主播大秀

Rowan Williams

Rowan Williams

Yn Gymro Cymraeg, dewiswyd Rowan Williams yn Archesgob Caergaint gan y Prif Weinidog Tony Blair yn 2002. Daeth felly yn arweinydd crefyddol 70 miliwn o Anglicaniaid ar draws y byd.

Y dechreuad

Ganwyd Dr Rowan Williams yn 1950 a magwyd ef yn Ystradgynlais. Cafodd ei addysg yn Ysgol Dynefwr, Abertawe. Cyn ei benodi i Gaergaint, ef oedd Archesgob Cymru ond yn dilyn ei benodiad diweddaraf i olynu Dr George Carey gellid dadlau ei fod yn dal swydd grefyddol amlycaf Prydain.

Yn dair oed, fe symudodd teulu Williams i Gaerdydd ac aros yno nes roedd Rowan yn 11 oed cyn symud i Abertawe. Yno y cafodd Williams ei addysg uwchradd a hynny yn Ysgol Dynefwr. Roedd Williams yn ddisgybl galluog iawn iawn, yn arbennig yn Lladin. Ond roedd hefyd ym mwynhau drama ac yn cymryd rhan mewn llawer o gynyrchiadau ysgol.

Ar 么l gorffen ei lefel A, fe aeth i Gaergrawnt i astudio yng Ngholeg yr Iesu ac yn 25 oed roedd wedi ennill doethuriaeth o Rydychen hefyd. Dechreuodd ar ei yrfa yn yr Eglwys yn Swydd Efrog yn dysgu mewn coleg eglwysig yn Mirfield. Yn 1979 fe'i ordeiniwyd yn offeiriad ac yn 29 oed cyhoeddodd ei waith diwinyddol cyntaf.

Mae Williams wedi dal nifer o swyddi dysgu yn Rhydychen ac yn 1986 apwyntiwyd ef yn athro diwinyddiaeth sef yr athro ieuengaf erioed yno. Yn 1991, fe'i ddewiswyd yn Esgob Mynwy a dim ond wyth mlynedd yn ddiweddarach yn Archesgob Cymru. Yng Ngorffennaf 2002 fe gadarnhawyd Williams fel olynydd Dr Carey ac yn arweinydd yr Anglicaniaid - y canfed a phedwar person i ddal y swydd.

Cymro cyntaf Caergaint

Dr Williams ydy'r Cymro Cymraeg cyntaf i'w ddewis yn Archesgob Caergaint am o leiaf mil o flynyddoedd a gorseddwyd ef ar 27 Chwefror yn Eglwys Gadeiriol Caergaint.

Cyfrifir Williams yn rhyddfrydwr os nad yn radical ei farn. Mae'n ddiwinydd amlwg iawn ac fe groesawyd yr apwyntiad gan lawer. Disgrifir ef hefyd fel person go iawn sy'n agos-atoch wrth gyfarfod pobl.

Mae'n agored iawn am ei ddiddordebau hamdden. Mae wedi son ei fod wrth ei fodd yn gwylio'r cyfresi teledu, 'Father Ted' a 'The Simpsons'. Teimla'n gryf iawn am yr amgylchfyd a 'dyw e ddim yn gyrru gan ei fod yn gredwr mawr mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hefyd yn medru siarad 7 iaith ac yn hoff iawn o gerddoriaeth Clasurol Bach a chyfnod y Baroque.

Priododd Rowan ei wraig Jane yn 1981- mae hi'n ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod ym Mryste ac mae ganddynt ddau o blant sef Rhiannon a Pip.

Yn Chwefror 2008, cafwyd ton o brotest yn dilyn sylwadau y Parchedicaf Dr Rowan Williams am gyfraith Sharia y Moslemiaid mewn darlith gerbron yr Uchel Lys Brenhinol. Dangosai hyn ei fod bob amser yn barod i leisio ei farn er y perygl o dynnu nyth cacwn i'w ben.

Nyth Cacwn

Dr Rowan Williams yw'r Archesgob galluocaf a gafodd Caergaint ers canrifoedd, ac fe all mai dim ond ar 么l iddo ymadael y bydd yr Eglwys yn gweld ei wir werth.

Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan

Siaradodd am anghyfiawnder rhyfel Iraq ac mae wedi cyflogi offeiriad hoyw yn y gorffennol er iddo gael ei feirniadu am hynny. Siaradodd hefyd am wendidau Llywodraeth Prydain yn 2011 a'r ffaith nad oedd hi wedi ennill pleidlais y mwyafrif ac yn ymrwymo'r wlad i benderfyniadau mawr nad oedd ei phobl wedi cael y cyfle i bledleisio drostynt.

Gellid dadlau fodd bynnag ei fod wedi gwneud llawer i roi'r Eglwys ynghanol materion cyhoeddus y dydd. Ac mae hyn yn beth da iawn o feddwl am ddirywiad dylanwad y sector grefyddol ar gymdeithas yn gyffredinol.

Ymddiswyddo

Yn ystod Hydref 2011, wynebodd Eglwys Sant Paul yn Llundain brotestwyr 'Occupy London' yn gwersylla fel rhan o brotest byd-eang yn erbyn Sgandal y Banciau y tu allan i'w drysau. O ganlyniad fe ymddiswyddodd Graeme Knowles, Deon San Paul, i ddangos ei gefnogaeth o'r achos.

Rhyddhaodd Rowan Williams ddatganiad yn talu teyrnged i gyfraniad Graeme Knowles gan gyfeirio at y pwysau a wynebodd Eglwys Sant Paul o ganlyniad i'r brotest. Nododd hefyd bod yn rhaid i'r Eglwys ac i gymdeithas i edrych ar y materion a godwyd yn y brotest i weld sut y gellid delio gyda nhw. Siaradodd hefyd o blaid y posiblrwydd o godi Treth 'Robin Hood' ar y banciau sydd yn ymgyrch mae 'Occupy London' yn ei gefnogi.

Ar ddechrau 2012, cyhoeddwyd y byddai'n rhoi'r gorau i'w swydd fel Archesgob Caergaint y mis Rhagfyr dilynol, wedi 10 mlynedd wrth y llyw, ac yn ymgymryd 芒 swydd newydd fel Meistr Coleg Madlen, Prifysgol Caergrawnt.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.