主播大秀

Gwen John

Gwen John

Bu Gwen John yn byw yng ngysgod ei brawd, yr Artist Bohemaidd Augustus John, ond yn 么l llawer, (gan gynnwys ei brawd), hi oedd yr arlunydd mwyaf talentog o'r ddau.

Dechrau'n Sir Benfro

Gwen John a'i brawd iau, Augustus John, yw'r enwocaf, mae'n debyg, o'r holl arlunwyr a gafodd eu geni a'u magu yn Sir Benfro.

Ond tra bod llawer o arlunwyr wedi cael eu denu i'r ardal a'u hysbrydoli ganddi - rhai fel Graham Sutherland, er enghraifft, neu John Knapp-Fisher, Elizabeth Haines neu Linda Norris - symud i ffwrdd wnaeth Gwen ac Augustus John.

Ganed Gwen John yn 1876 yn Hwlffordd, lle roedd ei thad yn dwrnai parchus, ond symudodd y teulu i Ddinbych-y-Pysgod yn sgil marwolaeth annhymig y fam yn 1884. Colled fawr oedd honno i Gwen John.

Oeraidd a chul oedd awyrgylch y cartref wedyn - nid oedd ei thad yn gynnes iawn tuag at ei blant. Colled arall i'r ferch fach oedd yr anogaeth i arlunio a gawsai gan ei mam. Roedd Augusta John yn arlunydd amatur dawnus yn null confensiynol yr oes ac, yn 么l y s么n, hi roddodd llyfryn braslunio gyntaf yn llaw ei merch hynaf.

Buan iawn y daeth Gwen John i sylwi na ch芒i merched yr un cyfle 芒 bechgyn. Anfonwyd ei brawd Augustus i ysgol uwchradd leol ac wedyn i ysgol breswyl ger Bryste, cyn iddo gychwyn am ysgol gelf y Slade yn Llundain. Ond ni chafodd Gwen ysgol o gwbl, eithr cael ei chadw gartref i dderbyn y math o addysg eilradd, arwynebol a ystyrid yn addas ar gyfer merch ifanc sid锚t.

Ffarwel i Gymru

Augustus John
Augustus John

Yn 1895, diolch i'w styfnigrwydd, llwyddodd Gwen i berswadio ei thad i ganiat谩u iddi hithau fynd yno, flwyddyn ar 么l i Augustus gyrraedd y Slade.

Ar wah芒n i wyliau tra'r oedd hi'n fyfyriwr, ddychwelodd hi fyth i Ddinbych-y-Pysgod nac i Gymru. Roedd ei chyfnod yn Llundain wedi gweddnewid ei bywyd. Nid yn unig roedd ganddi athrawon a gymerai hi a'i gwaith o ddifrif, ond roedd hi wedi ei hamgylchynu gan griw o ferched ifainc eraill, dawnus a brwdfrydig, a gefnogai ac a anogai ei gilydd yn eu gwaith. Yn eu plith roedd Ida Nettleship, a briododd Augustus yn 1901.

Wedi cael blas ar ryddid, ni allai Gwen wynebu eto barchusrwydd gormesol ei chartref yn Ninbych-y-Pysgod.

Gadawodd Prydain yn 1903, yng nghwmni ffrind iddi, Dorothy neu Dorelia McNeill, cariad diweddaraf Augustus. Ni allai Gwen ddioddef effaith y berthynas hon ar ei chwaer-yng-nghyfraith, felly mi gododd ei phac a mynd a Dorelia draw i gyfandir Ewrop, gyda'r nod o gerdded i Rufain gan dalu eu ffordd drwy dynnu lluniau.

Byd newydd Paris

Erbyn yr hydref roedden nhw wedi cyrraedd mor bell 芒 de Ffrainc a phenderfynu aros yn Toulouse tan y gwanwyn, pryd y symudodd y ddwy i Baris, lle y gellid yn hawdd ennill bywoliaeth fel model i arlunwyr.

