主播大秀

Emrys ap Iwan

Emrys ap Iwan

Cenedlaetholwr, beirniad llenyddol ac ysgrifennwr toreithiog.

Ysbrydoliaeth Ewropeaidd

Robert Ambrose Jones oedd mab hynaf John a Maria Jones, oedd yn byw ar stad Mryn Aber ger Abergele. Ganwyd ef ar y 24 o Fawrth 1851. Fel ei dad, bu'n arddwr ym Modelwyddan a bu'n gweithio am flwyddyn mewn siop ddillad yn Lerpwl cyn mynychu'r Coleg Diwinyddol yn y Bala yn 18 oed.

Cymreigiodd ei enw yn ei waith ysgrifennu ac roedd Emrys ap Iwan yn ystyried ei hun fel Ewropead - roedd ei hen daid wedi priodi 芒 gwraig o Ffrainc a oedd yn gweithio yng Nghastell Gwrych.

Y

m 1874 fe aeth i'r Swistir a threulio deunaw mis yn athro Saesneg mewn ysgol breifat yn Lausanne gan fanteisio ar y cyfle i wella ei Ffrangeg ac Almaeneg.

Er iddo ddychwelydd gartref ym 1876, treuliodd amser yn Heidelberg, Bonn a Giessen a bu'n ymwelydd cyson 芒'r cyfandir wedi hynny.

Beirniadu'r Eglwys

Yn 么l yng Nghymru dechreuodd gyfrannu i'r Gwyddoniadur Cymreig ac i Faner ac Amserau Cymru.

Bu'n feirniadol o'i enwad ei hun, y Methodistiaid Calfinaidd, yngl欧n 芒'u polisi o sefydlu eglwysi Saesneg mewn ardaloedd Cymraeg.

Ei ddadl oedd bod digon o angen cenhadu ymysg Cymry Cymraeg heb ymostwng i fewnfudwyr o Saeson.

O ganlyniad i hyn gwrthodwyd ordeinio Emrys ap Iwan yn Llanidloes yn 1881, ond fe'i derbyniwyd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn yr Wyddgrug.

Bu'n gwasanaethu fel gweinidog yn eglwysi Rhuthun, Trefnant a'r Rhewl am weddill ei oes.

Bathu Geiriau

Fel bardd llenyddol ei brif waith oedd olrhain traddodiad rhyddiaith Gymraeg glasurol a bu'n ymdrechu i adfer symlrwydd a phurdeb.

Emrys ap Iwan fathodd y gair 'ymreolaeth' ac roedd yn credu mewn hunanlywodraeth y tu mewn i gyfundrefn ffederal, er nad oedd ganddo unrhyw uchelgais wleidyddol ei hun.

Roedd hefyd am i'r Gymraeg gael statws swyddogol llawn er mwyn sicrhau urddas pobl Cymru.

Bu'n gyfrannwr cyson i'r wasg Gymraeg ac fe gafodd detholiad o'i erthyglau eu cyhoeddi mewn tair cyfrol ac fe gyhoeddwyd dwy gyfrol o'i bregethau dan y teitl Homiliau.

Bu farw ym 1906 ac fe'i claddwyd yn Rhewl. Mae Ysgol Uwchradd Abergele wedi ei henwi er cof amdano.


Llyfrnodi gyda:

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.