主播大秀

Gwyn Williams

Gwyn Williams

Cymro anghyfffredin o ddiwylliedig oedd Gwyn Williams, y llenor ac ysgolhaig a ymgartrefodd ger Trefenter yng Ngheredigion.

Dylanwad y Dwyrain Canol

Treuliodd blynyddoedd lawer tramor ond ni chollodd erioed ei wreiddiau yn ardal ei gyn-dadau, lle oedd ganddo d欧 a adeiladwyd gan ei dad-cu. Siaradai'r Gymraeg yn rhugl ac roedd yn hyddysg yn yr iaith, gan fagu ei blant i'w siarad hefyd.

Roedd yn aelod selog o Blaid Cymru a gwisgai'r triban yn ei got bob amser. Fe'i ganed ym Mhort Talbot, yn Sir Forgannwg, ym 1904, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Choleg Iesu, Rhydychen.

Ym 1935 aeth i'r Dwyrain Agos a dyna sut y dechreuodd ei gysylltiad 芒'r Dwyrain Canol: daliodd swyddi darlithydd ym mhrifysgolion Alecsandria, Libya ac Istanbul.

Yno daeth yn gyfaill i nifer o awduron brodorol ac i alltudion fel Lawrence Durrell.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd arferai'r grwp o ddeallusion hyn ddifyrru ei gilydd drwy gystadlu 芒'i gilydd mewn odlau, a chyhoeddwyd detholiad o gyfraniadau Gwyn Williams mewn llyfr bach, Flyting in Egypt (1991).

Cyfrolau Arloesol

Ysgrifennodd hefyd nifer o lyfrau teithio, gan gynnwys un yn y Gymraeg, Twrci a'i Phobl (1975). Ond dechreuodd ar ei yrfa lenyddol fel cyfieithydd.

Bu 'The Rent that's Due to Love' (1950) yn gyfrol arloesol ac ymgais tra llwyddiannus i gyfleu i'r darllenydd di-Gymraeg rhyw faint o ansawdd barddoniaeth Gymraeg o'i darddiad cyntaf i'r ugeinfed ganrif.

Fe'i dilynwyd gan dair cyfrol pwysig, sef 'An Introduction to Welsh Poetry' (1953), 'The Burning Tree' (1956) - ailgraffwyd hon fel 'Welsh Poems, Sixth Century to 1600' ym 1973 - a 'Presenting Welsh Poetry' (1959). Dyma'r cyfieithiadau gorau a oedd ar gael am gyfnod hir, cyn dyfodiad Anthony Conran a Joseph P. Clancy.

Casglwyd ei holl gyfieithiadau ynghyd yn y gyfrol, 'To Look for a Word ' (1976).

Dychwelyd i Gymru

Cyfeithiodd hefyd y gerdd Gymraeg ddi-enw 'Against Women' (1953) ac 'In Defence of Woman' (1958), sef cerdd gan Wiliam Cynwal, a chyfaddasiad o drasiedi 'Troelus a Chresyd' (1976).

Mae ei 'Introduction to Welsh Literature' (1978) yn y gyfres Writers of Wales yn grynhoad meistrolgar a threiddgar o hanes ein ll锚n.

Dychwelodd Gwyn Williams i Gymru i ymgartrefu'n Nhrefenter ym 1969. Roedd e eisoes wedi cyhoeddi nofel, 'This Way to Lethe' (1962), ac yn nawr daeth dwy arall o'r wasg, sef T'he Avocet' (1970) ac 'Y Cloc Tywod' (1984) a leolwyd yn Cyrenaica a Thrace.

Er bod cefndir y nofelau hyn yn aml yn gosmopolitan, maent wedi eu gwreiddio yng Nghymreictod yr awdur ac yn ddifyr iawn.

Cyhoeddodd hefyd bedair gyfrol o'i farddoniaeth ei hun: 'Inns of Love' (1970), 'Foundation Stock' (1974), 'Choose your Stranger' (1979) ac 'Y Defod Goll' (1980). Ymddangosodd ei 'Collected Poems' ym 1987.

Mae bron pob un o'i gerddi yn s么n am Gymru, ond maent hefyd yn mynegi agwedd y bardd tuag at fyd natur, yn enwedig ar y bryniau ger ei gartref yn Sir Aberteifi, a'i phaganiaeth ronc.

Yn y 'saithdegau, trwy ei gyfeillgarwch 芒 John Ormond, trodd at y byd teledu, a chynnyrch ei gyfres poblogaidd oedd y llyfr am hanes Cymru, The Land Remembers (1977).

Ysgrifennodd am ei fywyd ei hun, a'r llu o awduron roedd wedi eu hadnabod, yn ei hunangofiant ABC of (D)GW (1981), lle ceir blas ar ei gymeriad hoffus a gw芒r. Wedi symud i Aberystwyth ym 1983, bu farw yno ym 1990.

Meic Stephens


Llyfrnodi gyda:

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.