主播大秀

Edgar Evans

Capten Scott, Edgar Evans (ail o'r dde i Scott) a'r criw

Hanes y cawr o Rosili, Edgar Evans, cyfaill mynwesol i Gapten Scott a gollodd ei fywyd ar daith enwoca'r byd i'r Antarctig yn 1912.

Edgar a Chapten Scott

Edgar Evans
Edgar Evans

Ganwyd Edgar Evans ar Fawrth 7 1876 yn Rhosili ger Abertawe, yn fab i forwr. Mynychodd Ysgol Sant Helen i Fechgyn nes iddo droi'n 13 oed. Yna aeth i'r Llynges yn 1891. Erbyn 1899, roedd yn gweithio ar yr HMS Majestic lle'r oedd Capten Robert Falcon Scott yn gwasanaethu fel Is-Gapten.

Ymunodd Edgar ag ymdrech gyntaf Scott i gyrraedd yr Antarctig ar long y 'Discovery' rhwng 1901 a 1904. Yma, daeth y ddau yn agos iawn a dangosodd Edgar ei gryfder mewn argyfwng pan achubodd fywyd Scott pan syrthiodd hwnnw i grefas.

O ganlyniad, cafodd Edgar wahoddiad i siwrne nesaf Scott y Daith 'Furthest West' i Dir Victoria yn 1903.

Y Daith a Chymru

Criw Scott yn y Pegwn
Criw Scott yn y Pegwn

Disgrifiodd Roland Huntford, wnaeth ysgrifennu bywgraffiad am Edgar, ei destun fel 'ffigwr cryf, gyda gwddf fel tarw,' a 'merchetwr oedd yn hoff o'i gwrw'. Yn sicr, roedd Edgar yn gymeriad llawn hiwmor a miri ond roedd hefyd yn forwr medrus. Bu bron i Edgar gael ei adael yn Seland Newydd pan syrthiodd yn feddw i'r dwr wrth geisio byrddio llong. Ond roedd Scott yn hoff iawn ohono oherwydd cryfder ei gorff, ei gymeriad a'i brofiad. Felly ni chafodd ei gosbi am y camwedd yma.

Roedd Scott yn awyddus iawn i'w gynnwys yn ei daith nesaf i Begwn y De yn 1910. Bu Scott yn teithio ledled y wlad yn darlithio am ei ddarganfyddiadau ar ei daith gyntaf i'r Antarctig, mewn ymdrech i godi arian ar gyfer y daith nesaf. Roedd hi'n fater o ras erbyn 1910 gan fod y Norwywr, Roald Amundsen, hefyd yn bwriadu teithio i'r Pegwn.

Fe wnaeth Cymru chwarae rhan flaenllaw yn y daith enwog yma i'r Antarctig. Cyfranodd Caerdydd y glo at y siwrne, gyda 'swper olaf' y criw yng Ngwesty'r Royal yng Nghaerdydd yn 1910. Mae'r Gwesty'n dal i gofio'r digwyddiad pwysig hwn; darganfuwyd fwydlen y swper oedd yn cynnwys 'Pwdin Pegwn y De' yn 1982 a dadorchuddiwyd plac er cof am yr anturiaethwyr y llynnedd. A cheir 'Ystafell Capten Scott' yn ogystal.

Gan fod y brifddinas wedi cyfrannu tanwydd y siwrne, hwyliodd y llong, y Terra Nova, o ddociau Caerdydd ar Fehefin 15, 1910. Mae'r ardal yn talu teyrnged i Gapten Scott a'i gyfoedion gyda chofeb trawiadol iddynt ym Mae Caerdydd. Roedd y dyrfeydd wnaeth ffarwelio gyda'r criw anturus y diwrnod hwnnw yn ffyddiog y byddent yn hawlio'r Pegwn y De yn enw mawreddog Prydain Fawr.

Y Pegwn

Cwt Capten Scott
Cwt Capten Scott

Dewisodd Scott, Edgar fel aelod o'i barti terfynol; dim ond pump ohonynt fyddai'n gwneud y siwrne terfynol i'r Pegwn, gyda gweddill y criw yn dychwelyd at y Terra Nova gan adael cyflenwadau i'r criw terfynol mewn 'depots' amrywiol ar hyd y siwrne. Y criw terfynol oedd Capten Scott; Edgar Evans; y Swyddog Henry Robertson Bowers; Lawrence Oates a Dr. Edward Adrian Wilson. Mae'n dangos cymaint oedd meddwl Scott am ei Is-Swyddog cadarn ei fod wedi ei ddethol e fel un o'r criw terfynol, braint aruthrol (ond melltith mewn gwirionedd o gofio eu tranc).

