主播大秀

Sh芒n Cothi

Shan Cothi

Y gantores amryddawn o Ffarmers -enillydd Rhuban Glas, actores arobryn a chyflwynwraig llawn bwrlwm!

Merch Ffarmers

Cafodd Sh芒n ei magu yn Ffarmers, Llanwrda gan raddio o Brifysgol Cymru Aberystwyth gyda gradd mewn Cerddoriaeth a Drama. Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes a Phennaeth yr Adran Gerdd yn Ysgol Caereinion, Powys.

Dechreuodd ganu'n broffesiynol fel Soprano yn 1995 pan enillodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n berfformwraig amryddawn ac yn gartrefol yn canu opera, oratorio, cerddoriaeth cyfoes a theatr.

Mae wedi cael cryn lwyddiant yn y cyfryngau gyda'i chyfres gerddoriaeth ar S4C yn ennill y BAFTA a gwobr y Rhaglen Gerdd Orau yng Ngwyl Montreux. Ymddangosodd hefyd yng nghynyrchiad S4C o 'Messiah' Handel gyda Bryn Terfel, fel unawdydd yn 'Proms yn y Parc' i'r 主播大秀 ac yn y Royal Gala ar achlysur agoriad Canolfan Mileniwm Cymru ar 主播大秀 4. Fe gyflwynodd 糯yl Rhyng-Geltaidd L'Orient i S4C a bu'n banelydd ar raglenni 主播大秀 Wales fel 'Just Up Your Street' a'r 'Lyrics Game'.

Con Passionate

Yn 2005 ymddangosodd Sh芒n yn ei rhan deledu gyntaf fel actores yn portreadu'r rhan flaenllaw, Davina Roberts, yng nghyfres ddrama boblogaidd S4C, 'Con Passionate'. Enwebwyd hi yn y categori, 'Newydd-ddyfodiad' yng Ngwobrau BAFTA Cymru yn 2006. Darlledwyd trydedd gyfres Con Passionate (a'r un olaf hyd yn hyn) ar S4C ar ddiwedd 2008.

Perfformiodd Sh芒n ran Carlotta yng Nghynhyrchiad Andrew Lloyd Webber o 'The Phantom of the Opera' yn y West End yn Llundain am 15 mis yn Theatr Ei Mawrhydi. Yn 2006 portreadodd ran Mary Roberts yn Sioe Gerdd Gymreig Mal Pope a Frank Vickery, 'Amazing Grace' ar daith gyda Chwmni Theatr Cymru.

Yn yr un cyfnod bu'n unawdydd mewn cyngerdd deyrnged i Ivor Novello yn Theatr Novello, Llundain, Canolfan Mileniwm Cymru ac yn San Francisco. Perfformiodd hefyd mewn Cyngerdd Dydd G诺yl Dewi arbennig oedd yn deyrnged i Dylan Thomas yn Efrog Newydd. Canodd yr Anthem Genedlaethol i 72,000 o bobl yn Stadiwm y Mileniwm oedd yn cloriannu blwyddyn hynod o lwyddiannus iddi'n broffesiynol.

Yn 2005 hefyd aeth Sh芒n ar daith trwy Gymru gyda'i sioe boblogaidd 'Cothi and Cream' gydag 'Only Men Aloud'. Bu Sh芒n hefyd yn westai cyson ar 'Friday Night is Music Night' gyda Cherddorfa'r 主播大秀. Perfformiodd hefyd gyda'r Royal Philharmonic Orchestra yn 2007 fel rhan o'r gyfres ''Here Come the Classics'. Yn 2007, perfformiodd am y tro cyntaf fel unawdydd yn y Proms Cymraeg gydag Owain Arwel Hughes yn arwain.

Profedigaeth

Yn yr un flwyddyn cyflwynodd ei halbwm cyntaf, 'Passione' gyda'r Gerddorfa Siambr Genedlaethol Gymreig, gyda'r delynores Catrin Finch yn cyfeilio. Cafodd fideo yn hyrwyddo un o'r caneuon wobr y 'Fideo Mwyaf Poblogaidd' ar Deledu Classic FM.

Parhaodd Sh芒n gyda'i hamserlen brysur yn 2007 trwy gyflwyno nifer o raglenni radio a theeldu yn cynnwys 'Sh芒n Cothi' i S4C. Yn yr un flwyddyn, cafodd hi brofedigaeth trist iawn, sef colli ei hannwyl briod, Justin Smith, wnaeth farw o gancr yn 42 oed.

Sefydlodd Sh芒n yr elusen, 'Amser Justin Time' i godi arian ac ymwybyddiaeth o Gancr y Pancreas, er cof am Justin ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Yn ddiweddar mae Sh芒n wedi bod yn brysur fel cyflwynydd cyfres Radio Cymru, 'Cyfle Cothi', lle mae Cymry ifanc cerddorol yn cael cyfle i gael eu mentora gan gantorion a cherddorion proffesiynol. Perfformiodd yng Nghyngerdd Swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011. Bu hefyd yn perfformio yng Nghyngerdd Nadolig 主播大秀 Cymru gyda'r tenor, Wynne Evans, ar gyfer S4C.


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.