主播大秀

Huw Stephens

Huw Stephens

08 Chwefror 2012

Gyda'i hiwmor a'i ddiddordeb ysol mewn cerddoriaeth mae Huw Stephens wedi dod yn llais ac wyneb amlwg yng Nghymru a thrwy Brydain ers dringo i fod yn un o brif gyflwynwyr 主播大秀 Radio 1.

Roedd Huw yn 17 oed ac ar ganol sefyll ei arholiadau lefel A pan gafodd ei ddewis i gyflwyno Session in Wales gyda Bethan Elfyn gan ddod yn un o DJ's ieuengaf Radio 1.

Roedd y diweddar John Peel yn un o'i arwyr a phan fu farw, dewiswyd Huw ynghyd 芒'r DJ's Rob da Bank a Ras Kwame i gyflwyno yn ei le ar raglenni One Music Radio 1 yn 2005. Bellach mae gan Huw ei sioe ei hun ar Radio 1 ac ar C2, Radio Cymru.

Wedi ei eni ar Fai 25 1981, cafodd ei brentisiaeth ar radio ysbyty Rockwood yng Nghaerdydd, lle dechreuodd gyflwyno yn ei arddegau cynnar, a bu'n berchennog label recordio Boobytrap, aelod o'r banc Pic-Nic a chyfrannwr cyson i gylchgronau Cymraeg a rhaglenni Radio Cymru yn ei ieuenctid.

Daw ei fam o Aberystwyth a'i dad, yr awdur Meic Stephens, o Bontypridd ond brodor o'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd ydy Huw. Ar 么l ymweliad 芒 g诺yl South by South West yn Austin, Texas, penderfynodd Huw a'i gyfaill Jon Rostrom sefydlu g诺yl S诺n yn y brifddinas.

Mae Huw wedi ei enwebu ddwywaith ar gyfer gwobr Bafta Cymru fel cyflwynydd ar raglen Bandit ar S4C.

Mae'n treulio llawer o amser ar y ffordd - yn byw rhwng Caerdydd a Llundain, yn cynnal nosweithiau fel DJ ac yn teithio'r byd yn canfod cerddoriaeth newydd ar gyfer ei raglenni radio ac ar gyfer eu cyflwyno ar lwyfannau gwyliau fel Reading a Latitude.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Llyfrau

A-Z Awduron

Cyfle i bori drwy ein harchif a darganfod mwy am awduron Cymru.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.