主播大秀

Robert Owen

Robert Owen

Dyma un o feibion enwocaf Y Drenewydd, a sylfaenydd y mudiad sosialaidd a chydweithredol yn y wlad hon.

Y Sosialydd Cyntaf

Ganwyd Robert Owen yn Y Drenewydd yn 1771. Ef oedd Sosialydd cynharaf Prydain ac un o hoelion wyth y chwyldro diwydiannol.

Fe serennodd yn fachgen ysgol yn academaidd ac ar y cae chwarae. Yn ddeg mlwydd oed dewisodd i adael Y Drenewydd a chychwyn ar brentisiaeth 芒 dilledydd (draper) yn nhref Stamford, Lloegr.

Ar 么l pum mlynedd symudodd i Fanceinion i weithio yn gyntaf fel dilledydd ac yna yn y diwydiant cotwm. Yn un ar hugain mlwydd oed roedd yn rheolwr ar felin newydd sbon a yrrwyd gan b诺er st锚m a gyflogai dros 500 o weithwyr.

Ffurfiodd bartneriaeth i adeiladu rhagor o felinau cotwm yn nhalgylch Manceinion. Yna yn 1799 prynodd ei bartneriaeth drwch y melinau cotwm a phentrefi'r gweithwyr yn New Lanark, a phenodwyd Owen yn reolwr tros y fenter.

Cadwynau Crefydd

Er mae diwydiannwr mawr ydoedd, nid cyfalafwyr ydoedd o anghenraid. Yn wreiddiol bu Owen yn gefnogol i ryddfrydiaeth glasurol a iwtilitariaeth ysgolheigion megis Jeremy Bentham. Gydag amser serch hynny, trodd Owen yn Sosialydd gan wrthod y dadleuon y gallai'r farchnad rydd ar ei ffurf buraf ryddhau y dosbarth gweithiol.

Roedd yn anffyddiwr ers yn fachgen ifanc, a chanddo fawr o amser ac amynedd ar gyfer crefydd ffurfiol. Roedd yn ystyried crefydd fel proses cymdeithasol oedd yn llygru dyn ac yn eu rhwymo mewn cadwynau, gan annog hierarchaeth yn y gymdeithas.

Gwrthododd y ddysgeidiaeth fod cyflwr dyn wedi ei greu iddo ac yn anochel. Yn hytrach, roedd natur a chyflwr dyn yn cael eu liwio gan amgylchiadau a'r amgylchfyd o'i gwmpas nad oedd ganddo o reidrwydd reolaeth trosodd.

Arwr y Gweithwyr

Ceisiodd Owen i wella cyflwr ac amgylchiadau ei weithwyr trwy wella eu amodau gweithio yn y gweithle, yn ogystal 芒 chodi safon ac ansawdd eu bywydau. Gwnaethpwyd hyn trwy ddarparu ysgolion gyda'r nos i'w weithwyr a'r meithrinfeydd cyntaf o'i math i blant ei weithwyr gael mynychu gyda'r dydd.

Roedd addysg dda wrth graidd syniadau cymdeithasol ac economaidd Robert Owen. Roedd darparu system addysg dda yn fodd i godi safon bywyd person yn ogystal a hybu diwydiant a dyfeisgarwch economaidd. Cyhoeddodd eu syniadau yn ymwneud 芒 addysg o dan y teitl "A New View of Society" a ddarllenwyd yn eang.

Etifeddiaeth Gref

Roedd diweithdra enbyd erbyn 1815. Cynigodd Owen adeiladu Pentrefi Cydweithredol ar gyfer y di-waith, ond fe brofodd hyn yn rhy gostus iddo. Serch hynny, dyfalbarhaodd syniadau cydweithredol a sosialaidd Owen, ac fe anogodd fywydau cydweithredol i bawb. Yn 1824 prynodd dref o'r enw New Harmony yn nhalaith Indiana yn yr UDA er mwyn arbrofi ei syniadau cydweithredol a chymunedol. Methodd yr arbrawf yma gan fod hunanoldeb, cyfoeth a menter breifat oll wedi tyfu yn rhan annatod o isymwybod y bod dynol.

Agorwyd Amgueddfa yn Y Drenewydd yn ei enw yn 1929 sydd yn dal yn weithgar hyd heddiw.

Pan ddychwelodd Robert Owen i Loegr darganfyddodd fod nifer o fusnesau cydweithredol wedi datblygu yno. Agorodd Cyfnewidfeydd Llafur i annog masnach a chysylltiadau economaidd rhwng y busnesau bychain yma. Erbyn 1834 roedd yn undebwr ac yn bennaeth ar un o undebau llafur mwyaf y wlad sef y Grand National Consolidated Trades Union. Cwympodd yr undeb llafur yma yn fuan wedi hynny yn sgil dedfrydu y Merthyron Tolpuddle i garchar.

Yn y cyfamser ffurfiodd y teulu gymuned gydweithredol yn Swydd Hampshire yn 1844, ond eto, fe fethodd yr arbrawf yma yn sgil gorwario ar adeiladau crand a moethus.

Dychwelodd Owen i fro ei febyd yn 1858 gan dreulio diwrnodau olaf ei oes yn Y Drenewydd. Bu farw yno yn yr un flwyddyn. Mae ei syniadau sosialaidd a chydweithredol yn parhau i oroesi ar ffurf y mudiad sosialaidd a'r undebau llafur cyfoes.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.