主播大秀

Henry Richard

Cerflun o Henry Richard yn Nhregaron

Apostol Heddwch, Gwladgarwr. Ganed yn Nhregaron yn 1812, yn fab i'r Parch. Ebeneser Richard.

Henry Richard oedd Cymro enwocaf ei ddydd, ond bron nad aeth ei enw'n angof.

Rhyfedd o beth o gofio mor berthnasol ei neges ar bwnc heddwch a rhyfel i'n hoes ni ac mor ddylanwadol fu ei safiadau dros Gymru a'r Gymraeg. Yn arbennig ei ymosodiad ar Adroddiadau'r Comisiynwyr ar Gyflwr Addysg yng Nghymru (Brad y Llyfrau Gleision) 1847 a'i gyfrol ddylanwadol Essays and Letters of Wales (1866).

Nod yr erthyglau hynny, meddai, oedd addysgu'r Saeson am eu cymdogion. Ond gwnaethant fwy drwy ennyn balchder a hyder y Cymry.

T欧'r Cyffredin

Yn 么l yr Archesgob A. G. Williams ni fu gan un arweinydd gwleidyddol yng Nghymru erioed y fath ddylanwad dwfn a di-wrthwynebiad ymysg Anghydffurfwyr.

Cyn ei ethol yn AS dros Ferthyr ac Aberd芒r ym 1868, carfan ddiwerth fu Aelodau Seneddol Cymru ond trawsnewidiodd Henry Richard y cyfan. Gwyntyllodd faterion Cymreig am y tro cyntaf mewn cof ar lawr T欧'r Cyffredin.

Ni ellir ysgaru heddychiaeth Henry Richard wrth ei Gymreictod. Bod yn Gymro a'i dysgodd i gas谩u natur ryfelgar y Saeson. Ond y mae elfen barchus o heddychiaeth a radicaliaeth i hanes Lloegr a bu'r rheini'n ddylanwadau arno fel myfyriwr yn Highbury a fel gweinidog Capel Cynulleidfaol Seisnig Marlborough yn yr Old Kent Road.

Wedi ei ordeinio ym 1835 daeth i gysylltiad ag ymgyrchwyr o blaid Masnach Rydd. Dynion oedd am weld cenhedloedd yn tyfu a ffynnu ochr-yn-ochr 芒'i gilydd mewn rhyng-genedlaetholdeb anffurfiol o gyfnewid nwyddau a syniadau. Dyheadau y medrai Henry Richard uniaethu 芒 nhw.

Cynadleddau heddwch

Dysgodd nad digon apelio'n uniongyrchol at arweinwyr y cenhedloedd ond bod angen ymgyrchu i lunio barn gyhoeddus i ddwyn pwysau ar Lywodraethau.

Wedi ei benodi'n Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Heddwch ym 1848 trefnodd, ar y cyd gyda'r Americanwr Elihu Burritt, gyfres o gynadleddau heddwch ar gyfandir Ewrop. Bu'r gyntaf ym Mrwsel ym Medi 1848, wedyn ym Mharis ym 1849 a Frankfurt ym 1850.

Yn y gyntaf, ym Mrwsel pasiwyd penderfyniad i annog Llywodraethau i ddatrys cwerylon drwy gyflafareddiad ac ymatal rhag ymyrryd yng nghwerylon gwledydd eraill.

Yng nghynhadledd Paris rhagwelai'r bardd a'r llenor, Victor Hugo, ffurfio taleithiau unedig Ewrop.

Yr oedd cynhadledd Frankfurt yn rhyfeddod o drefniadaeth. Daeth 500 o Brydain yn unig, yn eu plith Samuel Roberts (SR Llanbrynmair) a sgrifennodd am gyfraniad Henry Richard yn Y Cronicl: "Byddai yn hoff gennym iddo gael drws agored drwy ryw ran o Gymru i sefyll a lleisio yn y Senedd o blaid Heddwch."

Ym 1850 ymddiswyddodd o'r weinidogaeth gan gyhoeddi fod dadlau achos "tangnefedd ar y ddaear" cyn bwysiced 芒 phregethu am Dywysog Tangnefedd ar y Sul.

Yn erbyn rhyfel

Asgwrn cefn y Gymdeithas Heddwch yn ei degawdau cynnar oedd y Crynwyr 芒'u heddychiaeth ddi-amod wedi'i seilio ar ddysgeidiaeth Crist. Dan aweiniaeth Henry Richard aeth y gymdeithas yn fwy seciwlar gan groesawu "heddychwyr amodol", gwleidyddol, a wrthwynebai ryfel ar sail dioddefaint i'r tlawd a'r difrod a wnai i economi a masnach.

