主播大秀

Katherine Jenkins

Katherine Jenkins

"Dwi wrth fy modd yn dod yn 么l i Gastell Nedd -dyma fy nghartref." (Katherine Jenkins)

Yn 2004 a hithau'n 23 oed, arwyddodd y gantores Katherine Jenkins y dd锚l recordio mwyaf yn hanes cerddoriaeth clasurol.

Ond nid llwyddiant dros nos oedd y gamp hon i'r mezzo-soprano o Gastell Nedd. Ers yn ferch fach bu'n meithrin ei chrefft gan ganu yn y c么r lleol ac astudio'r piano. Enillodd wobr gyntaf y gystadleuaeth Canu Corawl 主播大秀 Radio 2 ddwywaith yn ei harddegau ac roedd yn aelod o G么r Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Aeth ati wedyn i ennill ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Llundain ac yn fuan wedi graddio yn 2003 canodd i'r Pab yn Abaty Westminster. Tyfu a thyfu wnaeth ei phoblogrwydd wedi hyn gyda pherfformiad yn Nh欧 Opera Sydney yn cloriannu blwyddyn arbennig iddi.

Bu'n fascot swyddogol t卯m rygbi Cymru gan ganu'r anthem cenedlaethol droeon yn Stadiwm y Mileniwm cyn y gemau mawr: "Roeddwn yn nerfus iawn cyn y g锚m. Ond wrth i mi gerdded ar hyd y twnel i'r cae, roedd yna 70,000 o bobl yn canu Delilah! Yna roeddwn yn gwbl gartrefol heb fod yn nerfus o gwbl. Fe wnes i ganu, cerdded i ffwrdd ac yna pan roeddwn yn 么l yn y twnel, roedd fy nghoesau fel jeli unwaith eto!"

Cyrhaeddodd ei halbwm cyntaf, 'Premiere' frig y siartiau clasurol yn 2004. Cyn arwyddo ei chytundeb newydd gydag Universal, bu Katherine yn gweithio fel athrawes Gerdd. Ond ar 么l llwyddiant yr albwm cyntaf, fe benderfynodd ddilyn ei gyrfa fel cantores yn llawn amser.

Yn 2005 bu'n canu ar lwyfannau mawr cyngerddau G8, Live 8 a phenblwydd Diwrnod VE ar Sgwar Trafalgar. Yna, rhyddhawyd ei halbwm nesa ar ddiwedd y flwyddyn honno, 'Living a Dream'. Fe wnaeth ei thair halbwm ennill y tri safle cyntaf yn y siartiau clasurol a hi oedd yr artist cyntaf i gyflawni'r fath gamp. Enillodd ei hail wobr Brit Glasurol y flwyddyn hon hefyd, yn dilyn ei gwobr gyntaf yn 2004.

Rhyddhawyd pedair albwm arall ganddi yn fuan wedi hyn gyda'r albwm olaf hyd yn hyn, 'Believe' yn cyrraedd y brig unwaith eto yn 2009.

Mae Katherine wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu yn cynnwys portread trawiadol o'r F么r Forwyn soniarus mewn pennod Nadoligaidd arbennig o 'Dr Who' yn 2010 ac ymddangosiadau ar 'The Apprentice' a 'Last Night of the Proms in Hyde Park'.

Canodd ar raglen 'X Factor' mewn ddeuawd gofiadwy gyda Rhydian Roberts ac mae'n feirniad ar raglen ITV, 'Popstar to Operastar'.

Yn ei bywyd personol, roedd y gantores wedi dywedd茂o 芒'r cyflwynydd teledu, Gethin Jones. Daeth eu perthynas i ben fis Rhagfyr 2011, ar 么l pedair blynedd gyda'i gilydd.

Ym mis Mai 2012, daeth Katherine yn ail mewn cystadleuaeth ddawnsio yn yr Unol Daleithiau, 'Dancing with the Stars' gyda'i phartner dawnsio, Mark Ballas.


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.