Yn ei ddyddiaduron, disgrifiodd Scott Edgar Evans fel, 'cawr o weithiwr -ef sy'n gyfrifol am bob sled, y pebyll, y cydau-cysgu a phob harnes. A phan mae dyn yn methu cofio un problem gyda'r holl eitemau yma, mae'n dangos ei fod yn gynorthwy-ydd amhrisiadwy'.

Roedd Lois Evans, gwraig Edgar, yn aros adre amdano yn Rhosili gyda'u plant bach. Ysgrifennai Edgar iddi yn disgrifio'r teimlad swreal o fod allan yn yr Antarctig:

"Dwi'n meddwl amdanat yn aml, yma ar blatfform ia, 10,000 troedfedd uwchben y m么r..."

Nid yn unig Capten Scott oedd yn canu clodydd Edgar. Ysgrifennodd wraig Scott, Kathleen, lythyr twymgalon at Lois, yn canmol ei g诺r gan ddweud bod y Capten "芒 meddwl uchel iawn amdano; ei fod yn un o'r dynion gorau posibl..."

Y Daith drychinebus

Dwi'n meddwl amdanat yn aml, yma ar blatfform ia, 10,000 troedfedd uwchben y m么r...

Edgar Evans

Unarddeg wythnos wedi iddynt adael y gwersyll, cyrhaeddodd griw Scott Begwn y De ar Ionawr 17 1912, ond i ddarganfod fod criw Roald Amundsen wedi cyrraedd y Pegwn o'u blaenau 5 wythnos yn flaenorol.

Dyma ergyd erchyll i Scott a'r gweddill. Roedd y daith hir a phoenus yn ofer. Mae yna sawl damcaniaeth erbyn heddiw pan wnaeth Amundsen lwyddo yn hytrach na Scott. Roedd gan y Norwywyr fwy o brofiad a gwybodaeth am sut i ymdopi o dan amgylchiadau oer ac anodd; roedd Amundsen wedi dibynnu ar g诺n yn tynnu'r slediau yn hytrach na cheffylau fel gwnaeth Scott, oedd yn llai effeithiol ac yn cymryd mwy o amser. Roedd y ceffylau methu ymdopi cystal yn y tywydd erchyll a bu'n rhaid saethu nifer ohonynt.

Roedd y daith i'r Terra Nova yn enbyd. Roedd Edgar wedi niweidio ei law mewn damwain wrth iddynt agosau at y Pegwn a doedd y briw heb wella. Dechreuodd Edgar ddirywio yn gyflym, gan ddioddef o frath yr ia. Cred llawer bod y ffaith ei fod yn ddyn mawr cryf wedi cyfrannu at ei dranc. Roedd angen mwy o fwyd ar Edgar na dynion llai a doedd y bwyd sych di-maeth oedd ganddynt ar y daith (fel y pemmican afiach -cig sych) heb roi'r fitaminiau angenrheidio i'w gorff fedru ymladd yn erbyn ei salwch.

Diddorol yw nodi bod agwedd Scott tuag at ei hen gyfaill wedi newid yn ei ddyddiaduron wrth i'r Cymro a'i salwch ddechrau arafu'r criw. Poenai Scott fod Edgar yn dechrau 'colli ei ben' a'i fod yn 'faich anferthol arnynt'. Wrth iddynt gyrraedd Rhewlif Beardmore, credir fod Edgar wedi taro'i ben wrth syrthio i mewn i grefas ar Chwefror 4 1912. Ychwanegodd y niwed hwn at ei afiechyd gan arafu pawb ymhellach.

Diwedd truenus

John Evans yng Ngwesty'r Royal, Caerdydd
John Evans, 诺yr Edgar, yng Ngwesty'r Royal, Caerdydd

Ar Chwefror 16 1912, wrth iddo agosau at waelod y rhewlif, syrthiodd Edgar. Y bore wedyn, roedd Edgar yn methu teithio gyda'r criw, felly aethant o'i flaen e gyda'r sled tuag at y 'depot' nesa i gasglu eu cyflenwadau; bu'n rhaid iddynt ddychwelyd i'w gasglu ar sled wag. Bu farw Edgar yn y babell y noson honno. Dyma'r 'peth gorau posibl o dan yr amgylchiadau' medd Scott wrth iddo ddechrau sylweddoli bod eu sefyllfa'n gwbl anobeithol. Ni fu'n hir nes i weddill y parti golli eu bywydau yn yr Antarctig. Ni chafwyd cofnod o beth ddigwyddodd i gorff Edgar oherwydd bod neb yn fyw i adrodd y stori.

