主播大秀

Iwan Rheon

Iwan Rheon yn 'Spring Awakening' (llun: Helen Maybanks)

Bywgraffiad o'r actor ifanc a'r enillydd Gwobr Olivier, Iwan Rheon, a ddechreuodd ei yrfa ar

Dechrau gyda Macsen

Wedi ei eni ar Fai 13 1985 yng Nghaerfyrddin, symudodd Iwan a'i deulu i Gaerdydd pan oedd yn 5 oed. Dechreuodd actio'n ifanc iawn yn yr ysgol ac erbyn iddo gyrraedd 17 oed, cafodd y rhan, Macsen White, yn opera sebon 主播大秀 Cymru, 'Pobol y Cwm'.

Yna aeth i astudio Drama yng Ngholeg nodedig LAMDA yn Llundain. Yma cafodd rannau blaenllaw mewn dramau clasurol fel 'The Misanthrope', 'Measure For Measure', 'The Seagull' a 'Two Gentlemen of Verona'.

Wedi gadael y Coleg, ymddangosodd yn y ddrama 'Eight Miles High' yn 2008 yn y Royal Court, Lerpwl. Yn dilyn hyn enillodd ran fyddai'n newid ei yrfa, sef, Moritz Stiefel yn 'Spring Awakening'. Dyma addasiad gerddorol o ddrama ddadleuol yr Almaenwr Frank Wedekind (1890/1) a berfformiwyd yn y West End (2008-9).

Yr Olivier

Mae Iwan Rheon gyda wyneb trist y clown a'i wallt fel 'Eraserhead', yn arbennig o apelgar gyda'i bortread o'r... Moritz Stiefel trasig. Mae'n canu'n dda hefyd.

Simon Thomas, Music OMH 2008

Ym mis Chwefror 2010 cafodd ei enwebu am Wobr Olivier yn y categori perfformiad cefnogol gorau mewn drama gerdd neu adloniant am ei ran fel Mortiz.

Cipiodd Iwan y wobr gan guro actorion nodedig fel Sheila Hancock, Maureen Lipman a Kelly Price mewn seremoni yn y Grovesnor House Hotel ar y 21 o Fawrth 2010. Fe enillodd ei gyd-actor a'i gyd-Gymro, Aneurin Barnard Wobr Olivier hefyd am y categori 'Actor Gorau mewn Sioe Gerdd neu Adloniant'.

Mae Iwan wedi ennill clod am ei bortread o'r cymeriad Simon yn y gyfres hynod boblogaidd a mentrus, 'Misfits' ar Channel 4 ag enillodd BAFTA am y ddrama orau yn 2010. Yn gyfuniad clyfar o 'Skins' a 'Heroes' mae gan bob cymeriad bwerau annisgwyl. Yn ei berfformiad o Simon, llwyddodd Iwan i ddangos datblygiad y cymeriad o swildod a phoen meddwl difrifiol i arwr carismatig sy'n llawn hyder. Wedi darllediad y drydedd gyfres ar ddiwedd 2011, cyhoeddodd Iwan y byddai'n gadael y gyfres.

In 2011, cafodd ei enwebu am Wobr y 'Golden Nymph' am yr actor gorau mewn Drama am ei ran fel Simon yn 'Misfits.

Y Convictions

Iwan Rheon yn 'The Devil Inside Him'
Iwan Rheon yn 'The Devil Inside Him'

Fe barhaodd Iwan gyda'i waith theatr gan ymddangos yng nghynyrchiad y National Theatre Wales o ddrama colledig John Osborne, 'The Devil Inside Him'. Darganfuwyd y ddrama yn archif yr Arglwydd Siamberlen yn 2008. Cafodd cryn glod gan y beirniaid am ei bortread sensitif o Huw y bachgen sy'n cael ei boenydio am ei fod yn 'wahanol' sy'n arwain at drasiedi.

Ymddangosodd Iwan hefyd yng nghomedi Simon Amstell, 'Grandma's House' yn 2011. Yn yr un flwyddyn cafodd ran ym mhennod olaf 'Secret Diary of a Call Girl' gyda Billie Piper.

Mae Iwan hefyd wedi gwneud enw i'w hun fel Cerddor. Mae'n canu ac yn cyfansoddi gyda'i fand 'The Convictions'. Nid yw ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth yn beth newydd. Ers yn 16 oed mae wedi ymddiddori mewn cyfansoddi a chanu. Yn 2010 recordiodd ei EP cyntaf, 'Tongue Tied'. Yn Ebrill 2011 recordiodd ei ail EP, 'Changing Times'.

Yng Ngorffennaf 2012 cyhoeddwyd y byddai Iwan yn portreadu rhan y 'bachgen' yn nhrydedd gyfres sef drama deledu hynod boblogaidd fydd yn codi ei broffil ledled y byd.


Llyfrnodi gyda:

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.