主播大秀

Max Boyce

Max Boyce

Un o ddigrifwyr eiconig Cymru.

Mae Max Boyce yn ddigrifwr heb ei ail - cantor, comig, stor茂wr a bardd. Gall wneud i unrhyw gynulleidfa chwerthin ac mae'n enwog am ei allu i gyfleu syniadau yn effeithiol trwy eiriau a ch芒n.

Cafodd Max ei eni a'i fagu yn nhref bach Glyn-nedd. Mae wedi treulio ei fywyd priodasol yno, ac wedi magu ei blant ei hun yno. Mae'r dref wedi rhoi llwyth o ysbrydoliaeth a deunydd iddo i'w defnyddio tra ei fod ar lwyfan.

Roedd tad Max yn l枚wr, ac fe'i laddwyd mewn ffrwydriad yn y pwll ychydig ddiwrnodau wedi i Max gael ei eni. Treuliodd Max dros ddegawd yn gweithio mewn pwll gyfagos yn ogystal ag astudio am radd mewn peirianneg mwyngloddio.

Dechreuodd Max ei yrfa ar y llwyfan drwy ganu gwerin, gan berfformio yn Nghlwb Gwerin y Cwm ym Mhontardawe, lle y recordiodd sawl c芒n. Yn sg卯l hyn dangosodd EMI ddiddordeb ynddo ac fe arwyddodd gytundeb i recordio cyfres o albymau byw o ganeuon a straeon.

Ar y 23ain o Dachwedd 1973 recordiodd Max, 'Yn fyw yn Nhreorci', lle y cyflwynodd caneuon megis 'The Outside Half Factory' a 'Morgan Moon'. Yn annisgwyl, fe werthodd yr albwm yn ardderchog ac felly dilynodd yr albwm 'We All Had Doctor's Papers' yn 1975. Cyrhaeddodd yr albwm hyn rhif 1 yn y siartiau - yr albwm digri cyntaf i fedru hyn. Fe dderbyniodd ddisgiau aur pellach am yr albymau, 'The Incredible Plan' yn 1976 a 'I know 'Cos I was There' yn 1978.

Yng Ngwanwyn 1977, symudodd Max ymlaen i wneud gwaith teledu ac fe recordiwyd y rhaglen 'Max Boyce In Concert' am y tro cyntaf. Dilynwyd hyn gan sawl ymddangosiad ar raglennu trafod a thair rhaglen arbennig. Y cyntaf o'r rhain oedd 'Max Boyce Meets the Dallas Cowboys' - lle chwaraeodd safle 'Quarterback' i'r t卯m Americanaidd enwog. Yn ogystal 芒 hyn mae Max wedi ysgrifennu sawl llyfr yn rhoi hanes ei fywyd yn Ne Cymru drwy gyfrwng cerddi, straeon a chaneuon.

Yn y 1990au hwyr, daeth cenhedlaeth newydd i fwynhau ei waith mewn cyfres teledu newydd, ac fe chwaraeodd yn seremoni agoriadol y Cynulliad yng Nghaerdydd. Yn y flwyddyn 2000 derbyniodd MBE gan y Tywysog Charles mewn seremoni yng Nghastell Caerdydd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.