Pan ddaeth y stori i glyw y cyhoedd, cafwyd llif o alar gan gyfryngau'r dydd. Cafwyd lluniau truenus o blant bach Edgar a'i wraig Lois yn galaru am yr arwr colledig. Trefnodd Lois bod plac er cof i Edgar yn cael ei osod yn yr Eglwys Normanaidd yn Rhosili. Mae'r arysgrif yn darllen, '...Er cof am Edgar Evans, Is-Swyddog Dosbarth Cyntaf, R.N. a brodor o'r plwyf hwn, fu farw ar Chwefor 17 1912, wrth ddychwelyd o Begwn y De gyda Chriw Deheuol Taith Brydeinig yr Antarctig o dan arweinyddiaeth Capten Robert Falcon Scott, C.V.O. R.N.'

Ceir sawl cofeb i'r criw trychinebus gydag adeilad llyngesol yn enw Edgar ar Whale Island, Portsmouth, wedi ei agor yn 1964, (oedd yn anghyffredin iawn gan mai dyma'r adeilad gyntaf i gael ei enwi i gofio Is-Swyddog yn hytrach na Llyngesydd).

Yng Nghaerdydd ceir sawl cofeb yn cynnwys y goleudy trawiadol ar lyn Parc y Rhath sy'n rhestri criw olaf y Pegwn yn cynnwys Edgar.

Yn y ffilm enwog, 'Scott of the Antarctic' (1948), portreadwyd Edgar gan yr actor adnabyddus, James Robertson Justice. Roedd Justice yn Sais rhonc ac mae'n ddoniol erbyn heddiw clywed John Mills yn portreadu Scott yn galw Justice yn 'Taff' Evans!

Cofio Edgar

Cofeb Parc y Rhath
Cofeb Parc y Rhath

Fe aeth Lois i ddangosiad arbennig o'r ffilm ac mae ei 诺yr, John Evans, yn cofio bod yna 'ddeigryn yn ei llygad wrth iddi wylio hanes Edgar yn falch.'

Mae 2012 yn flwyddyn fawr am mai dyma canmlwyddiant marwolaeth Capten Scott a'i gyfoedion. Mae yna gynlluniau gan yr International Scott Centenary Expedition 2012 (ISCE) i drefnu taith arbennig i'r Antarctig gyda John Evans a theuluoedd eraill y criw yn ymuno yno mewn gwasanaeth goffa i'w hendeidiau yn y man lle collasant eu bywydau.

Mae'r cwt a ddefnyddiodd Scott a'i griw ar eu taith yn dal i sefyll yn yr Antarctig. Daethpwyd o hyd iddo yn 1956 pan cloddiwyd amdano gan anturiaethwyr o'r U.D. Yn rhyfeddol, mae yna nifer o arteffactiau o gyfnod Scott yn dal i fodoli yn y cwt wedi eu cadw'n ddiogel gan yr eira. Mae'r adeilad o dan ofal am ei bwyisgrwydd hanesyddol.

Ond pam mae hanes Scott a'i griw wedi aros yn y cof a pham cafodd y stori gymaint o sylw yn ei dydd? Roedd yn stori llawn antur, yn cynrychioli 'Ymerodraeth fawr' Prydain ar ei gorau, yr oes a fu, gyda'r arwyr yn teithio i bendraw'r byd ar siwrne gwrol. Nid yw hi'n gyd-ddigwyddiad mai hoff ddywediad Scott a byrdwn y siwrne oedd y geiriau enwog o farddoniaeth enwog 'Ulysses' gan Tennyson, 'To strive, to seek, to find, and not to yield'.

Mae yna ramant yn y geiriau hynny ac yng ngholled ac enbydrwydd y stori erbyn hyn. Fe ymdrechodd Scott, Edgar a'r gweddill ac fe fethasant. Ond yn eu methiant, fe wnaethant ennill anfeidroldeb. Wedi'r cwbl, pwy, ag eithrio'r haneswyr gwybodus, sy'n cofio stori Roald Amundsen erbyn heddiw?


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.