主播大秀

Scott Quinnell

Scott Quinnell

Un o chwaraewyr mwyaf blaenllaw Parc y Strade, Llanelli.

Ganwyd Scott ar 20 Awst 1972 ac fe'i magwyd yn Nhreforys. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Graig, Llanelli.

Mae Scott Quinnell, hen Wythwr Scarlets Llanelli, wedi chwarae rygbi ar y lefel uchaf gan gynrychioli Cymru a'r Llewod. Dydy hyn ddim yn syndod o ystyried ei fod e'n fab i Derek Quinnell, un o s锚r y byd rygbi yn y 1960au.

Ymunodd Scott 芒 Chlwb Rygbi Llanelli yn 1990, pan oedd yn ddeunaw oed. Dros y pedair mlynedd canlynol chwaraeodd i'r t卯m 146 o weithiau, gan sgorio 32 cais. Yn 1994 fe adawodd Rygbi Undeb ac arwyddodd gytundeb 芒'r Clwb Rygbi Cynghrair, Wigan, mewn trosglwyddiad gostiodd 拢400,000. Fe'i gapiwyd i Gymru tra'n dal ym myd Rygbi Cynghrair, cyn dychwelyd i Rygbi Undeb yn 1997 i d卯m Richmond. Serch hynny fe ddychwelodd yn fuan i Lanelli yn 1998 pan aeth Richmond allan o fusnes.

Yn 1993 cynrychiolodd Quinnell Cymru am y tro cyntaf, yn erbyn Canada y Mharc yr Arfau, Caerdydd. Yn ddigon rhyfedd roedd y g锚m olaf chwaraeodd dros ei wlad hefyd yn erbyn Canada yn 2002. Dros y cyfnod hwn o naw mlynedd fe enillodd 52 cap, sgoriodd 11 cais a chapteiniodd y t卯m ar 7 achlysur.

Yn ogystal 芒 hyn bu'n rhan o garfan y Llewod ddwywaith, i Dde Affrica yn 1997 ac Awstralia yn 2001, gan ennill 3 cap a sgorio un cais.

Yn Nhachwedd 2004 fe gyhoeddodd Scott, oedd yn 32 ar y pryd, ei fod am ymddeol o fyd Rygbi proffesiynol, er y byddai'n parhau yn ei r么l fel hyfforddwr ym Mharc y Strade. Mae Scott yn briod 芒 thri o blant.

Ar Fawrth 26 2005, cyhoeddoedd Scott ei fod wedi chwarae ei g锚m rygbi cystadleuol olaf oherwydd anaf i'w law. Roedd Scott wedi gobeithio ymddeol ar ddiwedd y tymor 2004/2005.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.