主播大秀

Ryan Davies

Ryan Davies

Ganwyd Ryan Davies yng Nglanaman Sir Gaerfyrddin ar Ionawr 22, 1937.

Fe ddechreuodd yr actor, y canwr a'r ysgrifennwr Ryan Davies ei yrfa fel athro. Fe ddilynodd gwrs dysgu yng Ngholeg Normal Bangor yn 1957 cyn dilyn blwyddyn o gwrs yn Central School of Speech and Drama yn Llundain.

Yn ystod y 1960au fe ddysgodd am chwe mlynedd mewn ysgol uwchradd yn Croydon ond yn perfformio ar yr un pryd yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ymddangos yn aml mewn nifer o raglenni teledu ar gyfer y 主播大秀 a'r TWW. Fe briododd Irene Williams yn 1961 gan adael y proffesiwn dysgu yn 1966.

Fe ymddangosodd fel actor proffesiynol am y tro cyntaf ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn y ddrama Pros Kairon. Yn 1968, gafodd y brif ran yn Y Drwmwr y ddrama deledu gyntaf yn y Gymraeg i gael ei darlledu gydag is-deitlau.

Gofynnwyd iddo wneud y rhaglen deledu Gymraeg - Ryan a Ronnie a bu'r rhaglen yn llwyddiant ysgubol a gofynnwyd i'r ddau wneud cyfres fer o'r enw The Good Old Days yn Blackpool. Ryan a Ronnie oedd un o'r deuawdau mwya' talentog yng Nghymru - ac roedd y berthynas hon rhwng y ddau yn cael ei hymdebygu i Morecambe and Wise yn y Saesneg.

Yn y cyfamser, fe gyhoeddwyd mai ef a fyddai'n chwarae ail-lais i Richard Burton yn y ffilm, Under Milk Wood .

Cafodd Ryan a Ronnie beth llwyddiant yn gwneud pantomeimiau - Cinderella a Dick Whittington , ond fe benderfynasant wahanu. Yn dilyn y gwahanu, yn 1975 ymddangosodd Ryan mewn sioe bantomeim Mother Goose ar ei ben ei hun.

Rhwng 1970 a 1977 cymerodd ran yn un o gyfresi teledu Cymraeg mwyaf poblogaidd ei ddydd, Fo a Fe, gan a Rhydderch Jones.

Deilliai comedi'r gyfres o'r gwrthdaro rhwng y gogledd a'r de yng nghymeriadau Ryan (Twm Twm, yr 'hwntw') a Guto Roberts (Ephraim, y 'gog').

Fe gafodd flwyddyn brysur iawn yn 1976 pan ymddangosodd yng nghomedi The Sunshine Boys yng Nghaerdydd a dwy ddrama Gymraeg, Welsh Not a Merthyr Riots . Y flwyddyn ganlynol fe actiodd yn Jack and the Beanstalk ac wedyn yn Babes in the Wood.

Ymddangosodd wedyn yn y rhaglen deledu Ryan, a alluogodd iddo ddangos ei dalentau amrywiol, yn ogystal 芒 rhaglen deyrnged i Saunders Lewis ar HTV, sef A Necessary Figure . Roedd yn bosibl ei glywed hefyd ar y radio yn The Breakers. Fe chwaraeodd nifer o gymeriadau yn cynnwys twrist Americanaidd yn rhaglen deledu 主播大秀 Cymru, How Green Was My Father ac ymddangosodd yn Poems and Pints ar 主播大秀2.

Bu farw pan oedd ond yn 40 oed yn Buffalo, Yr Amerig ar Ebrill 22, 1977 wedi cael pwl mawr o asthma.

Mae ei fab, Arwyn Davies, yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yn chwarae rhan Mark Jones yn yr opera sebon Pobol y Cwm ar S4C. Mae hefyd yn gerddor a chanwr dawnus, yn dilyn 么l troed ei dad.


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.