主播大秀

Iolo Morganwg

Iolo Morgannwg

Y dylanwad mwyaf ar lenorion Cymru yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd yr anhygoel Iolo Morganwg. Ef hefyd oedd prif ladmerydd y Chwyldro Rhamantaidd yn ein gwlad, yn ogystal ag etifedd egwyddorion Chwyldro Ffrengig 1789.

Ffugiwr mwya'r wlad?

Hynafiaethydd, bardd, ffugiwr a sylfaenydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, parhaodd ei ddylanwad yn hir ar 么l ei farwolaeth. Bu rhaid i Gymru aros tan 1926 cyn dysgu mai ffugiadau oedd rhan sylweddol o'i waith a di-sail oedd ei honiadau am hynafiaeth y traddodiad llenyddol Cymreig.

Ganwyd ym 1747 - ei enw iawn oedd Edward Williams - yn Llancarfan ym Mro Morgannwg, ac fel saer maen y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.

Dechreuodd gymryd y cyffur lodnwm (math o opiwm) yn ifanc a bu'n gaeth iddo trwy gydol ei oes; dywedir bod yr arfer hwn wedi effeithio'n andwyol ar gyflwr ei feddwl.

Er gwaethaf hyn, bu'n gop茂ydd a chasglwr llawysgrifau gweithgar iawn, ac ennillodd fri fel awdurdod yn ei faes.

Sefydlu'r Orsedd

Yn Llundain daeth Iolo Morganwg i amlygrwydd am y tro cyntaf, yng nghylchoedd y Cymry llengar a gwlatgarol a oedd yn aelodau o Gymdeithas y Gwyneddigion.

Dechreuodd alw ei hunan yn 'Fardd Rhyddid' yn ystod y cyfnod hwn, wedi iddo gofleidio ysbryd y Chwyldro Ffrengig.

Yn Llundain, ym 1792, y cynhaliodd Iolo gyfarfod cyntaf y gymdeithas a enwyd ganddo yn Orsedd Beirdd Ynys Prydain, cyfrwng iddo fynegi ei ddiddordeb angerddol mewn Derwyddiaeth, neu yn hytrach, rhyw fath o Dderwyddiaeth yr oedd e wedi ei ddyfeisio ar sail dim byd ond ei ffantas茂au a'i ddyheadau ei hun.

Roedd hefyd yn un o'r Undodwyr cynharaf yng Nghymru a g诺r busnes aflwyddiannus - bu yng ngharchar Caerdydd fel methdalwr.

Awr Fawr Iolo

Cafodd Iolo ei awr bwysicaf ym 1819 yn Eisteddfod Caerfyrddin, pan lwyddodd i gysylltu Gorsedd y Beirdd 芒'r mudiad eisteddfodol am y tro cyntaf; cynhaliwyd yr Orsedd yn nghafarn yr Ivy Bush yn y dref.

Mae manylion a welir yn seremon茂au'r Orsedd hyd heddiw - y gweddiau, lliwiau'r gwisgoedd, ac yn y blaen - yn union fel a welwyd ar yr achlysur enwog hwnnw.

Fe goffheir y digwyddiad gan gylch o gerrig tu allan i'r gwesty a chan ffenestr liw a roddwyd i'w lle ym 1974. Y gwaith pwysig cyntaf i Iolo ei gyhoeddi oedd y cywyddau a gyfrannodd i argraffiad y Gwyneddigion o waith Dafydd ap Gwilym ym 1789, a phrofodd G. J. Williams, ym 1926, mai gwaith Iolo ei hun oedd y rhain.

Er bod yr Athro Williams wedi dangos mai ffugiwr oedd Iolo, ymlafnai hefyd i ddangos ei athrylith fel ysgolhaig a gweledydd; ceir astudiaeth llawn yn ei gyfrol pwysig Traddodiad Llenyddol Morgannwg (1948).

Pwysigrwydd y Cymry

Cyhoeddwyd gwaith barddonol Iolo yn Saesneg yn Llundain dan y teitl Poems Lyric and Pastoral (1794).

Ef oedd un o olygyddion The Myfyrian Archaiology (1801-07) ac ymddangosodd ei gasgliad enfawr o emynau ar gyfer yr Undodiaid ym 1812.

Wedi iddo farw cyhoeddwyd ei ymdriniaeth 芒 Cherdd Dafod yn Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829) a chasgliad o'i waith yn yr Iolo Manuscripts (1848).

Amcan Iolo fel llenor a hynafiaethydd oedd profi mai'r Cymry oedd y bobl bwysicaf ym Mhrydain, a'u traddodiad yn ymestyn yn ddi-dor yn 么l at y Derwyddon, amddiffynwyr y byd Celtaidd yn erbyn y Rhufeiniaid.

Mab Morgannwg

Yng Nghymru, yn nhyb Iolo, Morgannwg oedd y dalaith pwysicaf, a dyna paham y creodd feirdd, a thadoli ei gerddi ei hun arnynt, a oedd, meddai, wedi byw ym Morgannwg.

I gyrraedd ei nod defnyddiodd Iolo ei ddychymyg yn ogystal 芒'i ddysg, a'i ddyfalbarhad, a llafuriodd llawer o ysgolheigion y bedwaredd ganrif ar bymtheg o dan ddylanwad ei honiadau di-sail.

Ar 么l iddo farw, cwympodd ei fantell ar ei fab, Taliesin Williams, ac ar nifer mawr o lenorion llai, yn enwedig yng nghymoedd y De, ac felly daeth mwy nag un cenhedlaeth o Gymry pybyr o dan ei gyfaredd.

Bu farw Iolo Morganwg ym 1826. Gwelir plac er cof amdano ar y wal gyferbyn a Neuadd y Dref yn y Bont-faen, gyda'r arysgrif 'Y gwir yn erbyn y byd'.

Meic Stephens


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.