主播大秀

Ryan Giggs

Ryan Giggs

Un o b锚l droedwyr mwyaf llwyddiannus Cymru.

Un o'r chwaraewyr mwyaf enwog yn y g锚m, mae'r asgellwr yma o Manchester United a Chymru wedi ennill bron bob cwpan neu fedal sydd ar gael i'w glwb, adref a thramor.

Wedi ei eni yng Nghaerdydd ar Dachwedd 29, 1973, symudodd Giggs a'i deulu i Fanceinion pan oedd o'n saith, ond gyda rhieni o Gymru ac yn ffyrnig o ffyddlon i'w wlad enedigol, doedd chwarae dros Loegr ddim yn ddewis iddo.

P锚l-droed oedd yn mynd 芒 bryd Giggs ac yn 9 oed fe'i gwelwyd gan un o sgowtiaid Manchester City ac ar 么l hynny bu'n chwarae'n gyson mewn cystadlaethau lleol. Fe ymddangosai ar y cychwyn cyntaf mai i City y byddai Giggs yn chwarae ond yn 14 oed fe arwyddodd i d卯m ieuenctid United.

Ar 么l blynyddoedd o hyfforddi fe wnaeth ei ddebut cyntaf yn 1991 ac mae'n aelod gwerthfawr iawn o d卯m llwyddiannus Alex Ferguson.

Enillodd Giggs wobr Brydeinig Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y 主播大秀 ar gyfer 2009. Ef hefyd wnaeth gipio Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 主播大秀 Cymru'r un flwyddyn.

Roedd 2009 yn flwyddyn gofiadwy i'r chwaraewr canol cae Manchester United a chyn gapten Cymru gan iddo ennill Uwchgynghrair Lloegr am yr unfed tro ar ddeg. Does yr un chwaraewr arall wedi ennill prif gynghrair Lloegr mwy o weithiau na Giggs, oedd wedi ymddeol o b锚l-droed rhyngwladol yn 2007.

Yn 2011 bu'n rhan o stori ymfflamychol iawn am ei fywyd preifat yn y wasg a ledodd i'r Senedd ac a lenwodd y papurau dyddiol am wythnosau.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.