主播大秀

Cayo Evans

Cayo Evans

Ym marn rhai, ganwyd Cayo Evans rai canrifoedd yn rhy hwyr. Perthynai yn fwy i oes y marchogion a'u sifalri nag i'n hoes fodern ni.

Cefndir y Rebel

Hawdd fyddai ei ddychmygu'n marchogaeth wrth ystlys Llywelyn neu'n ceisio swyno Merched Llanbadarn yng nghwmni Dafydd ap Gwilym.

Ac yn wahanol i Dafydd, mae'n debyg y byddai Cayo wedi llwyddo. Disgrifiwyd Cayo gan un cofiannydd fel ffoadur o hen oes y rhyfelwyr Celtaidd.

Hawdd deall hynny o wybod am ei obsesiwn am geffylau, a'i gariad at wylltineb mynyddig ei wlad a hanesion hynafol tywysogaethau ei genedl. Gellir priodoli ei gariad at geffylau i ddylanwad ei dad-cu ar ochr ei dad. Roedd hwnnw'n bridio ceffylau yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer gwflr meirch byddinoedd y cyfandir a bu'n porthmona gwartheg i Loegr.

Academydd oedd tad Cayo - enillodd radd ddosbarth cyntaf driphlyg yn Rhydychen a threuliodd 22 mlynedd yn y Gwasanaeth Sifil yn rhanbarthau canolbarth India fel Cyfarwyddwr Addysg cyn dychwelyd i Gymru i fod yn athro Mathemateg yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan.

Mab y Plas

Trigai nid nepell o'r dref honno yng Nglandenys, plasty tyredog Gothig yn Silian a fu unwaith yn faenor.

Pan anwyd Cayo yn 1937 - neu, i roi iddo'i enw llawn, William Edward Julian Cayo Evans - roedd y tad yn dynesu at ei drigain oed, ac oherwydd y bwlch mewn oedran rhwng y ddau tueddai'r mab i glosio at ei fam, menyw fonheddig a hardd a dreuliai lawer o'i hamser yn haul Sbaen oherwydd ei hiechyd bregus.

Drwyddi hi y syrthiodd Cayo mewn cariad 芒 phopeth Sbaenaidd. Ei arwr mawr oedd y Cadfridog Franco, ac roedd hynny'n awgrymu'n gryf ei safbwynt gwleidyddol.

Treuliodd Cayo gyfnodau mewn ysgolion bonedd, yn cynnwys Millfield yng Ngwlad yr Haf, ac yn y fan honno, yn bymtheg oed, y daeth o dan ddylanwad g诺r o Wlad Pwyl, ei feistr t欧 colegol.

Dylanwadau Gwleidyddol

Roedd Yanick Helczman wedi ymladd yn erbyn y Rwsiaid a'r Almaenwyr, a hwnnw a drodd Cayo yn fileinig o wrth-Gomiwnyddol.

Tyfodd y teimlad hwnnw wrth iddo dreulio cyfnod ym Malaya yn brwydro gyda'r South Wales Borderers yn erbyn gwrthryfelwyr Comiwnyddol.

Sylweddolodd bryd hynny faint o drafferth y gallai nifer bychan o wrthryfelwyr ei achosi i filoedd o filwyr Prydeinig. Yno hefyd y cyfarfu 芒'i Weriniaethwr Gwyddelig cyntaf.

Yn dilyn cyfnod mewn coleg amaethyddol, dychwelodd Cayo i Landenys i fridio ceffylau Palomino ac Apaloosa gan lwyddo i ennill sawl gwobr mewn sioeau ceffylau ledled gwledydd Prydain a thu hwnt.

Ac yna, fel y digwyddodd i gannoedd o Gymry ifanc eraill, trodd Tryweryn ef yn genedlaetholwr digyfaddawd. Adeg yr agoriad ar 21 Hydref 1965 gwelwyd aelodau o Fyddin Rhyddid Cymru - 芒 Cayo yn eu harwain - yn eu lifrai gwyrdd am y tro cyntaf.

Byddin Rhyddid Cymru

Ychydig ddyddiau cyn yr agoriad holwyd Cayo ar y rhaglen deledu Heddiw gan Owen Edwards. Penododd Cayo ei hun yn Gomandant y Fyddin.

Cafodd ef a'i ddilynwyr eu gwawdio gan rai, ond i eraill daeth Cayo a'i gymrawd agos, Dennis Coslet, yn destun chwedlau.

