主播大秀

John ac Alun

John ac Alun

Fel pysgod a sglodion, mae John ac Alun yn gweithio'n berffaith gyda'i gilydd. Dyma ddeuawd canu gwlad poblogaidd a chyflwynwyr ar 主播大秀 Radio Cymru.

Tudweiliog a Nashville

Mae'r ddeuawd John ac Alun yn enwog iawn bellach, wedi canu mor bell i ffwrdd 芒 Nashville Tennessee, ond dechreuasant eu gyrfa yn difyrru trigolion pentref Tudweiliog, ym mar y Lion.

Wedi i Alun Roberts ddychwelyd i ardal ei febyd ar 么l cyfnod yn Lloegr, gofynnwyd iddo ef a'i gyfaill, John Jones, ddiddanu yn nhafarn y pentref, ac mewn 'chydig roedd galw mawr amdanynt ar hyd a lled y wlad. Ymhen dim fe'u harwyddwyd gan label Sain.

Roedd hynny yn 1985, ac wedi toriad o dair blynedd aethant ati eto, gyda'u halbwm gyntaf 'Yr Wylan Wen' yn ymddangos yn 1991. Aethant ymlaen i recordio 9 albwm gan gynnwys y ddiweddaraf, 'Hel Atgofion', a ymddangosodd dros y Dolig, 2007, fel teyrnged i'r diweddar Eirug Wyn o'r Groeslon.

Daethant i amlygrwydd fel prif ddeuawd canu gwlad Cymru, mae'n debyg, gyda'u hail CD, 'Y Chwarelwr', yn 1992.

Ffrindiau Pennaf

Ac ar 么l canu ynghyd am sawl blwyddyn mae'r ddau yn dal yn ffrindiau mawr. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan yn cyflwyno eu rhaglen ar Radio Cymru.

"Mae'n sialens," meddai John, "ac mae'n rhoi ryw buzz bach i mi i feddwl bod y miloedd yn gwrando ar nos Sul, bod yr holl bobl yn tiwnio i mewn i wrando arnon ni ein dau. Mae 'na bach o falu awyr, ond fydda' neb arall yn gallu ei wneud o, rydan ni yn nabod ein gilydd mor dda, mi rydan ni yn gwybod yn union pa mor bell i fynd."

Yn Nhudweiliog y maent yn byw hyd heddiw: John yn briod ag Angharad ac yn dad i ddwy ferch yn eu hugeiniau, ac Alun yn briod 芒 Gill, ac yn dad i dri mab sydd wedi tyfu i fyny.

"Rydan ni fel chalk and cheese, fel mae'n nhw'n ddweud," meddai Alun. "Mae John yn fwy, ym, beth am ddweud 'byr ei dymer' a dwi'n eithaf c诺l o ran natur. Yn ystod yr holl amser yma, dim ond unwaith alla i ein cofio ni'n disgyn allan efo'n gilydd a hynny am rhywbeth hollol, hollol wirion. Ond rydan ni yn nabod ein gilydd yn ddigon da i dynnu coes ac ati ar y radio."

Mae eu rhaglen ar Radio Cymru bob nos Sul am 10pm. Gallwch gysylltu 芒'r sioe trwy e-bostio johnacalun@bbc.co.uk


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.