I Gwen John ac i lawer o ferched creadigol eraill o wledydd Prydain ac o Ogledd America, cynigiai Paris yn yr oes honno ryddid i weithio ac i ddianc rhag hualau confensiwn. Pan ddychwelodd Dorelia i Brydain at Augustus John yn y pen draw, arhosodd Gwen ym Mharis, ac yn yr ardal honno y treuliodd weddill ei hoes.

Ar drothwy'r Ail Ryfel Byd, cychwynnodd ar y tr锚n i Dieppe, bu farw yno a'i chladdu'n ddi-ffwdan heb neb o'i theulu'n bresennol.

Roedd ei diwedd felly'n gydnaws 芒'i bywyd, oherwydd person preifat iawn oedd Gwen John, un nad oedd yn hoff o gymdeithasu, ond oedd ag adnoddau mewnol cryf iawn.

Awen Rodin

Y Ferch mewn Glas (Amgueddfa Genedlaethol Cymru)
Y Ferch mewn Glas (Amgueddfa Genedlaethol Cymru)

Cysegrodd ei bywyd yn gyfangwbl i'w chrefft, heb falio botwm corn am enwogrwydd a chyfoeth nac am farn eraill amdani. Cafodd ei hannog i weithio'n galed gan y cerflunydd Auguste Rodin, y bu hi'n fodel ac yn gariad iddo, ac yn ei stiwdio ef daeth hi i gysylltiad ag arlunwyr ifainc eraill a rannai ei diddordeb ysol yn y celfyddydau gweledol, a chael cyfle i drafod syniadau gyda rhai o anian debyg.

Ond roedd y berthynas gyda Rodin yn un wnaeth dorri calon Gwen. Hi oedd ei Awen am gyfnod a dywedir i'w gerflun enwog, 'Y Gusan' gael ei fodeli arni. Ond roedd Rodin yn ddyn hefo nifer o gariadon a buan collodd Gwen ei hapel yn ei lygaid yntau.

Bu ei chysylltiad 芒'r bardd Almaeneg Rainer Maria Rilke, a fu am gyfnod yn ysgrifennydd i Rodin, yn arbennig o bwysig iddi: parchent ei gilydd fel artistiaid 芒'r un oedd eu dyheadau artistig.

Dewisodd Gwen John fyw ar ei phen ei hun, mewn ystafelloedd syml ym Mharis ac yn ddiweddarach ym Meudon. Roedd hi'n berffeithydd a weithiai'n araf iawn ar ei lluniau twyllodrus o syml, gan baratoi yn ofalus ymlaen llaw: treuliai amser hir yn dewis union ystum corff y model (merched gan amlaf), neu'n gosod y dodrefn mewn patrwm arbennig.

Ei hystafell oedd un o'i hoff destunau a byddai'n canolbwyntio ar un gornel, efallai, neu ar fwrdd neu gadair, gan osod tusw o flodau, ambarel, llyfr neu debot i ddangos 么l preswylydd anweledig y lle.

Arlunydd bach Duw

Paentiai gyfresi o luniau 芒'r un thema - merch yn darllen, merch yn dal cath yn ei breichiau, yr olygfa o'r ffenestr. Tawel yw'r lluniau olew, o ran lliw ac awyrgylch. Ar wah芒n i ambell un o'i hunanbortreadau, nid oes ynddynt yr un adlais o'r tyndra na'r tristwch a glywir ar adegau yn eu nodiadau personol.

Palette ychydig mwy bywiog sydd i nifer o'r lluniau dyfrlliw, lle gwelir ar adegau fymryn o hiwmor yn y ffordd y portreadir dynes ganoloed, hunanbwysig, er enghraifft, neu ferch fach 芒 thrwyn smwt.

