主播大秀

Orig Williams

Orig Williams

Reslwr a ddaeth yn enwog yng Nghymru a thu hwnt fel 'El Bandito'.

Bachgen Ysbyty Ifan

Ganwyd Orig Williams yn 1931, yn un o feibion Ysbyty Ifan, Dyffryn Conwy ac ymfalch茂au yn y ffaith. Dysgodd sut i focsio fel bachgen bach pan ddaeth tad y newyddiadurwr, Terry Lloyd, 芒'r p芒r cyntaf o fenyg bocsio i Ysbyty Ifan. Roedd Orig yn ddeng mlwydd oed ar y pryd, a gan ei bod yn adeg y rhyfel, byddai'r bechgyn lleol yn ymladd gyda'r efaciw卯s o Lerpwl. "Ni'n methu siarad Saesneg, nhw'n methu siarad Gymraeg - roedd cael ffeit yn naturiol!" cofiai Orig.

Roedd wastad wedi bod yn hoff o b锚l-droed, ac aeth i chwarae'r g锚m yn broffesiynol i Oldham Athletic, Shrewsbury Town a sawl t卯m yng ngogledd Cymru. Ond nid oedd Orig wedi anghofio'r sgiliau reslo a bocsio a ddysgodd tra'n aelod o'r Llu Awyr, ac aeth ati i greu gyrfa lwyddiannus fel reslwr.

Cychwynodd fel un o'r reslwyr a fyddai'n teithio o amgylch y ffeiriau i ymladd 芒 hogiau lleol.

Creu El Bandito

Meddai Orig: "Mi fydda ni'n sefyll ar lwyfan tu allan i'r babell, yn herio pawb am ffeit ac yn gweiddi 'I'll give you 拢20 if you'll go three rounds with him!' Nes i ymladd efo dynion mwy na fi, a llai na fi - a llawer oedd wedi meddwi er mwyn cael chydig o dutch courage".

Aeth Orig wedyn i'r Dwyrain Pell i reslo o flaen tyrfaoedd o hanner can mil ar ddyddiau Gwener - diwrnod o seibiant i'r Mwslemiaid. Cafodd yr enw El Bandito pan gyrhaeddodd America.

Meddai: "Ro'n i di dod o'r dwyrain pell lle roedd gan bawb fwstash fatha Mecsican. Ond pan gyrhaeddes i America, mi wnaeth un dyn ddeud 'Hey, this guy looks more like a bandit than a Mexican,' ac felly y cefais i'r enw, El Bandito".

Yn 么l Orig mae adlais o fandits neu wylliaid Ysbyty Ifan yn yr enw hefyd! "Yn yr hen ddyddiau, roedd Watkin Williams Wynn neu pwy bynnag yn rhedeg yr ardal tu hwnt i'r afon ger Ysbyty Ifan," meddai.

"Roedd o'n hel pawb o'i dir, ac yn gordrethu ac ati. Felly byddai unrhyw ddyn oedd yn gallu dianc dros yr afon i blwyf Ysbyty Ifan yn cael llonydd - a felly roedd y lle yn llond pobl ddrwg!"

Torri tir newydd

Cofeb i Orig Williams
Cofeb i Orig Williams

Daeth yn 么l i Gymru fel hyrwyddwr bocsio, gan ddylanwadu ar yrfa Randolph Turpin, un o bencampwyr pwysau canol y byd sydd 芒 chysylltiad 芒 Llandudno.

Orig hefyd oedd y cyntaf i gynrychioli merched oedd yn reslo. "Er i rai bobl wfftio'r peth yn y 1960au, roedd y neuaddau'n llawn dop ar unwaith - roedd pobl yn dyheu am weld merched yn reslo," meddai.

Bu Orig yn ysgrifennu colofn wythnosol yn y Daily Post a chyn hynny i'r Cymro. Yn 1985 cyhoeddodd ei hunangofiant, Cario'r Ddraig.

"Dwi'n cael mwynhad mawr o allu mynegi barn. Nid pawb syn cael y cyfle ac fel arfer y bobl pwysig syn cael ei wneud o. Dwi'n sgwennu dros y werin datws," meddai ar y pryd.

Bu farw yn 78 oed Tachwedd 12, 2009. Mae ei ferch, Tara Bethan, yn adnabyddus i gynulleidfaoedd Cymraeg fel cantores a pherfformwraig.

Yn Nachwedd 2011, datguddiodd Tara Bethan gofeb i'w thad yn Ysbyty Ifan.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.