主播大秀

Neil Jenkins

Neil Jenkins

Un o gewri mawr y byd rygbi. Adnabyddir ef gan fel y 'Maestro' neu'r 'Dewin' gan ennill y mwyaf o gapiau Cymru. Ef fu'n dal y record am y cyfanswm mwyaf o bwyntiau rhyngwladol hefyd.

Y Crys 10

Ganwyd Neil Jenkins ar 8 Gorffennaf 1971 a magwyd ef yng Ngartholwg. Bu Jenkins yn ffigwr parhaol yn nh卯m Cymru ers ei ymddangosiad cyntaf yn 1991, er iddo gael ei feirniadu ar un adeg a'i ollwng am iddo fethu llenwi'r crys gystal 芒 rhai eraill yn y crys 10. Ond tyfodd ei nerth a'i benderfyniad yn symbolau o d卯mau Cymru yn ystod y Nawdegau.

Fe chwaraeodd Jenkins ran flaenllaw hefyd yn llwyddiant Pontypridd yng nghanol 1990 gan helpu'r t卯m o'r cymoedd i ennill teitl y gynghrair a chwpan y Principality.

Wrth chwilio am fwy o sialens fe symudodd i Gaerdydd, er yn ystod ei gyfnod yn y brif ddinas fel gafodd lawer o anafiadau.

Torri Record

Am ei fod yn methu ennill ei le yn y t卯m, symudodd Jenkins yn 么l i Ffordd Sardis er mwyn cryfhau achos Pontypridd mewn cystadlaethau adref ac yn Ewrop.

Ym mis Mai 2003 fe gyhoeddodd ei ymddeoliad o'r g锚m ryngwladol, ond dywed ei fod yn awyddus i adael y g锚m mewn steil gyda blwyddyn dda o rygbi rhanbarthol cyn rhoi'r gorau iddi'n llwyr.

Ei funud fawr oedd wrth chwarae dros y Llewod yn Ne Affrig yn 1997, fe newidiodd Jenkins ei safle i'r cefn a chicio'r Llewod i fuddugoliaeth 2-1 yn y gyfres gofiadwy.Cyhoeddodd ei hunangofiant, 'Life at Number 10' yn disgrifio ei brofiadau ar y cae yn 1999.

Parhau i ysbrydoli

Fe ymddeolodd fel yr unig chwaraewr i sgorio dros 1,000 o bwyntiau mewn rygbi rhyngwladol gyda 1,049 o bwyntiau dros Gymru a 41 arall mewn pedwar prawf i'r Llewod. Torrwyd ei record byd yn ddiweddarach gan Jonny Wilkinson.

Mae e dal yn weithgar yn y byd rygbi fel Hyfforddwr. Yn Hydref 2004 dychwelodd i Undeb Rygbi Cymru fel Hyfforddwr Sgiliau Cicio ac yn 2006 dychwelydd i'r Sgwad Cenedlaethol fel Hyffordwr Sgiliau lle gweithiodd ar ymgyrch Cwpan Rygbi'r Byd yn 2007.

Yn 2009 roedd yn Hyfforddwr Cicio arbenigol y Llewod ar eu taith i Dde'r Affrig. Mae'n parhau hyd heddiw yn ei swydd fel Hyfforddwr Sgiliau gyda Sgwad Cymru.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.