主播大秀

Dylan Thomas

Dylan Thomas

Dylan Thomas yw un o feirdd enwoca'r byd, mae ei waith, sydd wedi cael ei recordio ar sawl achlysur, wedi bod yn ysbrydoliaeth i artistiaid, a cherddorion ym mhob cwr o'r byd.

Ganwyd Dylan Thomas 27 Hydref 1914 yn Abertawe, ac roedd ei dad, David John Thomas yn athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abertawe a'i fam, Florence Hannah Williams yn wniadwraig cyn iddi briodi.

Treuliodd Dylan nifer o hafau ei blentyndod ar fferm ei fodryb yn Sir Gaerfyrddin, amseroedd a brofodd i fod yn ysbrydoliaeth fawr i'w waith yn ddiweddarach yn ei fywyd, dyma a'i hysbrydolodd i ysgrifennu 'Fern Hill', er enghraifft.

Dangosodd yr awch i farddoni cyn ei fod yn un-ar-ddeg mlwydd oed a mynychodd Ysgol Ramadeg Abertawe o 1925 i 1931.

Roedd yn ohebydd ar y 'South Wales Evening Post' wedi gadael yr ysgol. Wedi blynyddoedd o ysgrifennu ond heb gyhoeddi dim, ym 1933 dechreuwyd cyhoeddi rhai ei gerddi, a darlledwyd un ohonynt ar y 主播大秀 hefyd.

Symudodd Dylan Thomas i Lundain ym 1934, a chyhoeddwyd ei gyfrol gynta' o farddoniaeth, sef 'Eighteen Poems'.

Ym 1936 cyfarfu 芒 Caitlin Macnamara a does dim syndod mai mewn tafarn y cyfarfu'r ddau; o'r cychwyn roedd alcohol yn chwarae rhan flaenllaw yn eu perthynas stormus, ac roedd yn broblem barhaol i'r ddau ohonyn nhw.

Priododd Dylan Thomas a Caitlin yn 1937 yn Swyddfa Gofrestru Penzance. Fe gafon nhw dri o blant - Llewelyn, Aeronwy a Colm.

Treuliodd Dylan Thomas ran helaeth o flynyddoedd cyfnod yr Ail Ryfel Byd yn Llundain lle sgrifennodd sgriptiau ffilm a dogfen, ac ym 1940 cyhoeddwyd 'Portrait of The Artist As a Young Dog'. Yn yr un flwyddyn, methodd brawf meddygol y fyddin, yn Llandeilo.

Dechreuodd ei yrfa mewn darlledu radio ym 1943. Tair blynedd wedyn, bu'n llwyddiannus iawn pan gyhoeddwyd ei waith 'Deaths and Entrances'.

Roedd y cwpwl wedi dotio ar Dalacharn yn Sir Gaerfyrddin erioed, a noddwr i Dylan Thomas a fenthycodd y Boat House iddyn nhw.

Trawsnewidiodd y sied gerllaw'r t欧 yn stiwdio ac yma yr ysgrifennai. Pan nad oedd yn ysgrifennu treuliai'r rhan fwyaf o'i amser yn yfed yn y Brown's Hotel yn y pentref. Mae'r Boat House bellach wedi ei drawsnewid yn amgueddfa am hanes Dylan Thomas.

Gorffennodd ysgrifennu ei ddrama 'Under Milk Wood' yn 1953, yn fuan cyn iddo farw. Mae'r ddrama bellach wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg gan Y Prifardd T James Jones ac fe'i gelwir yn 'Dan y Wenallt.'

Dywedir mai Talacharn oedd yr ysbrydoliaeth i'r ddrama hon, a dywedir bod yr holl ymweliadau 芒'r dafarn wedi cynnig cyfoeth o ddeunydd iddo.

Mae eraill yn credu mai tref glan m么r Cei Newydd yng Ngheredigion yw ysbrydoliaeth y ddrama hon, gan i'r dramodydd dreulio cyfnod yn byw yno hefyd.

Bu farw Dylan Thomas ar daith yn darlithio yn yr Unol Daleithau yn Nhachwedd 1953. Syrthiodd yn y Chelsea Hotel yn Efrog Newydd, ac aed ag ef i Ysbyty St. Vincents lle bu farw yn 39 mlwydd oed.

Roedd llawer o'i weithiau heb eu gorffen pan fu farw, gan gynnwys y nofel 'Adventures in The Skin Trade', a gyhoeddwyd yn ddiweddarach.

Daeth ei weddw 芒 chorff ei g诺r yn 么l i Gymru a chafodd ei gladdu yn Nhalacharn. Bu farw Caitlin yn 81 mlwydd oed, yn 1994. Fe ail briododd hi ar 么l marwolaeth Dylan Thomas, a chafodd blentyn pan oedd yn 49 oed a bu'n byw am flynyddoedd yn yr Eidal. Mae hi wedi ei chladdu wrth ymyl Dylan Thomas yn Nhalacharn.

Mae casgliad o'i gwaith gan gynnwys dyddiadur 43 tudalen sy'n disgrifio perthynas tymhestlog y ddau wedi mynd ar werth yn Llundain.

  • Newyddion: Dyddiadur Caitlin Thomas ar werth

  • Llyfrnodi gyda:

    Cerddoriaeth

    Cerddoriaeth

    Artistiaid

    A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

    Blwyddyn Gron

    Calendr

    Misoedd

    Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

    Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

    主播大秀 iD

    Llywio drwy鈥檙 主播大秀

    主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.