主播大秀

Ieuan Evans

Ieuan Evans

Dyma chwaraewr rygbi o fri sydd wedi ennill 72 o gapiau dros Gymru a sgorio 33 o geisiadau.

Yr Atom Cryf

Ganwyd Ieuan Evans ar Fawrth 24 1964 yn Nherforus Abertawe. Cafodd ei addysg yn Ysgol gynradd Idole ac Ysgol y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin. Pan oedd yn yr ysgol gynradd, yr 'atom cryf' oedd ei lysenw gan ei fod yn fach ond ofn dim.

Symudodd teulu Ieuan o Abertawe i Gwmffrwd yn sir Gaerfyrddin pan oedd o'n ifanc iawn. Yn yr Ysgol Gynradd y dechreuodd chwarae p锚l-droed a theithio i Langynnwr i chwarae rygbi.

Ar 么l symud i Ysgol y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin, dewiswyd ef yn gapten y t卯m dan ddeuddeg ac erbyn 17 oedd roedd Ieuan wedi ymuno ag adran ieuenctid Quins Caerfyrddin.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, gwireddwyd breuddwyd Ieuan o chwarae dros Llanelli ac yn y Strade y cafodd e gyfle i ddatblygu'r sgiliau ar nodweddion hynny i fod yn chwaraewr o'r radd flaenaf.

Y Sosban a Salford

Roedd cyfuno chwarae i d卯m y Sosban ac astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Salford yn ddigon anodd ond ar 么l cwblhau ei radd, fe ddaeth yn 么l i Gymru gan fwynhau llwyddiant y clwb yn llawn.

Fe chwaraeodd mewn saith g锚m derfynol i Lanelli ac ennill pump ohonynt.

Yn ystod 1980au fe chwaraeodd yn y g锚mau traddodiadol doli glwt olaf sef y g锚mau ffyrnig hynny rhwng Caerfaddon a Llanelli ac yn Chwefror 1987 fe ymddangosodd am y tro cyntaf yng nghrys coch Cymru yn erbyn Ffrainc. Ymddangosodd am y tro olaf dros ei wlad 11 mlynedd yn ddiweddarach ar 7 Chwefror 1998 yn erbyn yr Eidal.

Yn ystod ei yrfa ryngwladol fe enillodd 72 o gapiau dros Gymru ac ar 28 o'r adegau hynny ef oedd y capten.

Sgoriodd 33 o geisiadau dros Gymru ac efallai mai ei gais enwocaf oedd yr un yn y g锚m yn erbyn Lloegr pan enillodd Cymru o 10 cais i 9.

Mae Ieuan wedi chwarae ymhob un o gwpanau'r byd, wedi ymddangos saith gwaith dros y Llewod ac mae'n aelod o'r criw dethol hwnnw sydd wedi chwarae drostynt yn Awstralia yn 1989, Seland Newydd 1993 a De Affrig 1997. Ar y daith yn Ne Affrig fe sgoriodd gyfanswm o 3 cais.

Cawr y Ceisiadau

Yn 1993 sgoriodd Evans y nifer uchaf o geisiadau sef 4 yn erbyn Seland Newydd. Ond yn anffodus byr fu ei daith i Dde Affrig gan iddo gael ei anafu.

Pan oedd Evans yn chwarae i Lanelli fe enillodd bob anrhydedd ac felly yn 1997 wrth chwilio am her newydd fe aeth dros y ffin a chwarae i Gaerfaddon. Roedd o'n aelod o'r t卯m a enillodd gwpan Heineken yn 1998. Yna cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi.

Mae'n briod efo tri o blant ac yn rhedeg ei gwmni cysylltiadau cyhoeddus ei hun, yn ddarlledwr ac yn byw yn y Bont Faen.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.