主播大秀

Guto Nyth Bran

Guto Nyth Bran

Yn enwog am ei allu athletaidd, cofir llwyddiannau Guto bob blwyddyn yn ras Nos Galan, Aberpennar. Mae Mike Rowlands yn rhannu mwy o'r hanes.

Roedd Guto, yn anedig Griffith Morgan, yn ffigwr arbennig iawn ym myd rhedeg. Fe'i anwyd yn Llwyncelyn yn y Rhondda yn 1700 ac ychydig wedi hyn fe symudodd ei rieni ac ef i Ffarm Nyth Bran ger Porth - dyma esbonio tarddiad ei lysenw.

Bu Guto yn helpu ei dad ar y ffarm o oedran ifanc, yn rhedeg ac yn cerdded am filltiroedd bob dydd, fel yr oedd llawer o bobl yn gwneud yn y 18fed ganrif. Daeth hi'n amlwg fod Guto yn redwr arbennig pan ddaliodd Sgwarnog tra'n casglu'r defaid at ei gilydd. Cyn hir roedd straeon yn lledu ei fod e wedi dal aderyn, ac hynny tra fod hwnnw yn hedfan!

Yn y diwedd fe gymerodd perchennog siop leol o'r enw Sian ef o dan ei hadain wedi iddi glywed ei fod wedi rhedeg o'i gartref i siopa ym Mhontypridd ac yn 么l (ychydig dros 7 milltir), cyn i'w fam fedru berwi'r tegell brecwast. Wedi hynny daeth Sian yn rheolwraig, ac yn hwyrach yn gariad iddo.

Y ras fawr gyntaf drefnodd Sian-y-Siop oedd yn erbyn capten Saesneg yng Nghaerfyrddin, oedd erioed wedi cael ei guro.

Rasiodd y ddau dros bedair milltir ar dir cyffredin Hirwaun. Rhyfeddodd pawb wrth weld mor rhwydd oedd buddugoliaeth Guto. Llongyfarchodd y capten ef ac fe gasglodd Sian 拢400 o wobr. Yn anffodus, fe ddaeth Guto i fod mor flaenllaw fel nad oedd neb yn fodlon cystadlu yn ei erbyn. Penderfynodd Guto ymddeol o'i yrfa athletaidd a throi unwaith yn rhagor at fywyd mwy syml.

Aeth blynyddoedd heibio a daeth dyn o'r enw Prince i'r amlwg fel raswr arall nad oedd wedi ei guro. Medrodd Sian berswadio Guto, oedd bellach yn 37, i ddechrau ymarfer ar gyfer ras fawr yn erbyn Prince. Roedd gwobr o ryw 1000 gini ac roedd y llwybr yn rhedeg o Eglwys St Woolo yng Nghasnewydd i Eglwys St Barrwg ym Medwas - 12 milltir o bellter.

Roedd y ras yn un gwefreiddiol. Cymerodd Prince y blaen yn gynnar iawn, ond reit ar y diwedd fe sbrintiodd Guto lan rhiw serth gan orffen y ras mewn 53 munud. Yn ei brwdfrydedd i'w longyfarch ar ei berfformiad anghygoel fe roddodd Sian slap mawr ar gefn Guto, ac fe syrthiodd yn gelain yn ei breichiau.

Cariwyd ei gorff gan ei gefnogwyr galarus, i'w fan gorffwys yn Eglwys Llanwonno. Mae carreg fedd newydd yno yn coffau ras olaf Griffith Morgan. Oddi tano gwelir y garreg fedd wreiddiol, 芒 chalon wedi ei cherfio i mewn iddi yn symbol o gariad Guto a Sian.

Mae cerflun o Guto i'w weld yn Aberpennar, lle y cynhelir ras bob Nos Galan er cof amdano. Mewn blynyddoedd diweddar mae'r digwyddiad wedi denu sawl rhedwr enwog megis Iwan Thomas, Jamie Baulch, Christian Malcolm a Darren Campbell yn ogystal 芒 Chymry eraill fel Neil Jenkins a Robbie Regan.


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.