主播大秀

Breuddwyd Macsen

Darluniau gan Jemima Lee

Ymerawdwr Rhufain oedd Macsen Wledig, ac roedd yn uchel ei barch gan bawb.

Penderfynodd ef a deuddeg ar hugain o frenhinoedd eraill fynd i hela. Ar ganol dydd, a'r haul yn uchel yn yr awyr, daeth arno awydd cwsg. Cododd ei weision darianau ar goesau gwaywffyn o'i gwmpas i'w gysgodi rhag yr haul, a rhoi tarian wedi ei hysgythru ag aur yn glustog o dan ei ben.

Breuddwydiodd Macsen ei fod yn teithio ar lawr dyffryn gan ddilyn afon hyd ei tharddiad. Croesodd fynydd uchaf y byd, a'r gwledydd harddaf erioed. Wrth nes谩u at y m么r daeth at aber afon lydan. Roedd dinas fawr yn ei hymyl, yn llawn tyrau amryliw. Gwelai lynges yn aber yr afon ac ynghanol yr afon long fawr, drawiadol.

Cerddodd Macsen dros bont o asgwrn morfil o'r tir i'r llong. Codwyd yr hwyliau a theithiodd ymhell dros y m么r nes cyrraedd gwlad ffrwythlon. Yno gwelodd gaer fawr ac ynddi neuadd deg. Roedd nenfwd a drysau'r neuadd yn aur i gyd a'r waliau o gerrig llachar gwerthfawr. Gwisgai'r gweision sidan du, ac roedd addurn talcen o aur coch a gemau yn dal eu gwallt.

Wrth un o'r colofnau gwelai Macsen ddyn urddasol a'i wallt wedi britho yn eistedd ar orsedd aur. O'i flaen eisteddai merch ifanc. Cofleidiodd Macsen y ferch, ond wrth i'w gruddiau gyffwrdd deffr么dd Macsen oherwydd cyfarth yr helgwn, a dadwrdd y tarianau'n clepian, a gweryru'r meirch.

Roedd Macsen yn glaf o gariad. Dim ond cwsg oedd ar ei feddwl, a chael gweld y ferch yn ei freuddwyd.

Penderfynodd anfon negeswyr i chwilio amdani, ond tasg ofer fu honno. Yna anfonodd dri ar ddeg o ddynion ar y daith y bu ef arni. Daethant i Ynys Prydain, a cherdded i Aber Saint. Ar 么l mynd i'r gaer a gweld y neuadd a'r dyn a'i wallt wedi britho, gwelsant y ferch yr oedd Macsen yn ei charu.

Aethant ati gan foesymgrymu o'i blaen a'i chyfarch fel 'Ymerodres Rhufain'. Tybiodd hithau eu bod yn ei gwatwar. Wedi iddynt esbonio hanes y freuddwyd, dywedodd y ferch wrthynt am anfon Macsen ati i siarad drosto'i hun os oedd yn ei charu gymaint.

Dychwelodd y negeswyr i Rufain gan deithio ddydd a nos, a phrynu ceffylau newydd pan ddiffygiai eu meirch. Cytunasant i arwain Macsen at y ferch a welsai yn y freuddwyd.

Daethant i Ynys Prydain, ac yno yng Nghaer Aber Saint fe welodd Macsen y ferch. Elen oedd ei henw. Cofleidiodd hi a'i phriodi. Gofynnodd Elen i'r ymerawdwr godi tair caer iddi, yr un bwysicaf yn Arfon (ac fe ddygwyd daear yno o Rufain fel y byddai'n fwy iachus i'r ymerawdwr i gysgu ac i eistedd ac i gerdded), a'r ddwy arall yng Nghaerleon a Chaerfyrddin. Codwyd ffyrdd llydain i'w cysylltu, ac fe'u henwyd 'Ffyrdd Elen Luyddog'.

Anfonodd yr ymerawdwr newydd yn Rhufain neges at Macsen yn bygwth ei ladd os byth y dychwelai i Rufain. Dychwelodd Macsen gan oresgyn Ffrainc a nifer o wledydd eraill ar ei ffordd. Gosododd warchae ar ddinas Rhufain a bu yno am flwyddyn nes i frodyr Elen a byddin o Gymru ddod i'w helpu.

Mesurwyd uchder muriau Rhufain, a daeth seiri i baratoi ysgolion er mwyn eu dringo. Goresgynnwyd Rhufain a lladdwyd yr ymerawdwr newydd. Daeth Macsen ac Elen i hawlio'r gaer.


Llyfrnodi gyda:

Chwedlau Myrddin

Morgana

Straeon a gemau

Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.

Dysgu

Celtiaid

Celtiaid

Straeon a ffeithiau difyr am fyd y Celtiaid o Oes yr Haearn yng Nghymru.

Ysgolion

Darlun o Cromwell yn diddymu'r Senedd Hir

Help Hanes

Erthyglau defnyddiol am hanes Cymru drwy'r oesau ar gyfer disgyblion ysgol.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.