主播大秀

Ray Milland

Ray Milland

23 Tachwedd 2011

Actor o Gastell Nedd ag enillodd Oscar am ei ran yn ffilm Billy Wilder, 'The Lost Weekend'. Yn enwog hefyd am ei rannau yn ffilm Hitchcock, 'Dial M for Murder' ac yn ddiweddarach, 'Love Story.'

O Nedd i Babylon

Un o'r perfformiadau mwyaf grymus yn hanes sinema oedd portread Ray Milland o'r alcoholig yn y ffilm 'The Lost Weekend'. Dyma berfformiad arloesol a heriol, mewn cyfnod lle'r oedd dangos realaeth a hagrwch caethiwed i gyffuriau yn dal i fod yn tabw.Ond sut aeth y bachgen o Gastell Nedd i Hollywood yn y lle cyntaf?

Ganwyd Ray Milland ar Ionawr 3 1907 fel Reginald Alfred John Truscott-Jones yng Nghimla, Castell Nedd. Newidodd ei enw i 'Ray Milland' pan penderfynodd ddilyn gyrfa fel actor. Cofiodd am ei gynefin trwy ddewis 'Milland' (ardal yng Nghastell Nedd) fel ei gyfenw newydd.

Dechreuodd ei yrfa fel swyddog gyda'r Cafalri Brenhinol yn Llundain. Ond penderfynodd droi at fyd fwy deiniadol yr actor fel esbonia yn ei hunangofiant gwych, 'Wide Eyed in Babylon' (1974).

Tra'n filwr, roedd wedi datblygu arbenigedd fel saethwr ac enillodd hyn waith iddo fel ecstra yn ffilm Arthur Robson, 'The Informer' (1929). Wrth ei weld yn perfformio yma, gofynnwyd iddo fynychu clyweliad ar gyfer perfformiad ar lwyfan gerllaw. Fe wnaeth argraff dda ar y cyfarwyddwr, Castelton Knight, a chafodd ei ran gyntaf fel actor go iawn fel cymeriad Jim Edwards yn 'The Flying Scotsman.'

Portread Arloesol

Cafodd gynnig cytundeb o 9 mis gan MGM wedi i Is-Lywydd y cwmni weld ei befformiad yn y Scotsman ac enillodd ei blwy yn gyflym gyda phortreadau effeithiol mewn ffilmiau fel 'Beau Geste' a 'The Major and the Minor' gyda Billy Wilder. Yn 1945 fodd bynnag daeth cyfle mawr ei yrfa.

Yn ystod y cyfnod hwn doedd yr un portread ffilm wedi dangos gwirionedd cignoeth Alcoholiaeth. Portreadau fel trempyn bach meddw Chaplin yn baglu'n ddoniol wedi iddo yfed gormod o gwrw oedd yr arferol. Felly dangosodd Milland gryn ddewrder yn derbyn y rhan. Ond fel esbonia yn ei hunangofiant, teimlai'n ddiogel yn nwylo Billy Wilder, ei hen gyfaill o'r ffilm 'The Major and the Minor' a oedd ei hun yn delio gyda phwnc heriol (sef perthynas dyn yn ei dridegau gyda merch 12 oed. Ond gyda Ginger Rogers yn portreadu'r ferch!)

Roedd 'The Lost Weekend' yn dangos brwydr ysgrifennwr o'r enw Don Birham (Milland) i drechu ei ddibynniaeth ar alcohol a'i effaith ar ei deulu a'i gariad. Enillodd y ffilm arloesol yma Oscar i Ray ac i Wilder!

Credwyd mai Milland yw'r actor sydd wedi rhoi'r araith derbyn Oscar gorau. Aeth ar y llwyfan, derbyn ei gymeradwyaeth ac yna ffwrdd ag e -heb ddweud gair!

Yn dilyn pinacl ei yrfa fe ymddangosodd Ray Milland mewn nifer o ffilmiau da fel 'Dial M for Murder' gyda Hitchcock yn cyfarwyddo, 'Ministry of Fear', 'The Man with X-Ray Eyes', 'Escape to Witch Mountain' ac eraill.

Dychwelyd i Gymru

Yn y 50gau roedd ganddo ei sioe deledu ei hun yn yr Amerig a dechreuodd gyfarwyddo ffilmiau sinema gan wneud gwaith ddigon safonol, yn arbennig gyda'r ffilm, Panic in the Year Zero (1962). Roedd hon yn ffocysu ar thema boblogaidd y cyfnod am berygl rhyfel Niwclear.

Wrth iddo heneiddio yn 1960gau cafodd mwy o rannau 'cymeriad'. Perfformiodd yn effeithiol iawn yn ffilmiau arswyd Roger Corman, yn 'Premature Burial' (1962) a'r boffin egsentrig yn The Man With X Ray Eyes (1963).

Mae'n anffodus mai dim ond unwaith yn ei yrfa y daeth Milland adre i Gymru. Ffilmiodd 'Circle of Fear' (1951), ffilm dywyll gan Jacques Tourneur. Yma roedd e'n portreadu Americanwr yn chwilota ym mhylloedd glo De Cymru a'r Alban am yr ateb i ddirgelwch marwolaeth ei frawd.

Yn ei ffilmiau olaf, nad oeddent yn gofiadwy iawn, tyfodd Milland yn fwy anystwyth ac uchel-ael yn ei berfformiadau. Er fe wnaeth ddangos fflach o'i dalent yn portreadu tad ffroen-uchel cymeriad Ryan O'Neal yn y bloc-bystar, 'Love Story', (1970), wnaeth ennill cryn glod iddo.

Yn ei flynyddoedd olaf cafodd yrfa deledu sylweddol yn ymddangos ar gyfresi poblogaidd 'Battlestar Galactica', 'Hart to Hart', 'Rich Man, Poor Man', 'Ellery Queen', 'Columbo' a 'Markham'.

Yn briod am 54 o flynyddoedd (er roedd su a son ei fod wedi mwynhau perthnasau dirgel gydag actoresau prydferth ei gyfnod fel Grace Kelly), bu farw wrth ochr ei wraig, Mal, o gancr yr ysgyfaint yn 1986.


Llyfrnodi gyda:

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.