn Cristnogaeth; yn wreiddiol rhan o benyd oedd o. Mae'n eithaf anghyffredin erbyn heddiw ond mae'r traddodiad erbyn heddiw wedi datblygu i fod yn rhan o ddefosiwn sydd yn rhannu yn nioddefaint Crist ar y Groes," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn arferiad anodd ei egluro i'r person cyffredin.

"Yn weithred gyhoeddus ar un adeg mae'n rhywbeth personol iawn erbyn hyn; yn beth preifat," meddai.

Daeth i sylw pobl yn ddiweddar yn sgil y ffilm The Da Vinci Code.

Yn condemnio

"Rhan fwyaf o'r amser," meddai," mae Cristnogion yn condemnio hyn gan ddweud bod Duw yn dduw cariad ac nid yn dduw poen ond mae yna bobl sy'n cosbi'r corff mewn ffyrdd eraill; yn rhoi bwyd i fyny - am y Grawys - neu yn achos offeiriaid Catholig yn rhoi i fyny rhyw neu fywyd cyfforddus," meddai.

"Yn y llyfr mae Ioan Pawl yr Ail yn cael ei ddisgrifio yn defnyddio ffordd eithafol o gosbi - yn defnyddio belt i chwipio'i hun.

Y Fam Teresa

"Y rhan fwyaf o'r amser mae'r defosiwn yna yn cael ei gondemnio gan Gristnogion," meddai gan ychwanegu bod nifer yn y traddodiad Catholig sydd wedi arfer hyn gan gynnwys Sant Ffransis, Sant Thomas Moore a Sant Ignatiws a hyd yn oed y Fam Teresa.

"Ar y llaw condemniwyd yr arfer gan Babyddion amlwg gan ddadlau bod gormod o boen yn y byd beth bynnag ac mai cariad Duw sydd yn bwysig."


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.