主播大秀

Elinor Bennett

Elinor Bennett

Telynores o fri sydd wedi gwneud llawer i boblogeiddio'r offeryn yng Nghymru.

Y Delyn gyntaf

Ganed Elinor Bennett yn Llanidloes yn 1943, a symudodd hi a'i theulu i Lanuwchllyn ger y Bala pan oedd yn chwe mlwydd oed. Aethant i fyw i'r Gwyndy, t欧 oedd yn rhan o hen gartref OM Edwards, y Neuadd Wen. Aeth Elinor a'i chwaer i'r ysgol gynradd leol cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg y Bala i Ferched, sef Ysgol y Berwyn erbyn hyn.

Pan gyrhaeddodd y teulu Lanuwchllyn, ymunodd tad Elinor 芒 ch么r llwyddiannus y pentref, C么r Godre'r Aran. Aeth yr holl ffordd i'r Dorchester yn Park Lane yn Llundain i'w cyngerdd cyntaf a daeth yn 么l adref ar y tr锚n wedi prynu telyn i'w ferched.

Meddai Elinor: "Y cyfan dwi'n ei gofio ydy deffro un bore yn chwe mlwydd oed, a gweld y peth gorgeous yma mewn clawr pinc yng nghornel y 'stafell. Doeddwn i erioed wedi gweld telyn o'r blaen. Roedd yn dipyn o benderfyniad i fy nhad ei phrynu, ond dywedodd ei bod ar fy nghyfer i a fy chwaer pan fydden ni'n h欧n."

Y Gyfraith neu Cerddoriaeth

Ei hathrawes telyn gyntaf, yn 11 mlwydd oed, oedd Alwena Roberts o Bwllheli, a fyddai'n teithio o amgylch gogledd Cymru yn dysgu'r offeryn.

Ar 么l gadael yr ysgol, penderfynodd Elinor fynd i Aberystwyth i astudio'r gyfraith oherwydd, mae hi'n tybio, fod athro'r gyfraith Syr David Huws Parry, a oedd yn briod 芒 merch OM Edwards, yn byw drws nesaf iddi yn y Neuadd Wen.

Meddai Elinor: "Doedd gen i ddim syniad beth arall i'w wneud ar 么l yr ysgol. Wnes i 'rioed feddwl o ddifri' am ddilyn gyrfa gerddorol. 'Doeddwn i ddim wedi astudio cerdd yn yr ysgol ac felly wnaeth o erioed croesi fy meddwl i."

Ar 么l graddio yn y Gyfraith, aeth Elinor i weithio mewn swyddfa gyfreithiol yn Llundain - "gwaith digon diflas," meddai. Penderfynodd ymgeisio am ysgoloriaeth i astudio yn Academi Gerddoriaeth Frenhinol Llundain gydag Osian Ellis. Fe enillodd yr ysgoloriaeth ac mae'n dweud iddi gael tair blynedd gwych yn byw yn y brifddinas.

Telynores o fri

Erbyn hyn mae Elinor Bennett yn un o gerddorion mwyaf blaenllaw Cymru ac wedi chwarae'r delyn i gynulleidfaoedd ar draws y byd. Mae hi yr un mor gyfforddus yn chwarae darnau traddodiadol a chyfoes fel ei gilydd, ac wedi rhannu llwyfan gyda Cerys Matthews.

Mae hefyd wedi gweithio efo arweinwyr byd-enwog fel Barbirolli, Boult, Britten, Leinsdorf a Colin Davis ac wedi cyhoeddi nifer o recordiau dros y blynyddoedd.

Yn 1985, enillodd Wobr Churchill, 芒'i galluogodd i ymweld ag Awstralia i astudio therapi cerddoriaeth, a gwnaeth lawer i gefnogi'r maes yng Nghymru pan ddychwelodd.

Caiff ei chydnabod fel un o brif athrawesau Prydain ar y delyn ac ymysg ei chyn-ddisgyblion mae Catrin Finch sydd bellach yn briod 芒'i mab, Hywel, sydd hefyd yn gerddor. Bellach yn byw yn Bontnewydd ger Caernarfon ers blynyddoedd, mae ganddi hi a'i g诺r, y cyn Aelod Seneddol ac Aelod yn y Cynulliad a Thy'r Arglwyddi, yr Arglwydd Dafydd Wigley, hefyd ferch o'r enw Eluned Haf.

Profodd Elinor Bennett a Dafydd Wigley drasiedi enbyd wrth golli dau blentyn ifanc, Alun a Geraint o ganlyniad i salwch genetig difrifol o'r enw Sanfilippo.

Mae'n teimlo'n gryf dros drosglwyddo ei chariad at gerddoriaeth ymlaen i'r genhedlaeth nesaf ac mae'n gwneud hyn drwy ei gwaith fel cyfarwyddwr artistig i Ganolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.

"Dwi'n teimlo fod cerddoriaeth yn bwysig ofnadwy," meddai. "Heb gerddoriaeth, mi fyddai fy mywyd i wedi bod yn ofnadwy, ac mae'n ffordd o fyw i mi."

Cyhoeddodd Elinor Bennett ei hunangofiant, 'Tannau Tynion' ym mis Tachwedd 2011.


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.