主播大秀

Robert Recorde

Robert Recorde

Gellid honni mai Recorde yw'r Cymro mwyaf dylanwadol gan mai'r meddyg arloesol hwn a sefydlodd yr ysgol Fathemateg Seisnig gan gyflwyno algebra i Brydain. Ef hefyd greuodd yr arwydd hafaliad (=) mewn mathemateg.

Ganwyd Robert Recorde yn 1510 a magwyd ef yn Ninbych y Pysgod

Yn ymddangosiadol, dyma stori o lwyddiant mawr i'r sgolor o'r 16fed ganrif. Cafodd fynediad i Brifysgol Rhydychen oddeutu 1525 gan ennill Cymrodoriaeth yn All Souls College yn 1531.

Penderfynodd ar feddygaeth fel proffesiwn gan astudio am radd M.D. yn 1545. Dychwelodd wedyn i Gaergrawnt i ddysgu Mathemateg. Mae'n ymddangos iddo fynd i Lundain wedi hyn lle bu'n feddyg personol i'r Brenin Edward VI a'r Brenhines Mary. Fe dalodd teyrnged iddynt yn ei lyfrau.

Roedd yn amlwg yn ddyn galluog a dylanwadol iawn. Am gyfnod bu'n rheolwr y 'Royal Mint' ac yn gwasnaethu fel "Comptroller of Mines and Monies' yn yr Iwerddon.

Cred bod Recorde wedi digio gelyn gwleidyddol wnaeth ei erlyn i'r llys am enllib. Collodd ei swydd a'i arian o ganlyniad ac erbyn ei farwolaeth yn 1558 roedd e mewn carchar i ddyledwyr.

Ei funud fawr yn sicr oedd creu un o'r arwyddion pwysicaf ac amlycaf yn y byd i gyd sef yr hafaliad = (yr arwydd 'equals').


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.