主播大秀

Gwenlyn Parry

Gwenlyn Parry

Dyma ddramodydd amryddawn 'Y T诺r', 'Saer Doliau', 'T欧 ar y Tywod' a chr毛wr rhaglenni teledu poblogaidd fel 'Fo a Fe' a 'Grand Slam'.

Llais ffres y Ddrama

Un o'n dramodwyr galluocaf oedd Gwenlyn Parry, a cholled mawr i'r theatr yng Nghymru oedd ei farwolaeth annhymig cyn cyrraedd ei 60 oed. Roedd ei waith yn ddeniadol ar gyfrif ei syniadau a'i olygfeydd theatrig, ac mae ei ddram芒u, er yn ychydig, wedi cadw eu hap锚l yn rhyfeddol o dda. Fe oedd cynrychiolydd cyntaf y theatr fodern yn y Gymraeg ac, yn wir, daeth ag awyrgylch ffres a chyffrous i'r llwyfan a oedd yn gyfrifol am gychwyn dadeni sydd yn parhau hyd heddiw.

Ganwyd ef ym 1932 yn Neiniolen, Sir Gaernarfon, ac mae ei waith yn defnyddio iaith gyfoethog yr ardal yn aml iawn. Cafodd ei addysg yn y Coleg Normal, Bangor.

Dechreuodd ymddiddori yn y theatr tra oedd yn athro yn Llundain, ac ymhlith ei gyfeillion yno oedd Ryan Davies a Rhydderch Jones.

Wedi dychwelyd i Gymru i dderbyn swydd fel athro ym Methesda, daeth i amlygrwydd yn y byd llenyddol drwy ennill gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ym 1966 symudodd i Gaerdydd lle daeth yn Brif Olygydd Sgriptiau gyda 主播大秀 Cymru.

Y Beckett Cymraeg

Ysgrifennodd lawer a chynhyrchodd nifer o raglenni poblogaidd i'r 主播大秀, gan gynnwys 'Fo a Fe' a 'Pobol y Cwm'. Ysgrifennodd y sgript hefyd ar gyfer fersiwn deledu 'Un Nos Ola Leuad'.

Daeth Gwenlyn Parry o hyd i'w lais ei hun fel awdur dyrnaid o ddram芒u ar gyfer y llwyfan, a chyhoeddwyd rhai ohonynt yn y gyfrol 'Tair Drama' (1965). Yr un enwocaf, yn ddi-os, yw 'Saer Doliau' (1966), a dorrodd dir newydd yn y theatr Gymraeg oherwydd ei naws alegor茂ol a'i hamwysedd.

Gwelai rhai beirniaid ddylanwad Beckett, Pinter a Ionesco arni. Achoswyd cryn drafodaeth ac anghydweld ymhlith ei chynulleidfaoedd cyntaf. Mae p芒r ifanc 'blaengar' yn herio cred 'na茂f' y Saer Doliau yn y Giaffar (efallai Duw) ar ben arall y ff么n. Yr hyn a barodd y dadlau oedd caniad y ff么n, ar ddiwedd y ddrama, dros lwyfan gwag. Nid oes 'stori' i'r ddrama hon ac mae'n bosibl ei dehongli mewn mwy nag un ffordd.

Pinacl Dawn

Yn ei weithiau diweddarach, sef T欧 ar y Tywod (1968), Y Ffin (1973), Y T诺r (1978), S脿l (1982) a Panto (1992), defnyddiodd dechnegau gwrth-naturyddol y theatr gyfoes. Roedd ganddo glust ardderchog ar gyfer deialog, yn enwedig tafodiaith ei fro enedigol.

Yn Y T诺r, ei gampwaith efallai, gwelir pinacl ei ddawn dyfeisgar wrth i'r prif gymeriad ddringo grisiau amser.

Awdur talentog dros ben oedd Gwenlyn Parry, un a roddodd ei holl egni creadigol i'w waith, a gadawodd farc annileadwy ar ddatblygiad y theatr yng Nghymru.

Bu farw cyn troi'n 60 ar Dachwedd 5 1991 a chladdwyd ef ym Macpela, Penygroes, Gwynedd.

  • Meic Stephens


    Llyfrnodi gyda:

    Llyfrau

    Matthew Rhys

    Holi ac adolygu

    Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

    Theatr

    Llion Williams

    Barn a gwybodaeth

    Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

    Ffilm

    Rhys Ifans

    Pobl y sgrin

    Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

    主播大秀 iD

    Llywio drwy鈥檙 主播大秀

    主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.