Yr hyn a wnaeth Byddin Rhyddid Cymru oedd agor drws i lawer o Gymry di-Gymraeg cymoedd y De a deimlent fod drws Plaid Cymru wedi ei gau yn eu hwyneb.

Broliai Cayo fod ganddo saith mil o ddilynwyr yn y mynyddoedd. Cryn dipyn o or-ddweud, efallai, ond y gwir amdani oedd bod ganddo lawer mwy o gydymdeimlad gwerin gwlad nag a feddyliodd neb.

Daeth tafarndai fel y Llew Du ym Mhontrhydfendigaid a'r Stag and Pheasant ym Mhont-ar-Sais, yr Angel yn Aberystwyth a Glan yr Afon yn Nhalgarreg yn gadarnleoedd i ddilynwyr y Fyddin.

Mudiad Cudd 'MAC'

Pan fyddai Cayo yno'n pregethu neu'n chwarae ei accordion byddai'r tafarndai'n orlawn, a Cayo fyddai canolbwynt pob cynulliad.

Tra oedd Cayo a'i ddilynwyr yn denu holl sylw'r heddlu - agored a chudd - roedd mudiad cudd MAC (Mudiad Amddiffyn Cymru) wrthi'n ffrwydro targedau ledled Cymru a thu hwnt.

Yn ddiarwybod i Fyddin Rhyddid Cymru, roedd ei gweithredoedd yn dargyfeirio sylw'r heddlu oddi wrth y bomwyr go-iawn. Wrth i Fyddin Rhyddid Cymru wneud bygythiadau cyhoeddus, cafodd MAC dragwyddol heol i weithredu yn y dirgel, ac i Cayo a'i griw yr oedd y diolch am hynny.

Roedd gan Cayo y ddawn brin honno o fod yn arweinydd greddfol. Gyda'i gorff lluniaidd, tal, ei wallt claerddu, ei wisg urddasol henffasiwn a'i lygaid tanbaid, tywyll medrai swyno aderyn oddi ar gangen.

Roedd ganddo ddawn y cyfarwydd wrth adrodd stori. Roedd yn sb矛n-feddyg cyn i'r term gael ei fathu. O'i gymharu 芒 Cayo, prentis yw Alastair Campbell. Llwyddodd i dwyllo'r miloedd am gryfder a gallu Byddin Rhyddid Cymru, a hynny a'i gwnaeth yn aberth yn y diwedd.

Cost Carchar

Llwyddodd i dwyllo'r wasg a'r cyfryngau i'r fath raddau fel iddo ef ac wyth o'i gymrodyr gael eu harestio a'u cyhuddo, nid o fod yn aelodau o fudiad anghyfreithlon, fel y cred llawer, ond dan wahanol adrannau o'r Ddeddf Gyhoeddus.

Carcharwyd Cayo am ddeunaw mis, tynged a ddaeth i'w ran ar union ddiwrnod yr Arwisgo. Costiodd ei garchariad yn ddrud iddo. Chwalwyd ei briodas a bu'n rhaid iddo ailadeiladu ei fusnes bridio ceffylau.

Dychwelodd i Landenys at ei ferch, Dalis, a'i fab, Rhodri. Ni lwyddodd carchar i ddiffodd fflam gwrthryfel a daliodd i bregethu a tharanu yn gwbl ddigyfaddawd yn erbyn Imperialaeth Prydain.

Bu farw Cayo ar 29 Mawrth 1995 o effeithiau calon chwyddedig. Tyrrodd cannoedd o bell ac agos i'w angladd, a hyd yn oed o'i amdo llwyddodd i dwyllo'r awdurdodau.

Heuwyd y si ar led y c芒i ergydion eu tanio dros ei arch yn y traddodiad Gweriniaethol Gwyddelig. Roedd dwsinau o heddlu cudd ymhlith y galarwyr o gwmpas y bedd, ac wrth i'r arch ddisgyn yn araf i'r ddaear, camodd dyn ifanc ymlaen yn cario bocs.

Gosododd y bocs ar y borfa a'i agor. Ai hon fyddai'r funud fawr? Gwthiodd yr heddlu cudd eu hunain yn nes. Yna, o'r bocs, tynnodd y dyn ifanc accordion, ac yno, ar lan y bedd, chwaraeodd y 'Cuckoo Waltz', hoff alaw Cayo.

Roedd y g诺r a fu'n gymaint o ddraenen yn ystlys y sefydliad yn farw, ond roedd ei hiwmor yn dal yn fyw. Hawdd oedd dychmygu bwrlwm ei chwerthin yn ffrwydro o ddyfnder y bedd.

Lyn Ebenezer


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.