Er ymdrechion Richard a'r Gymdeithas, ym 1865, cychwynnodd rhyfel "poblogaidd" y Crimea a dan lach jingoistiaeth y papurau newydd ciliodd yr "heddychwyr amodol". Dal i daranu yn erbyn rhyfel yn gyffredinol a Rhyfel y Crimea yn benodol wnaeth Henry Richard er wynebu ymosodiadau milain a bygythion personol.

Yna, wrth i anhrefn ac erchyllterau ddod yn wybyddys newidiodd y farn gyhoeddus. Yn dilyn cadoediad 1856 trefnwyd cynhadledd ym Mharis i lunio cytundeb heddwch.

Penderfynodd Richard fynd yno i annog y cynrychiolwyr i gynnwys cymal yn y cytundeb yn galw am greu trefniant cyflafareddu rhwng cenhedloedd. Gydag ef aeth Joseph Sturge, henwr o Grynwr, a Charles Hindley, AS, Llywydd y Gymdeithas Heddwch. Wedi tair wythnos rwystredig o guro drysau llwyddwyd i berswadio'r cynrychiolwyr i gynnwys y cymal fod teyrnasoedd "rhwng y rhai y gall camddealltwriaeth godi, cyn apelio at arfau milwrol, yn gwneud defnydd, mor bell ag y bo amgylchiadau yn caniat谩u, o wasanaeth caredig ryw Allu cyfeillgar".

Nid oedd yn rhwymo'r cenhedloedd i weithredu, eto yr oedd yn ddatganiad o anghymeradwyaeth o ryfel a gosododd gynsail pwysig yn arbennig i sefydlu Tribiwnlys yr H芒g ym 1899.

Croeso yn Ewrop

Ym 1873, bum mlynedd wedi ei ethol yn Aelod Seneddol dros Ferthyr ac Aberd芒r cyflwynodd Henry Richard gynnig ar gyflafareddu i D欧'r Cyffredin. Drwy gyfuniad o waith caled yn paratoi'r tir, cyfrwystra gwleidyddol a lwc - ac er gwaethaf gwrthwynebiad y Prifweinidog Gladstone - llwyddodd i gael y T欧 i gymeradwyo cynnig: "Fod Anerchiad gystyngedig i'w gyflwyno i'w Mawrhydi yn erfyn arni orchymyn i'r Ysgrifennydd Cartref ymgynghori 芒'r Galluoedd Tramor gyda'r amcan o gyflwyno gwelliannau pellach i'r gyfraith ryngwladol a sefydlu cyfundrefn Gyflafareddu barhaol."

Achosodd y llwyddiant annisgwyl hwn, ac araith rymus Richard yn Nh欧'r Cyffredin, gynnwrf mawr ar gyfandir Ewrop. "Tra'n gwario cymaint o amser, meddwl, dawn ac arian yn trefnu rhyfel, oni fyddai'n werth neilltuo ychydig o feddwl rhagblaen i drefnu heddwch?" holodd.

Rhestrodd y gwledydd oedd yn gwegian dan faich cynnal byddinoedd arfog. Cyfieithwyd yr holl ddadl i brif ieithoedd Ewrop a theithiodd Richard ar draws Ewrop yn annog gwleidyddion i ddilyn ei esiampl.

Ni chafodd unrhyw Aelod Seneddol Prydeinig ar ymweliad answyddogol 芒 gwlad dramor erioed y fath dderbyniad. Cymeradwywyd cynigion o gefnogaeth yn seneddau Ewrop a'r Unol Daleithiau.

Prifysgol Cymru

Hawdd rhestru ei fethiannau. Ond bu llwyddiannau. Ni ymunodd Prydain yn rhyfel 1870 rhwng Prwsia a Ffrainc. Petae Prydain wedi gwneud buasai'n lladdfa ar raddfa'r Rhyfel Byd Cyntaf. Am y llu rhyfeloedd a ddigwyddodd er gwaethaf ei ymdrechion ef a'r Gymdeithas Heddwch, dengys hanes yn ddieithriad mai fe oedd yn iawn.

Wythnosau cyn ei farw ym 1888, cadeiriodd gyfarfod i lunio Siartr Prifysgol Cymru. Bu'n allweddol yn sefydlu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Bu'n aelod diwyd o'r Comisiwn Brenhinol i Baratoi Adroddiad ar Gyflwr Addysg yng Nghymru a Lloegr (1888). Pe buasai'r Arolygwyr a'r ysgolion wedi manteisio ar Ddeddfwriaethau'r Weinyddiaeth Addysg a ddaeth yn sg卯l y Comisiwn hwnnw buasai'r Gymraeg mewn cyflwr llawer cryfach heddiw.

Yng ngeiriau'r adnod - Gymraeg - sydd ar ei gofeb ym mynwent Abney Park yn Llundain:

"Canys yr oedd yn fawr gan ei genedl, ac yn gymeradwy ym mysg lluaws ei frodyr, yn ceisio daioni i'w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i'w holl diriogaeth."

Gwyn Griffiths


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.