Wedi iddi gael ei derbyn i'r Eglwys Gatholig yn 1917, diffiniai Gwen John ei hun fel 'arlunydd bach Duw'. Daeth i gysylltiad 芒 lleiandy ym Meudon a phaentio portreadau sylfaenydd yr urdd a nifer o'r chwiorydd, yn ogystal 芒'r merched a fynychai eu hysgol, gan ddotio ar blygiadau igam-ogam eu penwisg. Iddi hi roedd tynnu lluniau yn weithred o ffydd, yn ffordd i addoli, a dyna oedd ei hesboniad a'i chyfiawnhad pan gafodd ei cheryddu gan gymdoges am dynnu brasluniau yn yr eglwys yn ystod yr offeren.

Meddwl Miniog

Cusan Rodin
Cusan Rodin

Cymerodd yr arlunydd y Santes Th茅r猫se o Lisieux yn nawddsant bersonol iddi, gan werthfawrogi sylw'r santes fod pob tasg yn gysegredig o'i chyflawni yn enw Crist.

Er na chwenychai lwyddiant ariannol gwerthai ei gwaith yn gyson. Anfonai at arddangosfeydd yn Llundain ambell waith, ac yn gyson at y Salons ym Mharis, ac am gyfnod yn y 1920au derbyniai incwm cyson gan noddwr Americanaidd, John Quinn, am anfon nifer arbennig o luniau ato bob blwyddyn.

Ond yn ystod ei deng mlynedd olaf paentiai lai a llai, fwy na thebyg oherwydd gwendid a salwch. Eto i gyd, parh芒i i dynnu brasluniau a lluniau bach dyfrlliw ar amrywiaeth o them芒u - golygfeydd o gwmpas ei chartref ym Meudon, addolwyr yn yr eglwys, teithwyr yn y tr锚n, pobl yn mwynhau cwpaned mewn caf茅, heb s么n am destunau crefyddol megis Santes Th茅r猫se neu'r Forwyn Fair.

Roedd ei meddwl mor finiog ag erioed, fel y dengys ei nodiadai lle y dadansoddai'n fanwl ei hamcanion a'i thechneg fel arlunydd, gan ymateb i'r hyn a glywsai yn narlithoedd damcaniaethwyr pwysig fel Andr茅 Lhote.

Dylanwad Penfro

Os na ddychwelodd Gwen John i'w sir enedigol, gadawodd Sir Benfro ei h么l arni. Ai'n aml ar wyliau i Lydaw, y rhan o Ffrainc sydd debygaf i dde-orllewin Cymru, ac yno hoffai grwydro ar lan y m么r ac ar hyd y clogwyni, fel yr arferai wneud yn blentyn. Ac fel y gwnaethai yn Ninbych-y-Pysgod flynyddoedd ynghynt, arferai dynnu lluniau o blant bach yr arfordir.

Yn fach dysgasai rywfaint o Gymraeg, yn bennaf gan yr hen nyrs o ardal y Preseli a ofalodd am y plant ar 么l iddynt golli eu mam, ond nid oedd dawn ieithydd gan Gwen John, fel y tystia ei Ffrangeg wallus na wellodd fawr ddim er iddi fyw am flynyddoedd yn Ffrainc.

Eto i gyd, yn 么l ei brawd siaradai Saesneg gyda thinc o acen Sir Benfro, acen, meddai yntau, nad oedd ganddi'n blentyn. Ond nid oedd cenedligrwydd yn bwysig i Gwen John. Ni pherthynai i Ffrainc fwy nag i Gymru, ond i'w byd ei hun, byd mewnol ac ysbrydol a allanolir yn ei lluniau.

Ym mis Rhagfyr 2011 daethpwyd o hyd i gasgliad o 23 o ddarluniau dyfrliw gan Gwen John ym Mhrifysgol Princeton yn yr UD. Daeth yr Athro Anna Gruetzner Robins o Brifysgol Reading o hyd iddynt mewn casgliad o bapurau a rhoddwyd i'r Brifysgol gan y bardd o Aberdaugleddau, Arthur Symons. Mae'r darluniau wedi eu cydnabod yn swyddogol fel gwaith gan Gwen John gyda'u gwerth oddeutu 拢500,000.

Ceridwen Morgan


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.